Bydd llawer o ddarllenwyr y Cylchgrawn wedi cwrdd â Dewi Penrhiw-las yn y cynadleddau blynyddol yn Aberystwyth, a’r pregethwyr a’r gweinidogion yn ein plith yn ei gofio’n ‘Pastor’ a henuriad am flynyddoedd lawer yn eglwys Bryn Moriah ger Cynwyl Elfed, ychydig o filltiroedd i’r gogledd o Gaerfyrddin. Fe aeth i’w wobr ar 10 Mawrth 2014 yng nghartref ei ferch, Llinos, yng Nghaerdydd, lle treuliodd ei fisoedd olaf.
Cafodd ei fagu ar Fferm Pant-rynn yn Llanpumsaint, yn un o bedwar brawd ac un chwaer. Yn debyg i lawer o’i genhedlaeth, mynychodd y capel yn rheolaidd ond, yn bwysicach, roedd yn gwybod y gwirionedd am Gristnogaeth go iawn trwy dystiolaeth Capel Caersalem yn y pentref, er iddo gyfaddef nad oedd yn wir gredadun, nac yn gadwedig y pryd hwnnw. Roedd yn gwybod nad oedd crefydd yn ddigon, na gweithredoedd da, na thraddodiad. Disgrifiodd ei hun yr adeg hon , hefyd, yn ‘ddyn y byd yma’ gan fwynhau’r ‘pleserau’ mae’r byd hwn yn eu cynnig.
Roedd symudiad o Ysbryd Duw wedi bod yn ardal Llanpumsaint rai blynyddoedd cyn hyn ac fe losgodd y tân o hyd mewn sawl calon. Disgrifiodd Dewi freuddwyd a gafodd bryd hynny gyda thair croes a dynion ar bob un. Clywodd lais yn gofyn iddo, “Wyt ti’n nabod yr Un ar y groes ganol ?’ Atebodd Dewi, ‘Rwy’n nabod y ddau ar bob ochr ond nid yr Un yn y canol gan fod mwgwd dros ei wyneb’. ‘Nage’, meddai’r llais yn ei freuddwyd, ‘nid wyt yn ei weld oherwydd dros dy wyneb di mae’r mwgwd’.
Beth amser wedi hynny, cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd efengylu yng Nghaersalem gyda Hywel Griffiths, Pen-y-bont ar Ogwr, yn pregethu. Cafodd yr oedfaon effaith fawr ar Dewi ond ni ddaeth i sicrwydd llawn o iachawdwriaeth tan ddydd Sul y Pasg 1954 pan gafodd gymorth gan Willie Jones, Fferm y Clytai, i ymddiried yn llwyr yn y Gwaredwr. Taflodd ei feichiau ar Galfari ac roedd Iesu yn agos iawn. Roedd taith ysbrydol Dewi wedi dechrau.
Ar ôl priodi Enid, symudodd Dewi i Fferm Penrhiw-las rhwng Tre-lech a Thalog, lle bu’n ffermio am dros hanner can mlynedd. Fe wnaeth y teulu eu cartref ysbrydol yn Eglwys Bryn Moriah, ychydig filltiroedd i ffwrdd, ac yn fuan daeth yn arweinydd yno.
Roedd Dewi yn gryf ym mhob ffordd – yn gorfforol, yn emosiynol ac, yn bwysicach o lawer, yn ysbrydol. Roedd yn ffermwr da, yn hoff o’i deulu, yn arweinydd naturiol ac yn Gristion cyson a chadarn. Yn ei angladd pwysleisiodd Dafydd Morris yr angen oedd ar Dewi, fel pawb arall, am nerth oddi uchod, gan fod ei nerth naturiol yn annigonol i ddelio â’i bechod a’i ganlyniadau. Dymuniad Dewi oedd rhoi y clod i gyd i’w Waredwr nerthol.
Yn ystod ei fywyd hir a bendithiol, ni fu’r llwybr yn hawdd ac esmwyth drwy’r amser ac fe wynebodd galedi fel milwr da i Iesu Grist. Trwy’r cyfan, roedd ffydd gadarn ganddo a sicrwydd o fuddugoliaeth lwyr trwy’r Arglwydd. Wynebodd ei salwch terfynol yn yr un modd. Tystiodd ei ferched ei fod yn canu o hyd, ac roedd ganddo obaith sicr. Dywedodd ar y ffôn wrth Dai Rees o Fryn Moriah, ‘Os na wela’i ti, Dai, lawr yma eto, fe welwn ein gilydd ar yr ochr draw’.
Dri diwrnod cyn ein gadael, ac yntau yn ei wely, fe ddywedodd wrth ei ferched, ‘Beth am ganu?’ a chanu a wnaethant, ganeuon Seion, gyda Dewi yn arwain y ffordd ac yn cofio’r penillion yr oedd y merched yn ymdrechu’n galed i’w cofio. Yna, gyda’i lygaid ar gau, ‘Oes gair o dystiolaeth?’ Gweddïodd Dewi a thystiodd y merched ‘i’r nefoedd ddod i lawr’. Yr ‘Amen’ i’r weddi hon oedd y gair olaf a ddywedodd yr ochr yma i’r gogoniant. Cafodd fynediad helaeth i’r deyrnas dragwyddol.
Rydym yn ddiolchgar iawn am realiti nerth a gras Duw ym mywyd Dewi. Gwelir ei eisiau yn fawr, gan ei deulu, ei ffrindiau, a’r eglwys, ond mae’r Gwaredwr yr oedd yn ei adnabod, a’r bendithion y profodd, ar gael i ni i gyd.
Bydd canu yn y nefoedd
Pan ddêl y plant ynghyd
Y rhai fu oddi cartref
O dŷ eu Tad cyhyd;
Dechreuir y gynghanedd
Ac ni bydd wylo mwy,
Ond Duw a sych bob deigryn
Oddi wrth eu llygaid hwy.