Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Y Drindod ac Allah

3 Mehefin 2014 | gan Dewi Arwel Hughes

Allah

Allah yw duw’r Mwslim. Cyffes syml y Mwslim yw:

‘Nid oes Duw ond Allah;

Mwhammad yw negesydd Allah.’

Mae unrhyw un sy’n derbyn y gyffes hon yn cael ei ystyried yn Fwslim go iawn. Yr hyn a wna Mwslimiaid wrth weddïo ar eu pennau eu hunain, neu gydag eraill, yn y mosg ar ddydd Gwener, yw addoli Allah. Dyma ran o’u gweddi sy’n dod yn uniongyrchol o’r Cwr’an, ysgrythur crefydd Islam:

Mae moliant yn perthyn i Allah, Arglwydd y Bydoedd.

Y Tosturiol, y Trugarog,

Brenin Dydd y Farn,

Ti a addolwn, ac i Ti y gofynnwn am gymorth…

[Rhennir y Cwr’an yn benodau a elwir yn ‘Swra’. Daw’r weddi hon o’r Swra gyntaf].

Mae’r hyn ddywedir am Allah yn y Cwr’an yn debyg iawn yn aml i’r hyn ddywedir am Dduw yn yr Hen Destament. Er enghraifft, creodd Allah y nefoedd ar ddaear mewn chwe diwrnod; mae’r nefoedd a’r ddaear yn mynegi ei ogoniant; mae’n llywodraethu dros bopeth; mae’n gwybod popeth; mae’n rasol, tosturiol a thrugarog; mae’n darparu ar gyfer ei greaduriaid; mae’n sanctaidd ond mae hefyd yn maddau; Allah yw’r Cyntaf a’r Olaf.

Mae’r tebygrwydd yma yn deillio o stori Mwhammad, sylfaenydd crefydd Islam – er, allan o barch, dylem ddweud mai i’r Mwslim, Allah yw sylfaenydd eu ffydd trwy Mwhammad ei negesydd. Ganwyd Mwhammad [570-632 O.C.] ym Mecca, sydd bellach yn Saudi Arabia, ryw 550 o flynyddoedd ar ôl atgyfodiad Iesu Grist. Y pryd hwnnw, roedd Mecca yn ganolfan i addoliad llawer o dduwiau a duwiesau. Ymhlith y duwiau hynny roedd y duw Allah. Pan oedd Mwhammad yn 40 oed dywedodd iddo gael gweledigaethau o’r angel Gabriel yn dod â negeseuon iddo oddi wrth Allah i’w rhannu gydag eraill.

Gabriel yw’r angel sy’n ymddangos yn llyfr Daniel yn yr Hen Destament ac yn Efengyl Luc yn y Testament Newydd, ac mae hyn yn awgrymu mai crefydd a anwyd o ddeialog gydag Iddewiaeth a Christnogaeth yw Islam. Fel masnachwr oedd yn teithio cyn belled â Syria gyda’i nwyddau, roedd Mwhammad wedi cael digon o gyfle i ddysgu am grefydd yr Iddewon a Christnogion cyn iddo ddechrau cael gweledigaethau yn 40 oed. Yn wir roedd cymunedau Iddewig yn byw yn Arabia ac am gyfnod roedd Mwhammad yn gobeithio y byddai Iddewon Medina, ble symudodd i fod yn llywodraethwr yn 622, yn ei dderbyn yn negesydd Duw ac yn ymuno a’i ddilynwyr.

Yr Iddewon a ddysgodd Mwhammad mai disgynyddion Abraham, trwy Ishmael, yw’r Arabiaid ac felly nid yw’n syndod fod ei syniad am hanes crefydd y ddynoliaeth yn seiliedig ar hanes yr Iddewon – yn cynnwys Iesu’r Meseia. Yn ôl Mwhammad mae Allah wedi rhoi llyfr o negeseuon i gyfres o negesyddion, ond bob tro fe gafodd neges y llyfr ei golli neu ei wyrdroi. Y negesydd cyntaf oedd Adda, ond collwyd ei lyfr. Yr ail a’r trydydd oedd Moses a Dafydd, ond cafodd eu llyfrau eu gwyrdroi gan yr Iddewon. Y pedwerydd oedd Iesu’r Meseia, ond cafodd ei lyfr [yr Efengyl/Injil] ei lygru gan ei ddilynwyr. Y negesydd olaf yw Mwhammad a’i lyfr o, y Cwr’an, yw’r datguddiad perffaith o ewyllys Allah.

Y Drindod

Mae paragraff 4 o Gyffes Ffydd y Methodistiaid Calfinaidd yn fynegiant clir o safbwynt clasurol Cristnogaeth ar y Drindod:

Er mai un Duw sydd, ac na ddichon fod ond un gwir Dduw, eto, yn ôl tystiolaeth eglur yr Ysgrythur Lân, y mae yn Nuw dri o Bersonau, sef y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glan…

Mae’r Cwr’an yn gwrthod yr athrawiaeth hon yn bendant. Mae’r Drindod yn wrthun. Yn ôl y Cwr’an, mae’r gred yn y Drindod yn enghraifft o’r ffordd y gwyrdrowyd neges Iesu gan ei ddilynwyr. Dyma ddyfyniadau o’r Cwr’an:

Cablu a wna’r rhai sy’n dweud: mae Duw yn un o dri mewn Trindod. Doedd Crist mab Mair yn ddim mwy na negesydd [Swra 5:76, 77].

Negesydd Duw oedd Crist Iesu, mab Mair… Peidiwch â dweud ‘Trindod’; ymwrthodwch;…Oblegid Un Allah yw Allah [Swra 4:171-2].

Yn y ddau ddyfyniad hwn, mae’r Cwr’an yn pwysleisio mai mab Mair oedd Iesu ac nid Mab Duw. Mae’r teitl ‘Mab Duw’ yn wrthun iawn i Fwslimiaid am fod ganddynt syniad corfforol a llythrennol iawn o fabolaeth. Iddyn nhw mae galw Iesu’n fab Allah yn golygu bod Allah wedi cael rhyw gyda Mair. Erbyn amser Mwhammad, roedd rhai carfannau Cristnogol wedi dyrchafu Mair gymaint fel ei bod yn bosibl i rywun nad oedd yn Gristion feddwl ei bod yn dduwies. Roedd yn bosibl i rywun feddwl mai Trindod y Cristnogion oedd: y Tad, y Fam [Mair] a’r Mab [Iesu]. Mae’n ymddangos mai dyma farn Mwhammad oblegid yn y Cwr’an, mae Iesu’n gwadu’n bendant iddo ddweud, ‘Cymerwch fi a fy mam fel dau dduw ochr yn ochr ag Allah’ [Swra 5:116]. Mae’r ddealltwriaeth hon yn un rheswm pam mae Islam yn gwadu fod Iesu yn Dduw mor bendant, ac felly, yn gwrthod athrawiaeth y Drindod.

Wedi gwagio person Iesu o’i ddwyfoldeb mae Islam yr un mor bendant yn gwrthod calon yr efengyl, sef marwolaeth Iesu ar y groes a’i atgyfodiad. Mae’r Cwr’an yn datgan am farwolaeth Iesu: ‘Ni laddasant ef, na’i groeshoelio… Na, fe ddyrchafodd Allah ef ato’i hunan…’ [Swra 4:157-158]. Y syniad yw bod Allah wedi cipio Iesu ato’i hun, heb iddo weld marwolaeth. Mae hyn yn gwneud Iesu yn negesydd neu’n broffwyd arbennig iawn ac yn esbonio pam mae’r Cwr’an a’r traddodiad Islamaidd yn rhoi rôl iddo ar ddydd y farn. Ond heb na chroes nac atgyfodiad, ni waeth pa mor bwysig yw Iesu fel negesydd Allah, ni all fod yn Waredwr.   Mae Mwslimiaid felly’n gwadu person a gwaith sylfaenol Iesu Grist.

Gan fod y Cwr’an mor eithriadol o sanctaidd i’r Mwslim, mae’r faith ei fod mor bendant yn gwrthod athrawiaeth y Drindod a marwolaeth Iesu ar y groes yn ein lle, yn rhwystr aruthrol i Fwslim rhag derbyn yr efengyl. Mae’n gwneud rhesymu gyda Mwslim ar fater dwyfoldeb ac iawn Iesu y Crist yn ofnadwy o anodd.

Mae cof gen i am gyfaill o Fwslim o’r Dwyrain Canol a oedd wedi dod i gredu yn Iesu fel ei waredwr, yn fy rhybuddio fod Mwslimiaid wrth eu bodd yn dadlau am y Drindod. Yn ei farn e, yr hyn y dylem ei wneud yn gyntaf gyda Mwslimiaid yw eu caru nhw. Cariad aberthol Iesu yn llifo trwom sydd fwyaf tebygol o argyhoeddi Mwslim ei fod yn wir yn Fab tragwyddol y Tad ddaeth i roi ei fywyd yn aberth drosom ac a atgyfododd i brofi bod pechod a marwolaeth wedi eu concro ar y groes.

Adnodd diwethaf