Mae gweddi yn rhodd lawen ac adfywiol i’r enaid ond hefyd yn ddisgyblaeth. Mae’r llawenydd hwnnw o bosibl yn felysach wrth weddïo mewn cwmnïaeth a baich y ddisgyblaeth yn ysgafnhau drwy bartneriaeth. Mae’n llesol felly i weddïo gyda’n gilydd, a hynny weithiau mewn parau neu drioedd.
- Dewiswch yn ddoeth – bydd eich grŵp yn fwy ffrwythlon wrth weddïo am yr hyn y mae gwir angen gweddi amdano. Dewiswch y rheini sy’n onest a rhai y gallwch chithau rannu materion personol â nhw.
- Ceisiwch osgoi dewis ffrindiau yn unig – beth am ofyn i Gristion aeddfed ynghyd â chrediniwr newydd? Rhowch y pwyslais ar dwf ysbrydol eraill a’ch twf eich hun.
Dal i fod yn ansicr? Edrychwch ar y rheini y mae Duw, yn ei ragluniaeth, wedi’u gosod o’ch amgylch. Anghofiwch yr allanolion ac adeiladwch eich grŵp ar sylfaen uwch; dibyniaeth ar ei gyfiawnder ef yn hytrach na thebygrwydd cymdeithasol. - Manteisiwch ar gyfryngau cymdeithasol – Cadwch mewn cysylltiad drwy’r wythnos; tecstiwch air o anogaeth, e-bostiwch eiriau o gysur, ffoniwch i ‘ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da’.
- Gweddïwch yn eang – dros eich brodyr a’ch chwiorydd, dros eich tref, eich gwlad a’r holl greadigaeth.
- Gweddïwch a Christ yn ganolbwynt – Rydym yn gweddïo yn ei enw ef, yn ei haeddiant ef, wedi ein gwisgo â’i gyfiawnder ef, wedi ein harfogi â’i ysbryd ef, i wneud ei waith ef, i’w ogoniant ef!