Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Atgof o Eisteddfod Llanelli 2000

3 Mehefin 2014 | gan Lewis Roderick

Wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol ddychwelyd am y tro cyntaf er 2000, mae’n anodd credu bod cymaint o amser wedi mynd heibio ers i’r Brifwyl ymweld â Pharc Arfordirol y Mileniwm (neu’r North Dock i’r bobl leol wrth gwrs!).

Mae gan Lewis Roderick sawl rheswm i gofio Eisteddfod Llanelli 2000 – ond mae un atgof arbennig yn aros yn y cof. Gadewch iddo adrodd yr hanes.

Roeddwn i’n gwersylla ar y maes ieuenctid yn Eisteddfod Llanelli. Ar y noson olaf wrth i mi gysgu torrodd fy mhabell, a dechreuodd y glaw arllwys i mewn. Do’n i ddim yn gwybod beth i’w wneud. Meddyliais am y ‘Gorlan’ – y caffi Cristnogol 24 awr ar y maes ieuenctid. Dyna oedd yr unig ddewis oedd gen i. Roedd yn 4 o’r gloch y bore ac roedd pwllyn o ddŵr yn llenwi’r man lle roedd fy sach gysgu’n arfer bod! Roedd fy ffrind Daf yn gweithio yn y Gorlan ar y pryd ac felly esboniais beth oedd wedi digwydd.

Un o’m ffrindiau mawr trwy’r ysgol oedd Daf. Fel mae’n digwydd roedd dau o’m ffrindiau gorau’n Gristnogion: Daf ac Andrew. Roedd y ddau wedi bod yn Gristnogion ers yn ifanc, cyn i mi eu nabod, a chafodd y ddau effaith anferthol arna i. Dwi ddim yn cofio Daf nac Andrew yn bloeddio’r ffaith eu bod yn Gristnogion. Roedd eu tystiolaeth i’w gweld yn y ffordd roedden nhw’n byw. Yr hyn wnaethon nhw oedd byw y bywyd . . . a gweddïo.

Pan ddechreuon ni’r chweched dosbarth dyma ddechrau treulio mwy o amser gyda’n gilydd. Bron bob nos byddem yn neidio i’r car a theithio’r wlad: Llundain, Manceinion, yr Alban . . . Bant â ni! Fe warion ni lot fawr o amser yn y car. Rwy’n gweld nawr mai Duw drefnodd hyn er mwyn i ni gael cyfle i glywed yr efengyl yn cael ei hesbonio. Dechreuais holi cwestiynau, ac rwy’n ddiolchgar am eu hamynedd.

Felly, am 4 o’r gloch y bore ar y maes ieuenctid, gyda’r babell yn gollwng dŵr, roedd yn rhyddhad gwybod bod y Gorlan ar gael a bod Daf yno. O fewn deng munud i gyrraedd y Gorlan roedd pabell arall gen i. No questions asked! Cafodd hyn effaith fawr arna i. Doedd dim rhaid iddyn nhw fod mor gariadus ata i. ‘Na gyd oedd y Gorlan i fi oedd rhywle i gael byrger ganol nos ond nawr roedd y bobl yn fy helpu i, yn dangos cariad tuag ata i. Roedd gen i hyd yn oed fwy o gwestiynau nawr! Ro’n i am wybod mwy am y rheswm dros y cariad diamod a ddangoswyd tuag ata i.

Dechreuais fynd gyda Daf ac Andrew i YL (Youth Link Cristnogol) Abertawe bob nos Sadwrn. Unwaith eto, cyflwynwyd yr efengyl yn syml. Does neb yn ddigon da i fynd i’r nefoedd; neb yn haeddu mynd. Mae Duw mor berffaith, mor sanctaidd, fel hyd yn oed pe bydden i mond wedi gwneud un peth allan o’i le, byddai’r un peth hwnnw’n ddigon i’m rhwystro rhag mynd i deyrnas Dduw. Daeth Iesu Grist, Mab Duw, i’r byd yma fel aberth dros bechodau pawb. Fy mhechodau i.

Tua Mawrth 2001 dechreuais gymryd y cyfarfodydd yn fwy o ddifri, a dechreuodd yr efengyl wneud mwy o synnwyr i mi. Sylweddolais fod y Beibl yn dysgu am nefoedd ac am uffern a deallais cymaint y mae Duw yn ein caru ni, fel iddo anfon ei Fab i farw ar y groes. Wrth dderbyn Iesu fel Gwaredwr, fel aberth dros fy mhechodau, rwy’n cael maddeuant ac yn cael mynd i’r nefoedd.

Dwi ddim yn hollol siŵr pryd y daeth Iesu i mewn i’m bywyd, rywbryd rhwng Mawrth a Medi 2001, ond gallaf edrych nôl ar y cyfnod a diolch i Dduw ei fod wedi fy achub i. Mae e mor alluog. Mae’n rymus ac mae gweddi’n rymus hefyd. Mae’n debyg bod Daf yn ystod y cyfnod yma wedi anfon e-bost at bob Cristion yn ei lyfr cyfeiriadau yn gofyn iddyn nhw i weddïo drosto i. Mae gweddi’n gweithio.

14 blynedd ers y noson honno yn Eisteddfod Llanelli rwy’n weinidog yn Eglwys Christchurch, Casnewydd. Wrth feddwl am dystiolaeth a gweddi pobl debyg i Daf, Andrew a’r Gorlan, rwy’n gofyn i Dduw i godi pobl fel nhw yn ein heglwys ni heddiw, pobl fydd yn ffrindiau cariadus ac yn arddangos cariad Crist yn eu bywydau. Ac rwy’n gweddïo y bydd pawb sy’n darllen y geiriau yma’n profi’r cariad a’r maddeuant sydd yn Iesu Grist.

Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf