Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Blodau Hardd Williams ac ysgrifau eraill

13 Tachwedd 2014 | gan Edmund Owen

Blodau Hardd Williams ac ysgrifau eraill – Detholiad o ysgrifau a gyhoeddwyd yn y Cylchgrawn Efengylaidd

  • gan Edmund T Owen.
  • 216tud.
  • Clawr Meddal.
  • ISBN 978-1-85049-249-8
  • RRP £9.99

 

Amrywiaeth, hiwmor, canfyddiad arbennig a gwahanol yn aml – a’r cyfan mewn rhwymyn Beiblaidd agos-atoch-chi. Dyna ond rhai o rinweddau’r ysgrifau hyn.
Gyda’i dafod yn ddofn yn ei foch dywedodd fy nghyfaill, Edmund Owen, fod dechrau’r gyfres “Arhoswch Funud” yn Y Cylchgrawn Efengylaidd flynyddoedd yn ôl wedi derbyn cwyn gan ddarllenwyr. Dylai fod yn “Arhoswch awr neu fwy”! Gwireddwyd y dyhead gyda chyhoeddi’r gyfrol hon.
Cafodd iaith ac arddull Edmund eu canmol gan feirniaid llenyddol craff wrth ystyried ei gyfieithiadau o waith C S Lewis i’r Gymraeg. Gwelir yr un glendid a naturioldeb yn yr ysgrifau hyn hefyd.
Mae yma ysgrif at ddant pawb. Mwynhewch y darllen gan fyfyrio uwch y cynnwys wrth bori trwy’r gyfrol.
– Peter Hallam (cyn ysgrifennydd MEC)

Prynu

Adnodd diwethaf