Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Trwy ddirgel ffyrdd

3 Mehefin 2014 | gan Edmund Owen

Pan olchodd Iesu draed Simon Pedr roedd y weithred yn ddirgelwch. ‘Arglwydd,’ meddai, ‘a wyt ti am olchi fy nhraed i?’ Mae ateb Iesu, nid yn unig i Pedr, ond hefyd i bawb sy’n eu cael eu hunain mewn penbleth tebyg: ‘Ni wyddost ti ar hyn o bryd beth yr wyf am ei wneud, ond fe ddoi i wybod ar ôl hyn’ (Ioan 13:7).

Dydyn ni ddim yn credu mewn lwc neu anlwc, nac mewn siawns neu ffawd amhersonol. Fe gredwn ni mai Person sydd ag awenau’r byd yn ei law, neb llai na Duw ei hun. Credwn yn ei ragluniaeth. Y peth ‘yr wyf am ei wneud’ yw pob dim ym mywyd ei bobl, naill ai am fod Duw yn bwriadu’r peth hwnnw neu’n ei ganiatáu. Fe gredwn ‘fod pob peth yn cydweithio er daioni i’r rhai sy’n caru Duw, y rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei fwriad’ (Rhuf. 8:28).

O’r gred hon, yn fynych, y mae’n dryswch yn codi. Sut mae cysoni ewyllys ddaionus y Tad nefol tuag at ei blant a’r helyntion blin a all ddod weithiau ar eu traws? Sut mae gweld y patrwm dwyfol yn ein hamgylchiadau, amgylchiadau a all fod ambell dro yn bur ddyrys?

Does dim ateb syml, parod, ac fe ddylem fod yn ddiolchgar am hynny. Oherwydd rhan o gynllun Duw yn aml yw gadael ei bobl yng nghanol y gofyniadau a’r problemau er mwyn iddynt ddysgu ymddiried. ‘Ni wyddost ti ar hyn o bryd’ a fu ei eiriau i lawer o’i bobl, ac os ydym mewn dryswch rydym mewn cwmni da.

Meddylier am Joseff. Am ei fod wedi gwrthod godinebu â gwraig Potiffar, fe’i bwriwyd i’r carchar. Ai dyma’r ffordd y mae Duw cariadus yn gwobrwyo dynion am eu hufudd-dod i’w ddeddfau? Clywch y llais yn unigedd ei gell: ‘ni wyddost ti ar hyn o bryd beth yr wyf am ei wneud’. Bu Job mewn dryswch, ac ynddo am amser hir. Collodd ei eiddo, ei feibion a’i ferched, a’i iechyd, ac fe ofynnodd o ing ei enaid, ‘Pam? pam?’ Bu John Bunyan yn y carchar am dros ddeuddeng mlynedd am ei ffyddlondeb i’r efengyl. Dywedodd y Dr John Owen, y Piwritan enwog, amdano y byddai’n barod i roi heibio ei holl ddysg pe medrai bregethu mor effeithiol â’r tincer o Bedford. A dyna’r pregethwr hwn yn fud o fewn pedair wal! Duw yn caethiwo ei was! ‘Ni wyddost ti ar hyn o bryd.!

Ac yna aeth Un mwy na’r rhain drwy’r un profiad. ‘Fy Nuw; fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?’ oedd ei gri ar y groes. Dyma’r Hollwybodol ei hun wedi rhoi ei hollwybodolrwydd o’r neilltu er mwyn ei uniaethu ei hun â thrueiniaid meidrol sy’n gofyn ‘Pam?’ ‘Canys nid archoffeiriad heb allu cyd-ddioddef â’n gwendidau sydd gennym, ond un sydd wedi ei demtio ym mhob peth yn yr un modd â ni’ (Heb. 5:15).

Bychan y gwyddai Joseff yn ei gell fod Duw wrthi’n trefnu llwybr clir iddo i balas Pharao. Yn y carchar y daeth i adnabod y pen-trulliad, bwtler Pharo. A thrwy’r adnabod hwnnw yr agorwyd y ffordd iddo ennill sylw Pharo a dehongli ei freuddwyd, a’i gael ei hun, megis dros nos, yn brif swyddog yr Aifft.

Nid oedd Job, druan, cystal dyn ag y tybiai. Daeth i weld ymhen amser mai rhan o’r esboniad ar ymwneud rhyfedd Duw ag ef oedd dangos pa mor arwynebol, wedi’r cwbl, y bu ei grefydd. Ar ddiwedd y llyfr fe’i cawn yn cyffesu: ‘Trwy glywed yn unig y gwyddwn amdanat, ond yn awr rwyf wedi dy weld â’m llygaid fy hun. Am hynny rwyf … yn edifarhau mewn llwch a lludw.’

Diamau i John Bunyan yntau ddod i ddeall i raddau pam y cadwodd Duw ef dan glo. Ond nid cystal ag y gwyddom ni. Cyfrifir ei lyfr, Taith y Pererin, a ysgrifennodd yn y carchar, yn glasur llenyddol ac ysbrydol, a bu’n gyfrwng bendith i filiynau. Yn wir, erbyn hyn fe gyfieithwyd y llyfr i dros ddau gant o ieithoedd.

Trwy ddirgel ffyrdd mae’r uchel Iôr

Yn dwyn ei waith i ben.

‘Fe ddoi i wybod ar ôl hyn,’ meddai Iesu wrth Pedr, a’r un yw ei air i ninnau. Ef yn unig a ŵyr pryd i roi’r datguddiad a faint o’r datguddiad i’w roi. Dyletswydd a braint ei bobl yw ymddiried. Ond beth os na chawn fawr o esboniad yn y byd hwn? Na phoenwn. Parhawn i rodio trwy ffydd ar hyd taith yr anialwch. Mae bryniau Caersalem gerllaw.