Addewid Feiddgar
Ceir llawer o addewidion yn yr Hen Destament, ond does dim un yn fwy beiddgar na’r un a geir yn nawfed pennod llyfr Eseia.
Mae’r addewid yn ymwneud â goleuni (ad. 2), llawenydd (3), rhyddid a thangnefedd (4) i’r rhai sy’n rhodio mewn tywyllwch (1,2).
O ddechrau’r broffwydoliaeth gwelwn fod Israel a Jwda mewn tywyllwch yn nyddiau Eseia. Ceir yno ofergoeliaeth (2:6), materoliaeth (2:7; 5:8-9), eilunaddoliaeth (2:8,20), balchder (2:12-17), cnawdolrwydd (3:16-26), alcoholiaeth (5:11-13, 22), chwalfa gymdeithasol (3:5-6, 12-14).
Mae’n ddarlun cyfarwydd a chyfoes. Nid yn unig yn amser Eseia y bu hi felly: dyma ddadansoddiad y Beibl o gyflwr anghredinwyr ym mhob oes. Mae eu calonnau’n dywyll, a gwell ganddynt y tywyllwch na’r goleuni (Ioan 3:19).
Addewid i’r rhai sydd yn y cyflwr hwn yw hon.
Addewid am Berson
Sut y gwireddir yr addewid? Pwy all ddod â goleuni a rhyddid, ac ym mha ffordd? Rhydd y proffwyd gliwiau i ni:
‘Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni’. Bachgen! Dyna syndod. Un o gig a gwaed sy’n mynd i gyflawni’r addewid. Mae’n un fydd yn gallu uniaethu â ni.
‘Cynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn, Tad bythol, Tywysog heddychlon’. Bachgen yw’r un sydd i ddod, ond fe fydd mor fawr â’r Duwdod ei hun hefyd. Bydd yn ddyn i uniaethu â ni, ond yn ddigon cryf i lyncu’r broblem yn llwyr.
‘Ni bydd diwedd ar gynnydd ei lywodraeth’. Brenin fydd y Mab, a bydd ei frenhiniaeth yn parhau’n dragwyddol, gan gynyddu mewn gogoniant.
Pwy yw hwn? Am bwy mae’n sôn?
Cyflawni’r Addewid
2000 o flynyddoedd yn ôl, ym mywyd Iesu o Nasareth, y dechreuwyd cyflawnwi’r addewid. Mae Efengyl Mathew yn datgan bod agweddau ar broffwydoliaeth Eseia’n cael eu cyflawni ym mywyd Iesu (Math.4:14-16). Ar ddechrau ei weinidogaeth gyhoeddus datganodd Iesu fod Eseia 61 ‘heddiw yn eich clyw wedi ei chyflawni’, ac yn fwy cyffredinol, dywedodd Iesu am yr Ysgrythurau: ‘tystiolaethu amdanaf fi y mae’r rhain’ (Ioan 5:39)!
Sylwn ar ryfeddod geiriau’r Efengylau:
- ‘Myfi yw goleuni’r byd’ (Ioan 8:12).
- ‘Dywedodd yr angel, “Peidiwch ag ofni oherwydd wele, yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newyddion da am lawenydd mawr a ddaw i’r holl bobl”’ (Luc 7:10).
- ‘Mae fy iau i yn hawdd ei dwyn a’m baich yn ysgafn’ (Math. 11:30). ‘Cewch wybod y gwirionedd a bydd y gwirionedd yn eich rhyddhau’ (Ioan 8:32).
- ‘Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chi fy nhangnefedd i fy hun’ (Ioan 14:27) .’Yr wyf wedi dweud hyn er mwyn i chwi ynof fi, gael tangnefedd. Yn y byd fe gewch orthrymder, ond codwch eich calon, yr wyf fi wedi gorchfygu’r byd’ (Ioan 16:33).
Dyma’r Mab a aned yn addo goleuni, llawenydd, rhyddid a heddwch i’r rhai sydd yn rhodio mewn tywyllwch!
Do, cyflawnwyd yr addewidion yn Iesu Grist – y Duw-ddyn. Dyma’r un oedd gyda’i Dad yn y dechreuad (Ioan 17), yr un a ddibrisiodd ei hun, gan ddod ar wedd dynol, ei eni’n fachgen bach, a bod yn ufudd trwy ei fywyd, hyd angau, ie, angau ar y groes (Phil,.2:7-8). Dyma’r un sydd yn awr yn teyrnasu ar ddeheulaw ei Dad am byth (Phil 2:9, gweler Luc 1:32,33).
Does ryfedd mai’r ‘bachgen bach Iesu fydd testun y canu’ yn nhragwyddoldeb.:
Yr Hen Ddihenydd yn ddyn gwan,
Mewn preseb dan ei rwymau;
Y Gair tragwyddol ar lin Mair,
Heb fedru gair o’i enau!
O’i ddyfod yn gnawd mae’n gwbl addas i fod yn Waredwr i rai fel ni – yn un sydd yn gallu deall a chydymdeimlo â’n gwendid (Heb 4:15) ond sydd hefyd yn gallu cario’r orsedd ar ddiafol, cnawd a byd.
Llawnder yr Addewid
Gallwn ninnnau, heddiw, y Nadolig hwn, brofi goleuni, llawenydd, rhyddid a thangnefedd! Ond ryw ddydd cawn brofi hyn yn ei gyflawnder. Mae hyd yn oed mwy i ddod i’r Cristion! Yn y byd hwn fe fydd y goleuni, llawenydd, rhyddid a thangnefedd yn parhau’n gymysg gyda phrofiadau anodd a chas, ond daw amser pan gawn eu profi’n bur ac yn llawn.
‘Bydd sêl ARGLWYDD y Lluoedd yn gwneud hyn’ (ad 7). Bwriad yr Arglwydd yw’r sicrwydd. Ei ffyddlondeb a’i sêl ef a sicrhaodd i’r Bachgen gael ei eni, a fe hefyd fydd yn sicrhau y daw’r cyfan i gyflawnder ryw ddydd.
Dyma gyflawniad terfynol yr addewid a roddwyd ‘yn Eden drist’ y deuai Had y Wraig i sigo pen y Sarff, a’r cyfamod wnaed ag Abraham i fod yn Dduw iddo ac i’w had. Mae enw da ein Duw yn y fantol ac mae ei sêl a’i eiddigedd dros ei ogoniant ei hun yn mynd i sicrhau na fydd neb, na dim, yn rhwystro na drysu ei fwriadau.