Yr efengyl yw’r unig neges sydd o werth tragwyddol. Y newyddion da am eni gwyrthiol, bywyd a gweinidogaeth perffaith, marwolaeth aberthol, atgyfodiad buddugoliaethus, esgyniad, teyrnasiad ac ail ddyfodiad yr Arglwydd Iesu Grist yw unig obaith dynolryw. Rhaid cyhoeddi’r fath newydd rhyfeddol a galw ar bawb i edifarhau a chredu.
Oherwydd os wyf yn pregethu’r Efengyl, nid yw hynny’n achos ymffrost imi, gan fod rheidrwydd wedi ei osod arnaf. Gwae fi os na phregethaf yr Efengyl! (1 Corinthiaid 9:16)
Mae cysylltiad annatod rhwng ffydd, pregethu’r efengyl ac iachawdwriaeth. Dyma gadwyn lle mae pob dolen yn bwysig er mwyn profi grym y bywyd newydd yng Nghrist.
Oherwydd, yng ngeiriau’r Ysgrythur, ‘bydd pob un sy’n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub, pwy bynnag yw.’ Ond sut ymae pobl i alw ar rywun nad ydynt wedi credu ynddo? Sut ymaent i gredu yn rhywun nad ydynt wedi ei glywed? Sut ymaent i glywed, heb fod rhywun yn pregethu? Sut ymaent i bregethu, heb gael eu hanfon? Fel ymae’r Ysgrythur yn dweud: ‘Mor weddaidd yw traed y rhai sy’n cyhoeddi newyddion da’ (Rhufeiniaid 10:13-15).
Mae pob symudiad mawr ysbrydol yn hanes yr eglwys, boed yn ddiwygiad neu’n adfywiad, yn y gorffennol neu’r presennol, ledled y byd, yn tanlinellu pwysigrwydd pregethu’r efengyl. Pregethwyr yr efengyl yw un o anghenion mawr ein gwlad.
Ble a sut mae pregethu’r Efengyl?
Does dim un man neu achlysur na ellir cyhoeddi’r efengyl ynddo. Mae addasrwydd a pherthnasedd y neges yn wastad yn gymwys. Mae esiampl syml a deniadol yr Arglwydd Iesu a‘r apostolion cynnar yn batrwm clir i’w ddilyn. Cynigiwyd gobaith a maddeuant i unigolion a thyrfaoedd mewn cartrefi, ar lethrau mynydd, mewn cwch yng nghanol llyn, wrth ymyl ffynnon yn Samaria a hyd yn oed ar groesbren waedlyd. Mae sawl enghraifft yn Efengyl Luc o Iesu’n dysgu ac yn esbonio natur teyrnas Dduw wrth eistedd o gwmpas bwrdd bwyd. Mae’r wledd ei hun yn symbol o ddarpariaeth gras a thrugaredd a’r gwahoddiad i glosio a derbyn hedd a chymod ffrind pechaduriaid.
Doedd dim taw ar frwdfrydedd yr apostolion. Dyma enghraifft o bennod olaf llyfr yr Actau:
Arhosodd Paul ddwy flynedd gyfan yno ar ei gost ei hun, a byddai’n derbyn pawb a ddôi imewn ato, gan gyhoeddi teyrnas Dduw a dysgu amyr Arglwydd Iesu Grist yn gwbl agored, heb neb yn ei wahardd (Actau 28:30, 31).
Cofleidiwn yr her amlwg i fod yn hyblyg, yn greadigol ac yn fentrus wrth drefnu a chynllunio cyfleoedd i bregethu’r efengyl. Mae oedfaon ffurfiol o Sul i Sul yn un ffordd gwbl amlwg. Mae angen clywed yr efengyl ar bawb. Boed yn Gristion aeddfed, yn ymwelydd cyson â’r cwrdd, yn ymchwiliwr sydd â diddordeb yn y ffydd, neu’n ben gelyn i’r ffydd – mae angen clywed ‘llais hyfryd rhad ras…’
Mae themâu’r efengyl yn treiddio fel llinyn aur drwy bob rhan o’r Ysgrythur. Boed yn ddigwyddiad o hanes, canllaw o’r gyfraith, salm, dihareb, neu broffwydoliaeth, mae yna alwad i edifarhau a chredu.
A chan ddechrau gyda Moses a’r holl broffwydi, dehonglodd iddynt y pethau a ysgrifennwyd amdano ef ei hun yn yr holl Ysgrythurau (Luc 24:25-27).
Tasg anorfod y pregethwr yw canfod Crist ym mhob man a’i gyhoeddi’n glir ar bob achlysur. Rhaid gweithio’n galed wrth gloddio testun a chyddestun y Beibl i ddangos pa ffordd ac i ba raddau yr amlygir Crist. Wrth gymhwyso pob pregeth mae modd amrywio’r perswâd â’r anogaeth i’r anghredadun droi a derbyn Iesu Grist.
