Go brin fod neb yn hoffi cael ei alw neu ei adnabod fel ffŵl, ac eto mewn sawl man yn y Beibl disgrifir rhai gyda’r union eiriau ‘ffŵl’ neu ‘ynfyd’. Mae’r rhan fwyaf o’r cyfeiriadau hyn yn yr Hen Destament, ac mae canran uchel o’r rhain i’w cael yn llyfr Diarhebion.
Mae mwy nag un gair Hebraeg yn cael ei drosi gyda’r geiriau ‘ffŵl’ ac ‘ynfyd’ ac mae eu hystyron yn gorgyffwrdd. Yn perthyn yn agos i’r rhain mae’r gair sy’n cael ei drosi fel ‘gwirion’. Ond pa ddarlun a geir o’r ffŵl neu’r ynfyd a’r gwirion? Dyma gawn weld.
Ar un olwg, mae’r gwirion yn naïf, ‘Y mae’r gwirion yn credu pob gair’ (Diar. 14:15). Ac eto mae rhywbeth bwriadol o ran agwedd y gwirion yng ngoleuni’r cwestiwn canlynol: ‘Chwi’r rhai gwirion, pa hyd y bodlonwch ar fod yn wirion’ (Diar. 1:22). Yr un modd o ran agwedd ffyliaid; maent yn casáu gwybodaeth (Diar. 1:22) ac yn diystyru doethineb a disgyblaeth (Diar. 1:7); geiriau pellach sy’n tanlinellu penderfyniad bwriadol. Mae’r agwedd ddirmygus hon yn cael ei mynegi wrth wawdio syniad o euogrwydd (Diar. 14:9). Yn fwy difrifol byth, ceir rhybudd i’r gwirion a’r ffyliaid fel ei gilydd: ‘bydd anufudd-dod y gwirion yn eu lladd, a difrawder y ffyliaid yn eu difa’ (Diar. 1:32).
Efallai mai’r enwocaf o holl ddatganiadau’r Beibl am y ffŵl yw’r geiriau hynny yn llyfr y Salmau sy’n gondemniad ar y ffŵl , gan eu bod yn adlewyrchu’r gwrthryfel, yr ystyfnigrwydd a’r meddwl caeedig a bortreadir yn llyfr Diarhebion: ‘Dywed yr ynfyd yn ei galon, “Nid oes Duw.”’ (Salm 14:1 a 53:1).
Efallai mai’r hyn sy’n taro dyn fwyaf, o ran y portread o’r ffŵl yn y darnau hyn, yw nad unigolyn diniwed a doniol, fel clown ydyw, ond un sy’n wrthryfelgar a chyfrifol am ei ddewisiadau ei hun wrth droi oddi wrth lwybrau doethineb, ac yn y pen draw, oddi wrth Dduw ei hun.
Ciliasom oll o’th gysgod Di,
Mewn rhyfyg aflan, ffôl;
O! maddau’n beiau aml eu rhi’,
A derbyn ni yn ôl.