Tybed faint o sylw a gaiff Thomas Charles yn Eisteddfod Sir Gâr yn 2014, sef dau canmlwyddiant ei farwolaeth? A fydd unrhyw un yn ymfalchïo yn y ffaith fod ‘Thomas Charles o’r Bala’ wedi ei eni a’i fagu ym mro’r Eisteddfod? Efallai y bydd rhyw sôn am sylfaenydd yr Ysgolion Sabothol yng Nghymru wrth stondin Cyngor yr Ysgolion Sul. Siawns hefyd na fydd gan Gymdeithas y Beibl a’r Presbyteriaid rywbeth i’w ddweud amdano. Ond beth am yr holl stondinau eraill? Beth am y cannoedd ar filoedd o Gymry nad ydynt yn mynd i Ysgol Sul nac yn awchu am gopi o’r Beibl? A wnaeth Thomas Charles unrhyw beth dros y Gymru newydd sydd wedi ymddangos yn ystod y ganrif ddiwethaf ac sydd mor barod i’w anwybyddu? Do. Mae pawb sy’n darllen y geiriau hyn, a phawb a allai eu darllen, yn ddyledus iddo, am ei fod yn un o gymwynaswyr mawr y Gymraeg. Yn wir, gellid dadlau o safbwynt dynol taw ymdrechion Thomas Charles oedd y rhai mwyaf allweddol i barhad yr iaith.
Dyna ddweud mawr am ddyn a ddewisai ddefnyddio’r Saesneg i gyfathrebu pryd y gallai. Dyn a fyddai wedi bod yn fodlon gweinidogaethu yn Lloegr oni bai am ei anallu i ddenu Sally fach o’i siop ar stryd fawr y Bala. Wrth ddod i’r Bala yn 1783, yn gyntaf fel curad yn y cyffiniau ac wedyn yn arweinydd ymhlith y Methodistiaid, bu’n rhaid iddo ddefnyddio’r Gymraeg, a golygai hynny loywi ychydig ar ei Gymraeg hefyd. Ac eto, gwnaeth Thomas Charles fwy dros y Gymraeg nag un o arweinwyr eraill y Diwygiad Methodistaidd.
Os William Morgan a gyfieithodd y Beibl, Thomas Charles a sicrhaodd fod Beiblau gan y Cymry, ac ef a’u dysgodd i’w ddarllen. Trwy gysylltu ei ysgolion cylchynol a’i ysgolion Sul â’r gyfundrefn Fethodistaidd sicrhaodd eu bod yn fwy parhaol ac effeithiol nag ysgolion Griffith Jones, ac mae’r ffaith i’r ysgolion hyn barhau hyd heddiw, hyd yn oed ar ffurf ddirywiedig, yn dweud rhywbeth. Tan ail hanner yr ugeinfed ganrif, yr unig addysg Gymraeg a oedd ar gael i bob pwrpas oedd yr ysgolion Sul; diogelwyd y Gymraeg yn iaith ysgrifenedig trwy’r cyfrwng hwn, ac yma y magwyd sawl to o ysgolheigion a llenorion Cymraeg. Mae gwaith enwocaf Thomas Charles, y Geiriadur Ysgrythurol, a gwblhawyd erbyn 1811, yn drysor ysbrydol ond hefyd yn eiriadur: teitl yr erthygl gyntaf ynddo yw ‘A’ lle eglurir y gwahaniaeth rhwng ‘a’ ac ‘â’ ymhlith pethau eraill. Hwn oedd y geiriadur cyntaf erioed i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddiffinio’r geiriau dan sylw gan ei wneud, o’r herwydd, yn garreg filltir bwysig yn hanes yr iaith.
Oedd, roedd yn rhaid defnyddio’r Gymraeg yn Sir Feirionnydd ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ond nid oes unrhyw awgrym i Thomas Charles ystyried hyn yn faich. Fodd bynnag, mae’r iaith wedi mynd yn broblem fawr i nifer o Gristnogion Cymraeg sydd mewn penbleth am eu Cymreictod. Pryderant ynghylch gwneud eilun o’r iaith, a rhai’n mynd cyn belled â dweud ei bod yn llesteirio gwaith efengylu yng Nghymru. Does ryfedd, felly, na wêl nifer o Gristnogion, na hyd yn oed cenhadon tramor sy’n dod i weithio yng Nghymru, unrhyw angen i ddysgu’r iaith. Yn y cyd-destun hwn efallai fod gan Thomas Charles rywbeth i’w ddysgu i ni. Yn y Geiriadur Ysgrythurol daw Thomas Charles at yr iaith o dri chyfeiriad diddorol.
Gair Duw
Roedd y ffaith fod y Beibl ar gael yn y Gymraeg yn rhoi bri arbennig ar yr iaith honno. Yn hytrach na brolio am ‘iaith y nefoedd’, roedd Thomas Charles yn ddiolchgar bod Duw yn siarad Cymraeg, a hynny yn y Beibl. Gyda Gwenallt, gallai ddiolch i William Morgan wneud y Gymraeg yn ‘un o dafodieithoedd Datguddiad Duw’:
…yr ydoedd Cymru eto yn aros mewn tywyllwch du, a dygn anwybodaeth, wedi ei gorchuddio ag eilunaddoliaeth a choelgrefydd; eto, am fod gan Dduw fwriad am waredu miloedd yng Nghymru, gofalodd am y moddion gwerthfawr hyn i ninnau, yn iaith ein mamau (BIBL).
