Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Teyrnged Bersonol i John Stott (1921-2011)

6 Mawrth 2012 | gan Geraint Lloyd

Tua 3.15 y prynhawn ar 27 Gorffennaf 2011, yn sŵn Meseia Handel, bu farw John Stott yn 90 oed. Ers hynny, mae toreth o deyrngedau wedi ymddangos. Dyma un arall. Er bod llawer sy’n gymhwysach na mi ar gyfer y gorchwyl hwn, rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n teimlo rhyw reidrwydd i ddweud rhywbeth amdano. Roedd y Sais byr yn gawr o ddyn ac yn un o fawrion Cristnogaeth efengylaidd yn ystod y cyfnod diweddar. Efallai taw un mesur o fawredd John Stott yw ei bod yn amhosibl peidio â’i edmygu hyd yn oed wrth anghytuno ag ef ynghylch rhai pethau. Dyma rai o’r pethau sy’n dod i’m meddwl i.

Y dyn

Roedd John Stott yn ddyn disgybledig. Bu’n ddisgybledig ei ddarllen gan osod patrwm o dreulio chwarter awr gyda’i lyfrau bob dydd, hanner diwrnod unwaith yr wythnos, diwrnod cyfan unwaith y mis, ac wythnos gyfan unwaith y tymor. Roedd yn ddisgybledig yn ei fywyd defosiynol gan ddilyn cynllun Robert Murray McCheyne ar gyfer darllen trwy’r Beibl unwaith y flwyddyn (gan gynnwys y Testament Newydd a’r Salmau ddwywaith). Byddai’n dihuno bob bore am 5 o’r gloch er mwyn cyflwyno’r diwrnod a’i hun i Dduw.

Yn ogystal â’i weinidogaeth yn eglwys fawr All Souls yn Langham Place, Llundain, bu’n brysur mewn ymgyrchoedd efengylu mewn prifysgolion ac ar draws y byd, gan barhau i bregethu yn ei wythdegau. Cofiaf ei glywed yn Aberystwyth ddiwedd yr wythdegau yn sôn am yr ymgyrch efengylu y bu’n ei harwain yno dros ugain mlynedd ynghynt. Daeth rhywrai i’r bywyd yn ystod yr ymgyrch honno, ac roedd John Stott yn dal i gofio amdanynt mewn gweddi. A dim ond un ymgyrch ymhlith cannoedd oedd honno.

Roedd hefyd yn ddyn grasol. Pan ymddangosodd rhywun o gynulleidfa Westminster Chapel (lle’r oedd Dr Martyn Lloyd-Jones yn gweinidogaethu) yn Langham Place ryw fore Sul roedd yn amlwg bod rhywbeth yn ei gorddi: ‘I’m not a disciple of the great Doctor’, meddai’n grafog. ‘Oh, but I am’, oedd ateb annisgwyl ond heddychol y Rheithor. Yn ddiweddarach, bu anghydweld cyhoeddus rhwng y ddau arweinydd efengylaidd ar fater undod eglwysig , ond hyd yn oed wedyn gofalodd na fyddai eu gwahaniaethau’n effeithio ar eu perthynas â’i gilydd trwy ymweld â’i hen gyfaill yn ei gartref pan oedd iechyd y Cymro’n dechrau pallu.

Y llyfrau

Dyn diariangar iawn oedd John Stott, ac roedd wedi rhoi ymaith y rhan fwyaf o’i eiddo ymhell cyn iddo farw, ond efallai taw’r etifeddiaeth fwyaf gwerthfawr a adawodd yw’r 51 o lyfrau a ysgrifennodd. Er bod dealltwriaeth Stott o’r berthynas rhwng gweithgarwch cymdeithasol a’r efengyl yn broblem, mae Issues Facing Christians Today a The Contemporary Christian yn parhau i fod yn fannau da i ddechrau meddwl am faterion cyfoes o safbwynt beiblaidd. Yn bendant, mae pwyslais John Stott ar gymhwyso’r efengyl i fywyd pob dydd, a’i esiampl yn hyn o beth, yn her bwysig. Bu hefyd yn un o brif hyrwyddwyr y pregethu esboniadol a adferwyd yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, ac mae I Believe in Preaching yn llawn cyngor buddiol. Yn bersonol, rwyf wedi cael y blas mwyaf ar ei esboniadau. Ei esboniad ar yr Epistol at y Galatiaid yng nghyfres The Bible Speaks Today IVP yw’r un gorau i mi ddod ar ei draws ar lyfr sy’n gallu bod yn ddigon cymhleth mewn mannau. Rwyf wedi rhyfeddu dro ar ôl tro at ei ddawn i ddod o hyd i raniadau clir a naturiol yn yr Ysgrythur ac i grisialu neges darn yn gryno.

Un llyfr

Eto i gyd, rhaid i mi ddod yn awr at yr hyn sydd wedi fy nghymell i ysgrifennu hyn o eiriau. Ni allaf feddwl am John Stott heb gofio am un llyfr yn arbennig: Basic Christianity. Pan oeddwn i mewn dryswch ysbrydol llwyr, yn llawn syniadau niwlog am grefydd a bywyd, y llyfr hwn a’m hysgogodd i ystyried o ddifrif pwy oedd Iesu Grist ac a ddangosodd i mi ei fod yn berson cwbl unigryw. Y llyfr hwn a’m helpodd i ddeall dysgeidiaeth Crist am bechod yn y galon ac am farn Duw. A thrwy’r llyfr bach hwn y cefais wybod am yr unig ateb i’m pechod ym marwolaeth Iesu Grist ar y groes a siars i gredu ynddo. Byddaf yn nyled John Stott am byth am hyn. Tybed faint rhagor, fel finnau, sy’n diolch amdano a’i gymwynas?

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF
Tagiau
John Stott
Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf