Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Yr eglwys gyfan yn darllen y Beibl cyfan

6 Gorffennaf 2012 | gan Steve Levy

Bu farw mam ifanc yn ein heglwys, a chefais y fraint o glywed ei mab yn esbonio sut yr atgyfnerthodd Duw ef trwy’r Beibl yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae sôn bod rhai o’r nyrsys wedi dychwelyd i’w gwaith ar ôl yr angladd, yn rhyfeddu at y gobaith a gafwyd yno.

Mae dyn o Iran yn ein heglwys, o gefndir Islamaidd. Erbyn hyn, yn rhyfeddol iawn, mae wedi ymddiried yn Iesu Grist fel ei Arglwydd a’i Waredwr. Caiff ei fygwth yn gyson gan ei deulu, ac mae nifer o’i gyfeillion wedi ei wrthod. Beth sy’n ei nerthu? Gair Duw. Tystiodd sut y bu 2 Timotheus 4:17-18 yn anogaeth werthfawr iddo.

Mae’r Beibl yn gweddnewid bywydau, gan roi gobaith a sicrwydd. Yn bennaf, mae Gair Duw yn arddangos goleuni Iesu Grist. Dywedodd un aelod yn ddiweddar: ‘Rwyf wedi cael profiad o Iesu trwy ddarllen y Beibl.’

Fel eglwys rydym wedi dod yn argyhoeddedig o rym y Gair, ac wedi profi’r Beibl yn llefaru i’n bywydau. Mae’r cynllun Reading the Bible Together (RBT) yn ganolog i hyn, gyda dros 150 o’r aelodau yn ei ddilyn. Rydym yn ddiolchgar i Dduw am ei effaith ar yr eglwys.

Gwreiddiau’r Cynllun

Mewn sgwrs dros goffi gyda fy ffrind, Paul Blackham, cefais fy atgoffa o’r egwyddorion sylfaenol a ddysgais gan fy nhad yn ifanc:

Egwyddor 1: Mae Duw wedi dangos sut i ddarllen y Beibl.

Mae Spurgeon yn adrodd hanes am fynychu astudiaeth Feiblaidd. Doedd neb yn yr ystafell yn deall yr adnodau, ac felly ‘treuliwyd yr awr yn rhestru popeth roeddem yn ei wybod!’. Doedd dim ymdrech i fynd i’r afael â’r adnodau oherwydd fe gymerwyd yn ganiataol nad yw’r Beibl yn ddealladwy.

Un o’r egwyddorion mwyaf sylfaenol i’w gofio wrth ddarllen y Beibl yw bod Duw wedi llefaru’n glir. Mae’r mynegiant yn ddealladwy. Y gair diwinyddol Saesneg yw Perspicuity (sef eglurdeb, sef gair cymhleth am syniad mor syml!).

Egwyddor 2: Iesu yw canolbwynt y Beibl

Dyma ddatganiad Iesu ei hun:

A chan ddechrau gyda Moses a’r holl broffwydi, dehonglodd iddynt y pethau
a ysgrifennwyd amdano ef ei hun yn yr holl Ysgrythurau. (Luc 24:27)

Mae rheswm diwinyddol dros ddatgan hyn hefyd: ‘Oherwydd un Duw sydd, ac un cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, sef Iesu Grist’ (1 Tim. 2:5). Heb gyfryngwr, mae Duw yn gwbl frawychus ac ofnadwy. Rhaid cael cyfryngwr os ydym i sefyll o’i flaen heb wynebu ei ddigofaint cyfiawn. Iesu Grist yw’r unig gyfryngwr digonol. Felly gallwn ddisgwyl iddo ef fod yn ganolog i’r holl Feibl, yn yr Hen Destament a’r Testament Newydd.

Iesu Grist yw canolbwynt y Beibl, ac ef sy’n esbonio’r Gair. Cyhoeddwn felly nad llyfr i’r elite yn unig yw’r Beibl. Mae’r Beibl yn alluog i wneud y syml yn ddoeth. Oherwydd hynny, ein braint yw annog pawb i ddarllen ac astudio’r Beibl.

Egwyddor 3: Amcan y Beibl yw adeiladu’r Eglwys

Clywn am Gristnogion yn esgeuluso darllen y Beibl, ac am rai sy’n ofni mentro ymhellach na’r Efengylau a’r Salmau. Mae eraill yn cyfyngu eu darllen i’r nodiadau Beiblaidd hynny sy’n pwysleisio gwersi hapus a dymunol, gan anwybyddu’r pwyntiau difrifol a heriol.

Maent yn anghofio mai amcan Duw yw defnyddio’r Beibl i adeiladu’r holl eglwys. Wrth i’r Ysbryd Glân gymhwyso’r Beibl i fywydau’r aelodau, byddant yn aeddfedu ac yn tyfu mewn sancteiddrwydd (e.e., Col. 1:28). Wrth esgeuluso’r Beibl, mae’r holl eglwys yn dioddef.

Diolch am y glaw!

Roeddem ar wyliau yng Nghernyw ac, fel sy’n arferol ar ein gwyliau, roedd yn bwrw glaw! Roeddwn yn darllen am yr egwyddorion uchod, a chefais fy argyhoeddi yn y fan a’r lle: ‘Rhagrithiwr! Rwyt yn dweud fod y Beibl yn glir, mai Crist yw canolbwynt y Beibl, a’i fod i’w ddarllen gan bawb…Pam nad yw dy weinidogaeth yn adlewyrchu hynny?’