Ofer ac esgeulus iawn, fodd bynnag, mewn sefyllfa gynyddol genhadol, yw aros nes i anghredinwyr droi i mewn atom. Mae’r dyddiau o ddisgwyl i rai i droi i mewn atom i gapel neu oedfa heb wahoddiad yn prysur ddirwyn i ben. Rhaid mynd allan at ein teuluoedd, cymdogion a chydweithiwr. Rhaid meddiannu mannau niwtral i ddweud yr hen, hen hanes mewn ffyrdd newydd a ffres. Tafarn, caffi, neuadd bentref, gwesty, ysgol, llyfrgell, castell, cartrefi neu hyd yn oed llogi llong er mwyn cyrraedd y colledig! Mewn priodas, angladd, bedydd, parti, cwis, arddangosfa, darlith, trwy bregeth fer neu dystiolaeth syml mae modd cyflwyno Crist. Mae hyblygrwydd ac ymrwymiad Paul yn her wrth feddwl am ble a sut y dylid pregethu’r efengyl:
Yr wyf wedi mynd yn bob peth i bawb, er mwyn imi, mewn rhyw fodd neu’i gilydd, achub rhai. Dros yr Efengyl yr wyf yn gwneud pob peth, er mwyn i mi gael cydgyfranogi ynddi (1 Corinthiaid 9:22-23).
Roedd gan Paul fwy nag un ffordd o gyflwyno’r efengyl. Mae llyfr yr Actau yn sôn amdano yn ‘ymresymu. . . esbonio a phrofi’ (17: 2-3). Tro arall ‘pregethu a thystiolaethu’ (18: 5). Ym mhenodau olaf yr Actau mae Paul yn defnyddio dull diddorol yr amddiffyniad (apologia) wrth gyflwyno ei achos. Dadleuon rhesymol lle roedd Paul yn seilio ei apêl ar eiriau ‘gwirionedd a synnwyr’ (Actau 26:25). Y nod bob tro oedd tystio’n ffyddlon i berson a gwaith Crist er mwyn argyhoeddi’r gwrandawyr o wirionedd yr efengyl ac apelio atynt i gredu.
Yn ddiweddar mae ymdrechion arwrol wedi digwydd ar bob campws prifysgol i gyflwyno’r apologia Gristnogol i fyfyrwyr fel rhan o ymgyrchoedd efengylu. Os yw myfyrwyr ifanc ein gwlad wedi dangos esiampl ddewr i ni wrth drefnu cyfarfodydd, gwahodd ffrindiau ynghyd â chynnal cyrddau gweddi arbennig, siawns na all eglwys leol fentro peth i’r un cyfeiriad!
Pwy sydd i bregethu’r Efengyl?
Mae gan bob aelod ran yng ngorchwyl ennill eneidiau. Mae gan bob Cristion dystiolaeth bersonol; stori i’w hadrodd o’r ffordd y mae Duw wedi ymwneud â nhw. Mae pob disgybl yn cael yr anrhydedd a’r cyfrifoldeb o fod yn halen a goleuni.
Mae gan bob Cristion y potensial i fod yn arwyddbost i’r Arglwydd (fel yn Actau 8:4), ond fe fydd yn ofynnol ar rai i ymateb i’r alwad i fod ‘yn efengylwyr. . . ’ (Effesiaid 4:11). Un o swyddi parhaol Pen yr Eglwys yw hon. Tybed a ydym wedi pwysleisio swyddi bugeiliaid ac athrawon, ac esgeuluso swydd hollbwysig yr efengylydd?
Pryd oedd y tro diwethaf i chi weddïo ar i Dduw godi efengylwyr fel Philip yn llyfr yr Actau? Mae gan pob gweinidog y siars apostolaidd ‘gwna waith efengylwr’ (2 Timotheus 4:5), ond rhan yn unig o waith eang ei weinidogaeth yw braint efengylu. Mae rhyddid gan yr efengylydd i ganolbwyntio ar efengylu, a chrwydro a theithio’n ehangach nag un eglwys neu ardal.
Wrth sylweddoli maint y dasg i flaenoriaethu efengylu yng Nghymru, ac wrth ystyried sgil effeithiau trist y dirywiad ysbrydol, dylem gofio a gweithredu geiriau Crist –‘Y mae’r cynhaeaf yn fawr ond y gweithwyr yn brin; deisyfwch felly ar Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i’w gynhaeaf’ (Mathew 9:37-38).
Bydd angen calon yr Arglwydd sy’n llawn trugaredd a thosturi tuag cyflwr colledig y tyrfaoedd. Tybed na fydd hyn hefyd yn dwysáu’r baich â’r gri am ymweliad adfywiol ysbrydol ym mhob bro, pentref, cwm, tref a dinas yng Nghymru?