Ers symud o Waikato, Seland Newydd, i dre’r Sosban, mae Deacon Manu bellach yn ei wythfed tymor gyda thîm y Scarlets. Yn frodor o Seland Newydd, chwaraeodd i fawrion Maori Seland Newydd cyn penderfynu ymroi i dîm cenedlaethol Ffiji (gwlad ei fam). Cafodd y fraint o fod yn gapten ar ei wlad yng Nghwpan y Byd 2011. Mae’n briod a chanddo dri o blant.
A wnei di sôn ychydig am dy gefndir a’r ffordd y dechreuaist ti chwarae rygbi?
Ces i fy ngeni yn New Plymouth, Seland Newydd. Maori yw fy nhad a daw fy mam o Ffiji. Cefais fy anfon i ysgolion Catholig ac roeddwn yn mynychu’r eglwys Gatholig bob Sul. Roeddwn yn fachgen bach digon crefyddol!
Golff, nid rygbi, oedd fy hoff gamp trwy fy mhlentyndod – dechreuais chwarae golff yn bum mlwydd oed – ond erbyn i mi gyrraedd fy arddegau roedd rygbi wedi cymryd drosodd. Roeddwn wedi chwarae peth rygbi yn yr ysgol ond dechreuais gymryd y gêm o ddifri tra roeddwn yn y coleg yn Waikato (hen goleg Warren Gatland fel mae’n digwydd – oeddech chi’n gwybod mai fe sydd â’r record am y mwyaf o gêmau dros Waikato?). Chwaraeais dros Brifysgolion Seland Newydd yn y cyfnod hwn a hefyd tîm dan 21 Seland Newydd.
Sut dest ti’n Gristion?
Roeddwn ar goll yn y coleg i ddweud y gwir. Roeddwn wedi ildio’n llwyr i fywyd myfyriwr ac i bob pwrpas yn byw fel y mab afradlon. Er hynny, yng nghanol popeth, fe fues i’n ddigon llwyddiannus. Llwyddais i rywsut i raddio gyda BSc a Diploma Ôl-radd mewn Cynaliadwyedd Morol ac wedyn gwireddwyd fy mreuddwyd: llofnodais gontract proffesiynol gyda thîm rygbi Waikato Chiefs, a oedd yn chwarae’n y ‘Super 12’ (y ‘Super 14’ erbyn hyn). Chwaraeais fy ngêm gyntaf yn erbyn XV Siapan a chefais gyfnod hapus a chyffrous yno rhwng 2001 a 2006. Yr uchafbwynt heb amheuaeth oedd chwarae yn y gêm gofiadwy honno yn Hamilton pan drechwyd Llewod Prydain ac Iwerddon gennym. Yn dilyn y gêm hon daeth cyfle i ymuno â thîm Scarlets Llanelli ac felly symudais i Gymru yn 2006.
Roeddwn yn falch o’m llwyddiant ar y maes chwarae – ond roeddwn yn dal ar goll yn ysbrydol. Roeddwn yn ymwybodol o anniddigrwydd yn fy nghalon. Dechreuais ofyn cwestiynau sylfaenol am Gatholigiaeth fy ieuenctid ac felly fe es ati i ddarllen ac astudio’n fwy eang. Sylweddolais wrth ddarllen nad oedd y ffydd Gatholig yn cyd-fynd â’r hyn roeddwn yn ei weld yn y Beibl. Roeddwn yn dal i fod yn ymwybodol o’r angen am faddeuant pechodau ond yn ansicr nawr o’r ffordd i dderbyn hyn ac i etifeddu bywyd tragwyddol. Gweddïais ar i Dduw ddangos y ffordd i mi.
Fe ddes i’n Gristion trwy dystiolaeth fy nghymdogion yn Llanelli. Cwpwl yn eu 70au oedden nhw ac fe’m trawyd i a’m gwraig gan eu diolchgarwch cyson a’u gofal dros eraill. Doedden nhw ddim am orfodi’r ffydd arnom ni ond roedd eu tŷ wastad yn agored ac roedden nhw’n fwy na pharod i ateb ein cwestiynau. Eu neges gyson oedd ein bod yn medru cael maddeuant pechodau a pherthynas â Duw yn unig trwy gredu ym marwolaeth Iesu Grist drosom. Sylweddolais fod yn rhaid i mi osod fy ffydd yn Iesu a’i dderbyn yn Arglwydd ac y Waredwr arna i. Dyma’r ffordd i gael gwir lawenydd a boddhad.