Roedd yn rhaid ymateb i’r her yn syth, ac felly dywedais wrth Clare, fy ngwraig, bod yn rhaid i mi fynd i Tesco. Wrth eistedd yno yn y maes parcio, dechreuais ystyried cwestiwn sylfaenol:

Mae pob math o bobl yn ein heglwys: Doctoriaid, myfyrwyr, ‘bouncer’, rhai a fu’n gaeth i alcohol, rhai a fu’n byw ar y strydoedd, fferyllwyr, mamau sengl, plant, pobl sy’n ddi-waith…Sut gallwn eu hargyhoeddi o’r egwyddorion yma, fel eu bod wir yn darllen y Beibl?

Ganed cynllun Reading the Bible Together mewn car yn y glaw yng Nghernyw.

Yr eglwys gyfan yn darllen y Beibl

Cymhwyso Egwyddor 1

Sut mae Duw am inni ddarllen y Beibl? Trwy ddarllen llyfrau’r Beibl fel y’u datguddiwyd ganddo. Er enghraifft, yn lle trafod adrannau bychain o’r Beibl, beth am ddarllen y llyfrau yn eu cyfanrwydd? Trwy wneud hyn, mi fydd yn haws darganfod y prif themâu a’r gwersi. Ystyriwch lythyr Paul at y Philipiaid. Wrth ddarllen y llythyr yn ei gyfanrwydd, daw’n amlwg mai ‘Undod’ yw prif thema. A fyddem wedi sylwi ar hynny trwy ddarllen amrywiol adnodau ar wahân?

Penderfynwyd felly y dylem annog yr eglwys i ddarllen y Beibl mewn adrannau sylweddol. Dyma hanfod y cwrs RBT. Bob mis mae’r holl aelodau yn ymroi i ddarllen rhai o lyfrau’r Beibl yn eu cyfanrwydd, ac yna’n cwrdd yn fisol mewn grwpiau bychain i drafod y llyfrau hynny. Er mwyn cynorthwyo’r aelodau sy’n anllythrennog, a’r rhai sy’n cael trafferthion i ddarllen, penderfynwyd creu CD o ddarlleniadau o lyfrau’r Beibl.  

Cymhwyso Egwyddor 2

Crist yw canolbwynt y Beibl, ac felly’r cwestiwn pwysicaf i’w ystyried yw ‘Ble mae Iesu yn y llyfr hwn?’ Mae popeth arall yn deillio o hyn. Felly, wrth lunio’r cwrs RBT, cytunwyd y byddai’r holl grwpiau yn ystyried y cwestiwn hwn ar ddechrau pob cyfarfod.

Ein dymuniad oedd cael gweld ac addoli Iesu Grist yn fwy, ac felly mi fyddai cwestiynau annelwig yn cael eu gwahardd, e.e., ‘Sut mae’r darn yn gwneud i chi deimlo?’; ‘Beth ydych chi’n ei feddwl ei fod e’n ei ddweud?’

Cymhwyso Egwyddor 3

Amcan y Beibl yw adeiladu’r eglwys, ac felly ceisiwyd sicrhau bod y cwestiynau a drafodir yn y grwpiau RBT yn adlewyrchu hyn. Dosbarthwyd y cwestiynau canlynol i bob grŵp:

  • Beth ydych chi wedi ei ddysgu am Iesu? (Luc 24:45-47
  • Beth ydych chi wedi ei ddysgu fydd yn eich galluogi i wasanaethu’n fwy, er mwyn gweld eich eglwys leol yn tyfu’n gryf? (Eff. 4:11-16)
  • Beth ydych chi wedi ei ddysgu am eich hunan? (Iago 1:23, 2 Tim. 3:16-17)
  • Ym mha ffyrdd y cawsoch eich hyfforddi, eich ceryddu neu’ch cywiro? (2 Tim. 3:16-17)
  • Beth fydd yn eich cynorthwyo i ddyfalbarhau? (Rhuf. 15:4)
  • Beth ydych chi wedi ei ddysgu fydd yn eich galluogi i garu’r Arglwydd eich Duw â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid â’ch holl feddwl? (Math. 22:37-40)
  • Beth ydych chi wedi ei ddysgu fydd yn eich galluogi i garu eich cymydog fel chi eich hun? (Math 22:37-40)

Effaith y Cwrs

I fesur dylanwad y cwrs, ac i annog ein gilydd fel eglwys, penderfynwyd cynnal seiat yn fisol er mwyn trafod y gwersi o’r darlleniadau a’r cyfarfodydd. Yn ogystal, cytunwyd y byddai’r henuriaid yn cwrdd yn fisol i drafod yr hyn a drafodwyd yn y grwpiau RBT, a’r anghenion a ddaeth i’r amlwg. Er enghraifft, gwelwyd yr angen i ddyfnhau ein dealltwriaeth o athrawiaethau sylfaenol, ac felly aethom ati i gynnal Doctrine Day ar dri dydd Sadwrn y flwyddyn.

Teimlwn yn gryf mai ewyllys Duw oedd i ni gynnal y cwrs hwn. Trwy ddarllen y Beibl yn drefnus a phwrpasol, rydym wedi dechrau dysgu gyda’n gilydd sut i ddarllen y Gair. Wrth ddarllen llyfrau cyfan, a gofyn cwestiynau pwrpasol, mae hyder yr aelodau yng ngrym y Gair wedi cynyddu (does neb wedi cwyno bod Lefiticus yn ddiflas!). Rydym yn dysgu sut i gymhwyso’r Beibl, ac wedi gweld yr Ysbryd Glân ar waith, trwy’r Gair, ym mywydau’r aelodau.

Mae’r holl Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol. Rydym wedi gweld a phrofi hynny fel eglwys dros y misoedd diwethaf. Sut? Yn syml trwy ymroi i ddarllen y Beibl yn eang ac yn gyson. Diolchwn i Dduw fod gennym y fath ddatguddiad!

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF