Braint fawr yw cael troi at y Beibl a’i ddarllen yn ein hiaith ein hunain. Braint hefyd yw gwybod mai dyma’r Beibl a fwriadodd Duw ar ein cyfer, sef y Beibl sy’n cynnwys tri deg a naw o lyfrau yn yr Hen Destament, a dau ddeg a saith yn y Testament Newydd. Mae’n arwydd o ragluniaeth Duw, oherwydd ffurfiwyd y Beibl dros gyfnod o ganrifoedd, a bu gofal mawr dros ei ffurfio a’i gyfieithu. Ystyr gwreiddiol canon oedd ‘corsen’, ond defnyddiwyd hi fel pren mesur. O gymhwyso hyn at y Beibl, canon yr Ysgrythur yw’r rhestr o lyfrau a gydnabuwyd yn Ysgrythurau Sanctaidd.
Yr Hen Destament
Erbyn cyfnod Iesu Grist roedd yr Hen Destament yn gyflawn. Cawn enghraifft o’i ffordd ef o gyfeirio at yr Hen Destament yn Luc 24: ‘Moses a’r holl broffwydi’ (ad.25-7), ‘Cyfraith Moses, a’r proffwydi a’r salmau’ (ad.44). Yn Efengyl Ioan 10:34, cyfeiria’r Iesu at ‘eich cyfraith chwi’, ac yn Efengyl Mathew 7:12, at yr Hen Destament fel ‘y gyfraith a’r proffwydi’. Cyfeiria’r gwahanol ffurfiau at yr Hen Destament fel Ysgrythur neu Ysgrythurau, a’u bod yn Air Duw, fel y dywed yr Iesu yn Ioan 10:35.
Yr apostolion
Mae awdurdod yr apostolion yn ganolog i’r drafodaeth ar y canon. Wrth ddysgu arferent gyfeirio at y ffaith eu bod yn apostolion. Ysgrifennodd Paul at Gristnogion Rhufain fel un wedi ei ‘alw i fod yn apostol’ (Rhuf. 1:1). Yn ei lythyr at y Corinthiaid, dywed iddo gael ei ‘alw’, a hynny trwy ‘ewyllys Duw’ (1 Cor. 1:1). Yr un yn union oedd ymwybyddiaeth Pedr. ‘Apostol Iesu Grist’ a gyfarchodd y ‘dieithriaid sydd ar wasgar’ (1 Pedr 1:1). Cawsant eu galw, eu dysgu, a’u danfon i’w gwaith gan yr Arglwydd Iesu ei hunan, a phob un ohonynt wedi gweld y Crist atgyfodedig.
Yn ogystal, rhoddodd Iesu addewid i’r apostolion y byddai’r Ysbryd Glân ei hun yn eu harwain a’u dysgu. Yn Ioan 14:16-17, mae’n addo ‘Diddanydd arall’ iddynt, hynny yw, un tebyg iddo ef ei hun, a hwnnw yn ‘Ysbryd y gwirionedd’. Defnyddia’r un geiriau eto yn Ioan 15:26, ac yn Ioan 16:13, dywed y bydd Ysbryd y Gwirionedd yn eu ‘tywys … i bob gwirionedd’.
O ganlyniad, hawliai’r apostolion awdurdod i’w hysgrifeniadau. Rhybuddiodd Paul ei ddarllenwyr, ‘Ond os oes neb heb ufuddhau i’n gair trwy y llythyr yma, nodwch hwnnw’ (2 Thes. 3:14 ac 1 Cor. 14:37). Ar ddiwedd Llyfr y Datguddiad, rhybuddiodd Ioan na ddylid tynnu oddi wrth y llyfr, nac ychwanegu ato. Cyfeiriadau at lyfrau unigol yw’r rhain, ond yr un yw agwedd holl ysgrifenwyr y Testament Newydd. Daw hyn i’r amlwg yn 2 Pedr 3:14-16, lle mae Pedr yn gosod epistolau Paul ochr yn ochr â’r Hen Destament, sef ‘yr ysgrythurau eraill’. Byddai’n arferiad i ddanfon y gwahanol lythyrau i’r gwahanol eglwysi (Col.4:16; Dat. 1:11).
Gorffennwyd ysgrifeniadau’r Testament Newydd i gyd cyn diwedd y ganrif gyntaf, rhwng tua 46-50 OC (Iago a Galatiaid), hyd tua 95 OC (Datguddiad). [1] Yn fuan ar ôl gorffen y gwaith o ysgrifennu, ymddangosodd yr Efengylau fel un casgliad; llyfr yr Actau ar wahân, ac Epistolau Paul.
Y broses o ffurfio’r canon
Ar ôl marw’r apostolion, roedd yn naturiol rhoi mwy a mwy o bwyslais ar eu hysgrifeniadau. Roedd ymwybyddiaeth ymhlith y Cristnogion cynnar o awdurdod yr apostolion. Er enghraifft, danfonodd Ignatius saith llythyr at Gristnogion Rhufain. Fe roddodd gyfarwyddyd yn ei lythyrau, ond pwysleisiodd nad oedd ganddo’r un awdurdod â Paul na Pedr.
Er bod y ffydd Gristnogol wedi lledu’n helaeth, roedd yr Eglwys – yr ‘epil eglwysi apostolaidd’ – yn un. Roeddynt yn gytûn bod angen casglu’r Ysgrythurau at ei gilydd, a diogelu’r neges apostolaidd. Roedd dau reswm allweddol am hyn:
i. Cododd heresi ei phen yn gynnar yn y ganrif gyntaf, ac fe gyhoeddwyd llawer o syniadau cyfeiliornus. Cyhoeddodd Marcion ei syniadau am yr Ysgrythurau, nad oedd angen yr Hen Destament, ac, er iddo sôn am awdurdod Paul, na ddylid derbyn pob un o’i lythyrau. Ymddangosodd pob math o weithiau eraill hefyd: ‘Apocalyps Pedr’, ‘Efengyl yr Hebreaid’, a’r ‘Efengyl Ebionaidd’ yn cynnwys llawer o bethau anhygoel (yng ngwir ystyr y gair) ac yn newid y dystiolaeth apostolaidd. Dywedodd yr Ebioniaid, er enghraifft, fod Ioan Fedyddiwr yn llysfwytäwr. Medrai awduron digon cyfrifol fod yn ffansïol, fel Clement yn cyffelybu atgyfodiad Iesu Grist i chwedl y Phoenix. Roedd angen diffinio pa weithiau oedd yn ysgrythurau, yn eiriau gwir ac awdurdodol oddi wrth Dduw ei hun.
ii. Roedd yn gyfnod o erlid ar y Cristnogion. Collwyd a dinistriwyd llawer o ysgrythurau. Roedd galw felly i wneud yn hollol glir pa weithiau oedd yn ysgrythurau.
Aethpwyd ati i wneud rhestrau o’r Ysgrythurau, ac mae cyfeiriadau at wahanol restrau ar gael ar hyd y canrifoedd cynnar, er enghraifft, canon Muratorian o 170-200 OC. Yn y diwedd, ffurfiwyd rhestr derfynol, sef y llyfrau sydd gennym ni heddiw, er bod amheuaeth dros dro ynglŷn â’r Llythyr at yr Hebreaid, 2 Pedr a Datguddiad. Cadarnhawyd y canon yn y Dwyrain yn 367 OC, ac yn y Gorllewin yn 393 OC. [2]
Gwrthodwyd rhai llyfrau, er enghraifft, Bugail Hermas. Cydnabuwyd bod hwn yn waith y gellid ei ddarllen er adeiladaeth a budd ysbrydol, ond heb ei gyfrif yn y canon. Mae hyn yn cyfateb i’r hyn a ddigwyddodd i’r Apocryffa. Dyma a ddywed Thomas Charles am lyfrau’r Apocryffa:
Oherwydd eu hynafiaeth, y mae gradd o barch wedi ei roddi iddynt ym mhob oes; ond nid fel yr ysgrifeniadau dwyfol, nac yn gyfartal mewn awdurdod â’r Ysgrythurau sanctaidd.
Ar ba sail y derbyniwyd a gwrthodwyd y llyfrau? Awdurdod oedd yr ystyriaeth holl bwysig wrth ffurfio’r canon. Cydnabuwyd:
- y llythyrau a ysgrifennwyd gan yr apostolion
- ysgrifeniadau eraill a oedd ag awdurdod apostolaidd
- y gweithiau a ddefnyddiwyd yn yr eglwysi eisoes
Mae’n bwysig cofio nad rhoi awdurdod i’r llyfrau oedd gwaith y cynghorau eglwysig. Nid yr Eglwys a greodd y canon. Yn hytrach, datgan a wnaeth pa lyfrau a oedd eisoes wedi eu cydnabod yn awdurdodol, a hynny ers dros 200 o flynyddoedd.