Beth allwn ni ei ddysgu gan y Tadau Methodistaidd?
Un ffaith hanesyddol fawr y Diwygiad Methodistaidd
Mae llawer o ffeithiau hanesyddol rhyfeddol yn gysylltiedig â hanesion y Tadau Methodistaidd, gwŷr fel Howell Harris (1714-73), Daniel Rowland (1713-90), Thomas Charles (1755-1814), John Elias (1774-1841) a llawer rhagor, ond nid oes un, mi gredaf, i’w chymharu â’r ystadegau o ran nifer yr addolwyr.
1730
Tua 70-80 o achosion Anghydffurfiol yng Nghymru
1-2% o boblogaeth y wlad yn eu mynychu (tua 7,000)
1851
2,088 o gapeli Anghydffurfiol
53% o’r boblogaeth yn eu mynychu (tua 700,000)
15% ychwanegol yn aelodau yn yr Eglwys Wladol
Hyd yn oed o dderbyn bod peth anghytundeb ynghylch yr union ffigyrau, nid yw hynny’n lleihau ffaith anghredadwy yr hyn a ddigwyddodd. Ymhen can mlynedd trawsnewidiwyd cenedl yn llwyr. Yn ei moesau, yn ei diwylliant, yn ei chredo, yn ei bywyd cymdeithasol, hyd yn oed yn ei gwleidyddiaeth, roedd cenedl y Cymry yn 1851 yn genedl hollol wahanol i’r eiddo 1730.
Y rheswm am y ffaith hon
Defnyddiodd haneswyr academaidd ymadroddion megisl ‘apêl y newydd’, neu ‘y rhyddhad sydyn o egni wrth sylfaenu enwad newydd’, neu oherwydd ‘gallu trefniadol rhyfeddol Thomas Charles’ (David Williams, A History of Modern Wales).
Annigonol yw’r rhesymau hyn. Mewn gwirionedd, nid oes esboniad posibl am y fath newid syfrdanol heblaw am esboniad goruwchnaturiol. Diwygiad yw’r unig esboniad credadwy. Effeithiau nerth a dylanwad yr Ysbryd Glân. Duw yn bendithio tref, neu ardal, neu wlad fel yn yr achos hwn, drwy ymweld â’r wlad mewn cyfnod o adfywiad.
Yr Ysbryd Glân yn chwythu lle y mynno, yn arddel pregethu ei weision, yn bywhau pechaduriaid a oedd yn feirw, ac yn gwneud hynny i’r fath raddau nes bod cymeriad cenedl yn newid. Dyna fel y deallai’r Methodistiaid eu hamserau, a thrwy edrych ar eu hymateb i’r gwirionedd hwn efallai y dysgwn rywbeth o werth i’n dyddiau ni.
Y Tadau Methodistaidd a’r Ysbryd Glân
Mae geiriau Sechareia mor addas yn y cyswllt hwn:
Hyn yw gair yr Arglwydd at Sorobabel, gan ddywedyd, Nid trwy lu, ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd, medd Arglwydd y lluoedd (Sechareia 4:6).
Neu 1 Corinthiaid 2:4:
A’m hymadrodd a’m pregeth i, ni bu mewn geiriau denu o ddoethineb ddynol, ond yn eglurhad yr Ysbryd a nerth.
Gwelodd y Tadau yn yr adnodau hyn ddisgrifiad llythrennol o’u profiad hwythau wrth bregethu.
Roedd ymwybyddiaeth ddofn o’r Ysbryd Glân, a dibyniaeth lwyr arno:
(i) Os oedd yr Ysbryd i arddel eu geiriau rhaid oedd sicrhau mai neges yr Ysbryd a bregethid. Golygai hynny, wrth gwrs, fod rhaid wrth neges Feiblaidd, ond pa neges o’r Beibl? Beth oedd y genadwri ddwyfol ar gyfer yr awr? Cyn dechrau ar baratoi pregeth rhaid, felly, oedd cael sicrwydd o feddwl yr Ysbryd. Dyma Robert Roberts, Clynnog, tua 1790:
Galwodd y Parch. John Williams, Dolwyddelen, heibio iddo unwaith, i edrych amdano. Yr oedd y ddau yn gyfeillgar iawn… ‘Robert bach,’ meddai, ‘dywedwch ym mha le y byddwch yn cael y pregethau ofnadwy yma sydd gennych?’ Gafaelodd Robert Roberts yn ei fraich, cymerodd ef gam neu ddau gydag ef, a chan agor cil drws yr ystafell ddirgel, pwyntiau i mewn â’i fys, gan ddweud, ‘Yna, yna, mewn gweddiau taerion, ac ymdrech gyda Duw y byddaf yn eu cael.’
Ni olygai hynny fymryn llai o baratoi nac o ymdrech, ond yn sicr golygai dipyn mwy o weddi.
(ii) Dibyniaeth ar yr Ysbryd am help i draddodi’r neges, a hyd yn oed, wrth gwrs, i ddarparu neu addasu’r gair fel yr oedd y pregethwr ar ei draed yn llefaru. Nid sefyll o flaen cynulleidfa a thraddodi o nodiadau yn eu dwylo a wnaeth Howell Harris na Daniel Rowland, Robert Roberts na John Elias.
Dyma Thomas Charles:
Pe byddai gennyf y cyfansoddiad cryfaf a’r manteision pennaf i wneud fy hun yn feistr ar bob cangen o lenyddiaeth ddynol, ie, o bob dysgeidiaeth, cysegredig ac anghysegredig, yr wyf yn gwbl argyhoeddedig y byddai hyn yn llawer rhy fach i’m gwneud yn bregethwr efengylaidd. Siarad llawer a allai un, a hynny yn gwbl uniongred; ond oni byddai ganddo ychydig o’r eneiniad hwnnw oddi wrth yr Ysbryd Glân, ar ddim a wn i, byddai gystal iddo fod yn dawel. Dyma sydd arnaf eisiau yn fy ngweddïau, yn fy efrydiau, ac yn fy myfyrdodau.
(iii) Mae tueddiad yn ein dyddiau ni i geisio rhoi addysg ddiwinyddol i bob gŵr ifanc o Gristion gan obeithio y bydd cymaint ohonynt â phosib yn mynd yn bregethwyr. Mae’r cymhelliad yn gymeradwy. Ond ef sy’n galw, meddai’r Tadau. Ef sy’n comisiynu: ‘Pa fodd y pregethant onis danfonir hwynt?’ Yn fuan iawn felly sefydlodd y Methodistiaid gyfundrefn gaeth iawn i benderfynu pwy oedd â’r hawl i bregethu yn eu seiadau. Doedd argyhoeddiad personol ddim yn ddigonol o bell ffordd. Roedd angen tystiolaeth glir o arddeliad yr Ysbryd Glân, a chytundeb yr holl seiadau lleol cyn gadael i rywun ehangu ei faes pregethu.
(iv) Gweddïo dibaid, yn gyhoeddus ac yn y dirgel, am amlygiadau pellach o nerthoedd a dylanwadau’r Ysbryd Glân. Dyma un enghraifft, allan o ddigonedd, i ddarlunio hyn – Robert Dafydd, Brynengan, tua 1830:
Arferai enwi yr holl amaethdai yn ei weddïau, a gofynnai ar yr Arglwydd achub y preswylwyr. ‘Ti a wyddost,’ meddai, ‘O Arglwydd, fod yma rai tai a’r addolwyr a fu ynddynt wedi marw, a bod yr hen allorau wedi eu bwrw i lawr. O fy Nhad, gad i mi weled un diwygiad eto cyn marw.’… Gwrandawodd yr Arglwydd ei weddi. Yn y flwyddyn 1831, ymwelodd Duw yn rhyfedd â Gogledd Cymru, yn arbennig rhandir Llŷn ac Eifionydd, ac ychwanegwyd cannoedd lawer at yr eglwysi. Gelwir ef yn Ddiwygiad Brynengan.
Y wers i ninnau heddiw
Canlyniad cyfnod arall o adfywiad a bywhau – er ar raddfa lai – oedd sefydlu Mudiad Efengylaidd Cymru. Unwaith eto roedd dynion a gwragedd yn profi nerth a grym yr Ysbryd Glân, yn profi mai peth goruwchnaturiol yw Cristnogaeth. Tra roedd yr arloeswyr hynny’n fyw doedd dim pall ar eu hargyhoeddiad a’u pwyslais mai unig obaith gwlad anghrediniol oedd ymweliad nerthol oddi uchod. Rwy’n meddwl am ddau yn arbennig, D. Martyn Lloyd-Jones a J. Elwyn Davies. Ond gyda’u lleisiau nhw, ac eraill o’r cyfnod, wedi tawelu, mae’r llanw’n troi eto a daw tanseilio ar eu neges. Mae’n werth edrych arnom ni ein hunain o bryd i’w gilydd a mesur ein blaenoriaethau.
Beth a glywn o rai cyfeiriadau yn awr? Nad oedd pwyslais Martyn Lloyd-Jones ar ddiwygiad ond yn amlygu ei bersonoliaeth obsesiynol. Bod ei weithredoedd a’i ddiwinyddiaeth yn bietistaidd, yn ymwneud yn unig â phregethu, a’r pregethu hwnnw’n canolbwyntio hyd syrffed ar yr unigolyn a phrofiadau’r unigolyn. Yn hytrach, awgrymir, beth sydd ei angen yw i Gristnogion ac eglwysi gydweithio’n gymdeithasol, yn wleidyddol, yn ddiwylliannol, a bod yn amlwg yn ein cymunedau.
Peidiwch â’m camddeall. Mae’r gweithgareddau hynny’n deilwng, yn angenrheidiol. Nid eu dilorni yw fy mhwrpas, ond yn hytrach codi’r cwestiwn: Beth yw ein blaenoriaeth?
Beth all sicrhau bod 7,000 o eglwysi uniongred, efengylaidd, a 700,000 o addolwyr yng Nghymru erbyn y flwyddyn 2111?
Nid trwy lu, ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd
Sut mae newid cymeriad cenedl? 700,000 o unigolion yn profi tröedigaeth unigol wrth i’r Ysbryd Glân gyffwrdd â nhw, ond â’u bywydau o hynny ymlaen yn gyfrwng i newid moesau, gwleidyddiaeth, diwylliant a chrefydd cenedl gyfan.
Canlyniad profiadau’r Tadau Methodistaidd oedd bod eu hymwybyddiaeth o’r Ysbryd Glân, a’u hiraeth am ei weld yn gweithio’n nerthol yn Nghymru, yn llosgi ynddynt drwy gydol eu bywydau. Y brif wers i’w ddysgu gan y Tadau hyn yw mai dyma gyfrifoldeb ein cenhedlaeth ninnau hefyd. Parhau â phob gweithgarwch, parhau â phob ymdrech ffyddlon, ond ar yr un pryd hiraethu a gweddïo am nerth oddi uchod.