Ganwyd fy nhad, Meirion Davies, yn 1890 ar fferm Tal-y-bont, Rhyducha, gerllaw’r Bala, yn fab i rieni duwiol. Yn ystod diwygiad 1904 cofia ei chwaer fynd heibio’r capel a chlywed y plant yn canu, ‘Fi, fi, yn cofio amdanaf fi; O ryw anfeidrol gariad, yn cofio amdanaf fi.’ Gwnaeth yr adnabyddiaeth bersonol hon o Grist argraff fawr ar fy nhad, fel cymaint o bobl grefyddol y cyfnod. Daeth i weld ei angen personol ef ei hun am Waredwr i’w achub a rhoi bywyd newydd iddo.
Roedd wrth ei fodd yn mynychu’r capel, ac er bod dysgeidiaeth Feiblaidd yn beth prin ar gyfrif y ddiwinyddiaeth ryddfrydol oedd yn y pulpud, llwyddai bob amser rywfodd i gael maeth ar gyfer ei enaid yn ystod y gwasanaeth. Darllenai’r Beibl, a chlywn ef yn gweddïo yn ei ystafell wely. Roedd ei Feibl, ei lyfr emynau a’i gâs sbectol yn llawn o ddarnau papur gyda nodiadau ar bethau oedd wedi ei daro. Dim ond ar ôl dod yn Gristion fy hun, pan oeddwn bron yn 17 mlwydd oed, y des i’w ddeall yn iawn. Roeddwn yn bechadur mewn angen Gwaredwr, ac mae’n sicir fod fy nyfod i ffydd yng Nghrist wedi bod yn llawenydd mawr iddo ar adeg pan oedd prinder gwir brofiad Cristnogol. Bu farw yn 63 mlwydd oed yn y sicrwydd y câi dreulio tragwyddoldeb yng nghwmni ei Arglwydd. Y noson cyn iddo farw clywodd cydnabod iddo, a oedd yn y gwely gyferbyn, ef yn canu yr emyn ‘Ar lan Iorddonen ddofn’, gan orffen yn fuddugoliaethus.
Roedd fy nhad yn saer ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Er mwyn cael mynediad i’r Royal Engineers fe wirfoddolodd, ac anfonwyd ef i Newark yn swydd Nottingham i’w hyfforddi. Cyn ei anfon i Fflandrys cafodd ganiatâd i ymweld â’i gartref am 24 awr. Doedd neb yn ei ddisgwyl, ac yn ddistaw agorodd y drws a chael ei dad ar ei liniau yn gweddïo gyda’r teulu a’r gweision. Ymunodd â hwy yn dawel trwy benlinio ar y trothwy. Ac yntau’n clywed geiriau o eiriolaeth am ei ddiogelwch, daeth dagrau i’w lygaid, ac yn ddiweddarach soniai am y munudau hynny fel rhai o funudau mwyaf cysegredig ei fywyd. Bu farw ei dad ychydig cyn diwedd y Rhyfel pan gafodd ddamwain ar y cae gwair. Arferai fy nhad benlinio wrth ei wely yn y baracs, waeth pwy a’i gwelai. Ar y cychwyn byddai’r milwyr eraill yn taflu esgidiau a phethau eraill ato, ond ni chymerai sylw ohonynt. Ymhen amser peidiodd hyn, ac ymunodd eraill ag ef ar ei liniau. Wrth wasanaethu yn y fyddin bu ym mrwydrau’r Somme ac Ypres.
Rhan o waith y Royal Engineers oedd dinistrio pontydd i rwystro ymosodiad y gelyn, ac adeiladu eraill pan fyddai’r Cynghreiriaid yn symud ymlaen. Unwaith, pan oeddent wrthi’n dinistrio pont, disgynnodd cawod o sieliau arnynt ar bob llaw. Wnaeth yr un ei daro ef, ond yr oedd yn wlyb ddiferol gan y dfir a dasgai o’r afon islaw. Am ei wroldeb pwyllog ynghanol y tanio, dyfarnwyd iddo’r Military Medal yn haf 1918. Gwelodd olygfeydd ofnadwy wrth fynd â negesau ar hyd y ffosydd.
Un tro, trawodd darn o shrapnel ef yn y fron, ond torrwyd ar ei rym gan Feibl ym mhoced ei frest. Dro arall, cafodd ei fintai orchymyn i ymadael â’u sied ar unwaith, gan fod yr Almaenwyr yn agosáu yn gyflym. Roedd tryc yn aros y tu faes, ac i mewn â phawb iddo yn syth. Yn sydyn, cofiodd fy nhad iddo adael ei Feibl yn y sied, ac felly yn ôl ag ef i’w gael. Tra oedd wrthi cafodd y tryc ei daro, ac yn drist iawn lladdwyd pawb oedd ynddi.
Llwyddodd i fynychu ysgol Sul Gymraeg pan oedd yn gwasanaethu. Deuai rhyw 17 i hon, ac fe’i cynhelid yn Tourcoing gerllaw Lille, ac yn agos i’r ffin â gwlad Belg. Mae profiadau fy nhad yn ystod y rhyfel yn adlewyrchu 1 Samuel 2:30: ‘Canys fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf fi’. Dywedodd mewn llythyr i’w frawd a’i chwaer-yng-nghyfraith, Mr a Mrs Ellis Davies (rhieni Mari Jones gynt, Frynucha, Llanymawddwy):
‘Fy ngweddi yw ‘Dyro gymorth Arglwydd i rodio er dy glod a byw drwy ffydd o ddydd i ddydd gan gyrchu at y nod’ A gwir ydyw y pennill yma i mi. Nid oes funud bach o’m bywyd, na fuost Arglwydd yn dda i mi.’ (nos Lun, 6 Mai, 1918).*
Meira Evans
* Cyhoeddwyd y llythyr gyflawn yn rhifyn Gaeaf 2010 o’r Cylchgrawn. Ymddangosodd yr ysgrif yn wreiddiol yn Kerusso, cylchgrawn Eglwys Efengylaidd Llanelli (Nadolig 2010). Gyda diolch.