Wrth drefnu’i ddeunydd o dan eiriau unigol o ‘iaith ein mamau’ yn nhrefn yr wyddor Gymraeg, ategodd Thomas Charles gamp William Morgan a rhoi geirfa i drafodaethau diwinyddol Cymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn anuniongyrchol i drafodaethau deallusol ehangach.
Arweiniad Duw
Yn ei erthygl ar ARWEINIAD yn y Geiriadur eglura Thomas Charles fod tri ffactor i’w hystyried wrth ddirnad ewyllys Duw: y Beibl, amgylchiadau, a gwaith yr Ysbryd. Wrth ddod i’r Bala, ac wedyn ymuno â’r Methodistiaid yn 1784 fel yr unig glerigwr yn eu plith yn y Gogledd am ryw ugain mlynedd, arweiniwyd Charles i wasanaethu Cymry uniaith. Golygai hynny ymdrechu i wella’i Gymraeg (ymhlith ei bapurau ceir nodiadau ganddo ar orgraff a gramadeg y Gymraeg): hyn a fyddai’n ei alluogi i ysgrifennu yn y Gymraeg, llunio catecism yn y Gymraeg (Yr Hyfforddwr), a’u cyflwyno ‘i’m cydwladwyr y Cymry’. Wrth gyflwyno’r Geiriadur Ysgrythurol yn 1804 nododd yn ei Ragymadrodd ei gymhelliad:
Mae GEIRIADUR YSGRYTHUROL yn dra angenrheidiol yn y Gymraeg, i’r Cymry uniaith, y rhai, trwy ddaioni Duw, sydd, lawer ohonynt, yn newynu ac yn sychedu am wybodaeth o wirioneddau Duw yn ei Air.
Yn aml yn ein dydd ni, gall ymgyrchu dros yr iaith fynd yn ornegyddol ac yn wrth-Seisnig. Dengys Thomas Charles ffordd arall, fwy cadarnhaol. Roedd ei fryd ar wasanaethu’r Cymry Cymraeg. Gwahanol yw ein sefyllfa ni mewn Cymru ddwyieithog, ac eto onid yw ysbryd Charles yn her o hyd? Mae Cymry Cymraeg sy’n caru’r Arglwydd ac yn awyddus i ddysgu amdano, a phwy sy’n barod i’w helpu? Mae rhai ohonom wedi ein geni’n Gymry Cymraeg, eraill wedi cael addysg Gymraeg, ac eraill eto wedi dysgu’r iaith yn oedolion. Onid yw’r iaith honno yn ein gosod mewn perthynas arbennig â phobl benodol ac yn rhoi cyfle i ni eu gwasanaethu? Oni ddylai hyn ein cymell i ymdrechu i loywi ein hiaith fel y gwnaeth Thomas Charles? Beth am ddechrau ysgrifennu yn Gymraeg? Y gair printiedig oedd un o feysydd gwasanaeth Charles, bellach cynigia’r we gyfleoedd di-ben-draw i unrhyw un sydd am fentro arni. Efallai nad oes gennym ddoniau deallusol Thomas Charles, ond tybed nad oes rhywbeth y gallem ei wneud?
Rhodd Duw
Yn hytrach na phroblem, i Thomas Charles, roedd ieithoedd yn rhodd gan Dduw. Ar adeg pan oedd pwysau parhaus i orfodi’r Saesneg ar Gymru ar draul y Gymraeg, mynnodd Thomas Charles mewn erthygl yn y Geiriadur Ysgrythurol (IAITH) amddiffyn ei gwerth:
Y mae yr iaith Gymraeg yn odidog, yn bur, yn gyflawn hynod o amrywiaeth geiriau ac ymadroddion; yn bersain ac yn addurniedig; yn neilltuol o addas i ymadroddi am bethau ysbrydol yn fawreddig, yn ddealladwy ac yn effeithiol.
Yn Thomas Charles daeth dwy ffrwd ddiwylliannol bwysig Cymru at ei gilydd: dyneiddiaeth Eglwyswyr yr unfed a’r ail ganrif ar bymtheg a Methodistiaeth y ddeunawfed ganrif. Er bod cryn wahaniaeth rhwng y pwyslais Anglicanaidd, ysgolheigaidd (elitaidd braidd) a bywiogrwydd gwerinol y Methodistiaid, roedd hefyd ddau linyn a gydiai’r naill wrth y llall: y Beibl a’r iaith. Onid yw hyn yn rhan o her Thomas Charles i ninnau yn 2014? Achub yr iaith heb y Beibl yw dyhead nifer o’n cyd-Gymry, ond tanseilia hynny swyddogaeth iaith, sy’n gyfrwng i sôn am y byd o’n cwmpas. Sut y gellid dweud unrhyw beth gwrthrychol a pharhaol (hyd yn oed am yr iaith) heb Feibl lle mae’r Creawdwr yn siarad â’n sefyllfa ni ac yn rhoi man cychwyn i’n sylwadau? Ar y llaw arall, y Beibl heb yr iaith amdani i nifer o’n cyd-Gristnogion sy’n llawenhau bod Duw yn siarad yn y Beibl, ond heb werthfawrogi efallai fod ganddo rywbeth i’w ddweud wrth y Cymry Cymraeg, a hynny yn y Gymraeg? Ar adeg argyfyngus yn hanes yr iaith ac o ran gwybodaeth Feiblaidd, dylai Thomas Charles ein hysbrydoli i ddiolch i Dduw am y Gymraeg ond hefyd i ddefnyddio’r Gymraeg i’w ogoneddu a sôn wrth eraill amdano.