Faint o her yw bod yn Gristion yn y byd rygbi?
Mae gwrthwynebiad i’r ffydd – does dim pwynt gwadu hynny – ond o ystyried faint o erledigaeth sydd mewn mannau eraill o’r byd, rwy’n sylweddoli mor gyffyrddus yw fy sefyllfa. Mae Cristnogion yn cael eu llosgi am eu ffydd o hyd heddiw.
Rwy’n disgwyl cael stic ar y cae rygbi. Rwy’n gwybod bod gwrthwynebwyr yn mynd i wneud sylwadau am fy ffydd – unrhyw esgus am ‘sledging’ fel y mae cricedwyr yn ei ddweud. Yn bersonol rwy wedi cael nerth o ysgrifennu adnodau ar fy rhwymyn braich: Effesiaid 6:10 yw un o’m ffefrynnau – ‘Ymnerthwch yn yr Arglwydd ac yn nerth ei allu ef.’
Mae rhai chwaraewyr yn hapus weithiau i drafod y ffydd – mae llawer ohonyn nhw wedi bod i Ysgol Sul yn blant, er enghraifft. Maen nhw’n gwybod beth yw da a drwg ac rwy’n sylwi bod gan nifer ohonyn nhw barch at y ffydd. Pwy a wŷr, efallai mai sgyrsiau syml o’r fath fydd y cam cyntaf yn eu taith ysbrydol?
Mae’r sefyllfa o fewn tîm cenedlaethol Ffiji’n hollol wahanol i’r Scarlets wrth gwrs. Mae dimensiwn ysbrydol i’r tîm hwnnw ac roedd yn fraint ac anrhydedd cael bod yn gapten. Rydym yn cynnal oedfa bob nos pan rydym i ffwrdd fel carfan.
Sut wyt ti’n cyfiawnhau’r elfen gorfforol?
Wel mae’n siŵr bod rhai pobl yn synnu bod Cristnogion yn gallu cymryd rhan mewn gêm mor gorfforol. Wrth ymateb i hyn rwy’n cofio un o’m harwyr, Michael Jones, yn cellwair, ‘It is more blessed to give than to receive’!
Y gwir yw bod Duw wedi rhoi’r gallu i mi chwarae rygbi; dwi ddim wedi fy nonio i fod yn ddoctor neu’n fardd! Fe sy’n rhoi pob dawn ac felly mae’n gyfrifoldeb ac yn ddyletswydd arna i ddefnyddio’r doniau’n llawn a’u datblygu nhw.
Mae bod yn chwaraewr rygbi proffesiynol yn golygu fy mod yn cael sylw yn y cyfryngau ar adegau. Yn gadarnhaol, mae hyn yn rhoi cyfle i dystiolaethu am fy ffydd yn Iesu Grist, ond yn fwy heriol, mae’n anodd cadw’n ostyngedig. Mae balchder yn beth heintus ac yn bersonol dyma un o’m mhrif frwydrau.
Sut byddet ti’n ymateb i rai sy’n credu mai rhwbeth i wimps yw’r ffydd Gristnogol?
Darllenwch am fywyd Iesu Grist, y dyn mwyaf cyflawn erioed. Treuliwch amser gyda Christnogion sy’n gwasanaethu mewn ardaloedd lle mae’r tlodi’n frawychus, clefydau’n rhemp a dioddefaint yn ddiddiwedd. Nid pobl gwanllyd, wimpish, sy’n gweithio mewn llefydd fel hynny. Ac wrth gwrs, os nad yw hynny’n ddigon, mae croeso i chi ymuno â fi ar y cae hyfforddi rywbryd!
Sut allwn ni weddïo amdanat ti a’r teulu?
Er y manteision amlwg, mae gyrfa’r chwaraewr rygbi proffesiynol yn gallu bod yn ddigon ansefydlog. Mae amgylchiadau’n gallu newid yn gyflym. Mae’r rhan fwyaf o’r tymor hwn wedi ei golli i anaf, er enghraifft. Mae hyn yn cael effaith ar fywyd gwaith a’r teulu gartref.
A wnewch chi weddïo hefyd y bydd Duw’n rhoi’r gallu a’r nerth i’r rhai ohonom sy’n Gristnogion yn y campau i fod yn dystiolaeth effeithiol, fel bod yr efengyl yn cael effaith ar fywydau pobl. Gweddïwch y bydd Duw’n agor drysau i mi i gyhoeddi efengyl Iesu Grist ym mhob sefyllfa.