Tua dechrau ei weinidogaeth gyhoeddus, pregethodd Iesu Grist; ‘Yr amser a gyflawnwyd, a theyrnas Dduw a nesaodd: edifarhewch, a chredwch yr efengyl’. Tipyn o beth i saer o Nasareth i’w ddweud – ond mae’r geiriau’n datgelu mai nid saer, neu hyd yn oed person, arferol oedd hwn. Mae Crist yn pwysleisio yma fod ganddo newyddion da i’w credu; dyna yw’r efengyl. Yr oedd yr amser wedi dod. Yr oedd y cyfan yn barod yn ôl amserlen Duw. Yr oedd yr amser wedi dod i gyflawni addewidion Duw yn yr Hen Destament.
Y mae prinder o newyddion da yn ein byd ni. Y newyddion gorau posibl yw neges Iesu Grist.
Daeth Iesu Grist i’n byd yn amser Duw.
Cynllun tragwyddol Duw ar hyd y canrifoedd oedd anfon Gwaredwr i’n byd. Trefnodd hyn nôl yn nhragwyddoldeb, cyn seiliad y byd. Aeth y canrifoedd heibio ond nawr ar ddechrau ei weinidogaeth dyma Iesu Grist yn cyhoeddi ‘Yr amser a gyflawnwyd’. Y mae’r amser wedi dod. Nid lwc neu ddamwain oedd y ffaith fod Iesu Grist wedi dod i’r byd. Nid hap a siawns oedd y Nadolig cyntaf. Dyma Dduw yn dechrau cyflawni’r addewid a roddodd yn Genesis 3, i ’sigo pen y sarff’, yr un a gyflwynodd drygioni a phechod i’r byd yn y Cwymp.
Dyma gynllun Duw. Dyma’r unig gynllun sy’n rhoi gwir obaith ac achubiaeth o bechod ac euogrwydd. Does dim ffordd yn y byd y gallwch chi neu fi ddelio â’n pechod trwy ein hymdrechion ein hunain. Fyddwn ni byth yn ddigon da, neu’n ddigon crefyddol: mae angen cymorth rhywun arall arnom ni i ddelio â’n pechod. Dyna a gynlluniodd Duw – cynllun i’n hachub – a dyma Iesu Grist nawr yn cyhoeddi bod yr amser wedi dod.
Mae teyrnas Dduw wedi nesáu.
I’r Iddewon yng nghyfnod Crist roedd ‘teyrnas Dduw’ yn golygu bod Duw yn dod i’w gwaredu o’u gelynion daearol, gwleidyddol, yn arwain i gyfnod o fendith anhygoel iddyn nhw fel cenedl. Dyna oedd eu disgwyliad nhw, ond mae dysgeidiaeth yr Arglwydd Iesu’n dangos bod ystyr lawer ehangach i ‘teyrnas Dduw’.
Mae’r Beibl yn dysgu bod pob un ohonom yn perthyn i un o ddwy deyrnas ysbrydol: teyrnas y tywyllwch neu deyrnas Dduw. Dyma’r unig ddau opsiwn.
Wrth natur, mae pob un ohonom yn perthyn i deyrnas y tywyllwch. Hwn yw ein cyflwr genedigol. Teyrnas rymus, teyrnas ofnadwy, teyrnas lle mae pechod yn rheoli yw hon. Dyma gyflwr ysbrydol ein byd. Goleuni yw Duw ond mae ein byd wedi gwrthod Duw ac felly tywyllwch sy’n rheoli. Rydym ni fel unigolion wrth natur yn perthyn i’r tywyllwch, yn elynion i Dduw.
Y mae gafael y tywyllwch a phechod yn enfawr, yn rhy gryf i ni ddianc rhagddo – ond newyddion da yr efengyl yw bod Iesu Grist wedi dod i sefydlu ac adeiladu Teyrnas Dduw – Teyrnas y goleuni – a rhoi modd i ni ddianc o gaethiwed tywyllwch.
Dau opsiwn sydd. Os ydym yn dewis i barhau yn y tywyllwch bydd barn Duw yn sefyll arnom am dragwyddoldeb. Ond mae Teyrnas Dduw wedi nesáu ac mae Crist yn cynnig ffordd i ni ddianc o’r tywyllwch a’n pechod.
Goleuni yw teyrnas Dduw. Bydd y rhai sy’n perthyn i deyrnas Dduw yn profi bendithion tragwyddol i’w mwynhau yn y byd hwn ac yn enwedig yr ochr draw i’r bedd. Daeth Iesu Grist i ddangos y ffordd i gyrraedd teyrnas Duw
Edifarhewch.
Sut gallwn ni fod yn rhan o deyrnas Dduw? Edifarhau . . . ond beth yw hynny? Sut ydym yn ‘edifarhau’? Newid cyfeiriad yw edifarhau. Mae ‘edifarhau’ yn y Beibl yn golygu troi oddi wrth ein pechod at Dduw.
Tuedd naturiol ein calonnau yw troi oddi wrth Duw. Yn lle addoli a charu Duw rydym yn byw er ein mwyn ein hunain ac yn gwrthod rhoi i Dduw yr hyn y mae e’n ei haeddu. Dyma rym pechod yn ein bywydau. Mae Iesu’n galw arnom ni i droi oddi wrth ein pechod a newid cyfeiriad ein meddyliau a’n calonnau tuag ato fe.
Mae edifeirwch yn hanfodol os ydym am ymuno â theyrnas Iesu Grist. Mae’n rhaid sylweddoli mor ofnadwy yw pechod. Nid chwarae plant bach yw pechod. Cefnu ar ein Creawdwr yw pechod; gwrthod ei wasanaeth a’i dynnu o orsedd ein calonnau. Canlyniad pechod yw barn dragwyddol Duw. Rhaid edifarhau a throi ein cefnau ar bechod.
Credwch yr efengyl.
Hynny yw, ‘Credwch y ‘newyddion da’. Y mae Gwaredwr wedi dod i’n byd, sef Iesu Grist, yr Arglwydd. Nid yw Duw yn ein gorchymyn i ni i droi oddi wrth ein pechod yn unig. Mae’n ein gwahodd i gredu yn yr Arglwydd Iesu. Iesu Grist yw y newyddion da.
Fe yw’r un sydd wedi dod i’n byd i sigo pen y diafol. Fe yw’r un sydd wedi dod i dorri grym pechod ar ein calonnau. Y newyddion da yw bod Iesu Grist wedi rhoi ei hun yn aberth ar y groes. Wrth farw ar y groes mae llid a digofaint cyfiawn Duw wedi syrthio ar y Crist dieuog ac oherwydd hyn mae Duw yn gallu maddau yn rhydd ac yn gyfiawn. Dyma’r newyddion da sydd wedi ei gyhoeddi i’n byd.
Beth y mae Duw yn gorchymyn i ni i’w wneud?
Edifarhau a chredu y newyddion da! Credu’r efengyl. Dyma’r ffordd i etifeddu teyrnas Dduw. Nid oes lle gwell i fod!