Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Duw a’n Dioddefaint

3 Mehefin 2014 | gan Dafydd Job

Union gan mlynedd yn ôl i eleni, ar 28 Gorffennaf, dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Rhyfel oedd hwn i roi diwedd ar bob rhyfel, oherwydd credai pobl fod dynion yn gallu gwella’r byd. Wrth gwrs, gwyddom nad felly y bu hi. Nodwedd o’r ugeinfed ganrif oedd ei bod yn llawn rhyfeloedd, a gwelwyd parhau’r un patrwm, hyd yma, yn ystod yr unfed ganrif ar hugain. Flwyddyn cyn y Rhyfel Mawr bu trasiedi arall yng Nghymru – chwalfa pwll glo Senghennydd, pryd y lladdwyd dros bedwar cant o lowyr. O dro i dro fe glywn am drychinebau tebyg. Mae trasiedïau hefyd sy’n ganlyniad uniongyrchol i ddrygioni, trachwant neu esgeulustod pobl, tra bo eraill yn ganlyniad i ffenomenâu naturiol. Cymrwch chi’r Tswnami ym mis Rhagfyr 2004, llifogydd a daeargrynfâu, ac ar lefel llawer mwy personol, afiechydon o bob math sy’n blino ein byd. Mae’n ymddangos fod geiriau Eliffas i Job yn wir: ‘Genir dynion i orthrymder(Job 5:7).

Y cwestiwn sy’n blino pobl yn aml yw – Ble mae Duw yn yr holl ddioddefaint hyn? Sut gall Duw eistedd yn ôl a gwneud dim pan yw cymaint o ddioddefaint yn ein byd? Os yw Duw yn dda, ac os yw’n hollalluog, pam nad yw’n ein cadw rhag gofid? Ai’r gwir yw nad yw’n hollalluog, ac felly fod drygioni yn drech na daioni? Neu ai’r eglurhad yw nad yw Duw yn poeni am yr hyn rydym ni yn gorfod ei wynebu? Neu tybed nad yw Duw yn bod o gwbl, ac felly does dim gobaith am gymorth ynghanol ein poen?

Mae’r rhain yn gwestiynau sy’n cael eu taflu atom gan anghredinwyr, ond maen nhw hefyd ar adegau yn codi ym meddyliau Cristnogion. Ble mae Duw ynghanol poen y byd?

Cyn cael gwared ar Dduw’r Beibl, fodd bynnag, rhaid ystyried rhai pethau. Am fod dioddefaint yn ffaith yn ein byd, rhaid i ni geisio rhoi rhyw eglurhad arno fydd yn ein galluogi i’w wynebu a’i oresgyn. Pa esboniad arall sy’n cael ei gynnig i ni am ein poen, a pha obaith mae’r esboniadau hynny yn ei gynnig i ni?

Pam Dioddef?

Bu’r Atheistiaid Newydd yn llafar iawn eu llef yn y blynyddoedd diwethaf. Maent yn honni fod y bydysawd yn ganlyniad proses ddamweiniol a digyfeiriad. Does dim Duw y tu ôl i’r cyfan. Mae’r cyfan sy’n digwydd yn ganlyniad i ronynnau mater bach sy’n taro yn erbyn ei gilydd ar hap. Does dim syndod, felly, meddent, fod dioddefaint yn bodoli. Does dim trefn ar gael, ac felly mae pethau annifyr mor debygol o ddigwydd â phethau da. Yn wir does dim da na drwg – dim ond yr hyn sy’n fanteisiol i ni, a’r hyn sy’n anfanteisiol. Sut, felly, mae wynebu dioddefaint? Does dim byd y gallwn ei wneud ond ceisio ei osgoi, a phan ddaw rhaid ei ddioddef. Yn y pen draw nid yw o bwys mawr, oherwydd cyn bo hir fe fyddwn yn dychwelyd i’r llwch a dyna ddiwedd arnom. Does dim gobaith ar hyd y llwybr hwn.

Syniad arall poblogaidd iawn ers rhai blynyddoedd yw Karma. Egwyddor ddaeth o grefyddau’r Dwyrain yw hon. Treiddiodd i feddwl y diwylliant cyfoes, yn enwedig trwy athroniaeth ‘Yr Oes Newydd’. Y syniad yw fod popeth rydym yn ei wneud yn dwyn ei ganlyniadau. Felly os ydym yn dioddef yn awr, y rheswm yw ein bod wedi gwneud rhywbeth drwg yn y gorffennol, efallai mewn bywyd blaenorol. Sut, felly, mae wynebu poen? Rhaid ei oddef, nes ein bod wedi talu am y drwg a wnaethom. Does dim arall y gallwn ei wneud. Yn wir ni ddylem leddfu poen neb arall chwaith, oherwydd os na fyddan nhw’n dioddef nawr, bydd yn rhaid iddyn nhw ei wynebu eto yn y dyfodol nes bod eu dyled wedi ei thalu.

Ateb arall i broblem dioddefaint a ddaeth o grefyddau’r Dwyrain yw bod pob dim yn rhith. Er bod dioddefaint yn un nodwedd o fywyd ar y ddaear, rhith yw pob dim a welwn ac a brofwn. Y ddelfryd, felly, yw dianc rhag y rhith. Yr unig ffordd o ymdrin â’r broblem yw gwagio ein meddyliau o bob dim trwy fyfyrdod trosgynnol, nes ein bod yn diflannu i’r anymwybod mawr.

Nid oes cymorth yn un o’r atebion eraill hyn. Y gorau maen nhw’n ei gynnig yw stoiciaeth ddiobaith er mwyn wynebu ein gofid. Beth am y Beibl? A oes cymorth i’w gael yno i ni fedru wynebu’r poen sydd yn y byd?

Gwn am eu doluriau.

Yn gyntaf mae’r Beibl yn dangos fod Duw yn cymryd ein dioddefaint o ddifrif. Mae’n gwybod am ein sefyllfa ac yn gweithredu yn y sefyllfa honno. Pan oedd cenedl Israel yn dioddef dan law Pharo, neges Duw i Moses oedd: ‘Yr wyf wedi gweld adfyd fy mhobl yn yr Aifft a chlywed eu gwaedd o achos eu meistri gwaith, a gwn am eu doluriau’ (Exodus 3:7). Yn gyson clywn yn y Beibl am Dduw sy’n gweld, sy’n cydymdeimlo ac sy’n addo gweithredu yn sefyllfa’r rhai sy’n dioddef.

Mae dioddefaint yn rhybudd

Un o’r peryglon mawr i’r rhai sy’n dioddef o’r gwahanglwyf, mae’n debyg, yw colli teimlad yn eu bysedd a’u traed. Oherwydd hynny mae sawl un wedi llosgi, heb sylweddoli eu bod yn rhy agos at y tân. Mae poen yn peri ein bod yn sylweddoli fod rhywbeth o’i le. Mae’n ein gyrru i geisio cymorth. ac felly mae dioddefaint yn un o’r ffyrdd mae Duw yn ein hannog i’w geisio. Fel y dywedodd C. S. Lewis – ‘Mae Duw yn sibrwd wrthym yn ein pleserau, yn siarad wrthym yn ein cydwybod, ond yn gweiddi arnom yn ein poenau.’

Mae Duw ei Hun yn deall dioddefaint

Nid edrych arnom o ddiogelwch ei nefoedd mae Duw wedi ei wneud. Daeth y Gair yn gnawd, meddai Ioan. Fe ddaeth Duw yn ddyn, gan wynebu bywyd yn ei holl amrywiol brofiadau. ‘Canys nid archoffeiriad heb allu cyd-ddioddef â’n gwendidau sydd gennym’ (Hebreaid 4:15). Yn wir, dioddefaint Crist ar y groes yw gweithred fwyaf syfrdanol Duw, i ymdrin â phob gofid posibl yn ein hanes ni. Roedd pwrpas gogoneddus i’w ddioddefaint – trwy ei boenau byddai’r drws yn cael ei agor i dyrfa na ellid ei rhifo gael bywyd, gras a maddeuant. ‘Felly, gadewch inni nesáu mewn hyder at orsedd gras, er mwyn derbyn trugaredd a chael gras yn gymorth yn ei bryd’ (Hebreaid 4:16).

Mae dioddefaint yn ein newid

Rhan o waith yr Ysbryd Glân ym mywyd y Cristion yw ein gwneud yn fwy tebyg i’r Arglwydd Iesu Grist. Nid proses hawdd mo hynny, oherwydd mae cymaint o’n nodweddion sy’n ein gwneud yn annhebyg i Grist. Mae hunanoldeb, difaterwch, trachwant, cariad at bechodau, a’r cyfan y mae’r Beibl yn ei alw yn bechod yn gymaint rhan o’n ffordd o fyw. Mae fel cancr yn ein bodolaeth. Yn yr un modd â chancr, gall y driniaeth er mwyn ei wella fod yn un arw iawn. Felly pan fyddwn ni ynghanol ein poen, gallwn gymryd gafael yn y cysur fod pwrpas i’r cwbl. Fel ag y tynnodd Duw fendithion di-rif o ganol dioddefaint Crist, felly bydd yn dwyn bendith i’r amlwg o’n poenau ni.

Mae pen draw i ddioddefaint y Cristion

I’r rhai sy’n ymddiried ynddo, mae Duw yn addo fod dydd yn dod pryd y bydd diwedd ar y poen. Mae dydd yn dod pryd y bydd ein gofidiau i gyd yn y gorffennol. Y pryd hwnnw, byddwn yn gallu edrych yn ôl a gweld na fu i Dduw adael i ni wynebu un foment o ofid heb iddo ychwanegu, mewn rhyw ffordd, at ein llawenydd yn nhragwyddoldeb. Clywodd Ioan yr addewid ‘Fe sych bob deigryn o’u llygaid hwy, ac ni bydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen’ (Datguddiad 21:4).

Yn wahanol i syniadau’r Atheistiaid Newydd neu grefyddau eraill y byd, mae’r Beibl yn cynnig Duw sydd gyda ni ac ar waith trwy ein holl ddioddef. Mae’n Dduw sy’n addo ein harwain i lawenydd perffaith a chyflawn ryw ddydd.

Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf