Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Pam gweddïo?

6 Mawrth 2012 | gan John Pritchard

‘Pam gweddïo?’ Mae’n gwestiwn a ofynnir am bob math o resymau. Mae rhai’n ei ofyn am na welant unrhyw synnwyr mewn gweddi; eraill am eu bod yn credu nad oes ateb i weddi; eraill am eu bod yn ystyried gweddi’n ddefod grefyddol sych; ac eraill am iddynt gael trafferth i weddïo, ac yn arbennig i ddal ati i weddïo. Gall Cristnogion ofyn y cwestiwn ar brydiau, a hynny am un neu ragor o’r rhesymau hyn.

Felly, pam gweddïo? Pam yr ydym ni Gristnogion yn honni bod gweddi’n bwysig ac yn angenrheidiol ac yn fuddiol? Pam yr ydym yn gwneud gweddi yn un o hanfodion y bywyd Cristnogol? Pam yr ydym yn mynnu dweud bod rhywbeth mawr yn ddiffygiol ym mywyd unrhyw Gristion sy’n esgeuluso neu sy’n diystyru gweddi?  

Gadawn i’r Arglwydd Iesu ei hunan ateb y cwestiwn i ni, er nad yw’n trafod y cwestiwn fel y cyfryw. O ran gweddi, mae gan Iesu fwy i’w ddweud am y ‘sut’ a’r ‘beth’ nag am y ‘pam’. Mae’n cymryd yn ganiataol y bydd ei ddisgyblion yn gweddïo. Mewn gwirionedd, mae’n rhoi llawer mwy o sylw i’r hyn sy’n digwydd ‘pan fyddi di’n gweddïo’ nag i egluro pam y dylai neb ohonom weddïo.  Ac eto, gan yr Iesu y cawn ni’r ateb i’r cwestiwn hefyd.

O edrych ar Iesu, ac o wrando arno, gwelwn fod gweddi’n bwysig ac yn angenrheidiol i ni, ei ddilynwyr. Oherwydd yn ei fywyd a’i ddysgeidiaeth ef, cawn dri rheswm syml iawn dros wneud gweddi’n rhan annatod o’n bywydau fel Cristnogion. Pam gweddïo, felly? Am fod Iesu Grist yn ein dysgu i weddïo. Am fod Iesu’n gorchymyn i ni weddïo. Ac am fod Iesu ei hunan yn gweddïo.

Mae gweddi’n bwysig i ddechrau am fod yr Arglwydd Iesu’n ein dysgu i weddïo.

Mae’n rhagdybio fod ei ddisgyblion yn gweddïo, ac yn y Bregeth ar y Mynydd mae’n eu dysgu sut i wneud hynny (Mathew 6:5-13). Mae’n mynd i drafferth i egluro i’w ddisgyblion ac i ninnau ein bod yn meithrin perthynas bersonol â’n Tad nefol wrth fynd o’r neilltu i weddïo. Mae’n pwysleisio’r angen i fod yn ddiffuant a diragrith wrth weddïo. Mae eisiau i ni ddeall bod y Duw sydd yn y dirgel yn clywed ac yn ateb ein gweddïau. Ac mae’n ein hannog i weddïo trwy ein sicrhau fod Duw’n gwybod yn union beth yw ein hanghenion cyn i ni ofyn am ddim ganddo. Ac wrth fynd ymlaen i’n dysgu i weddïo ‘fel hyn’, mae’n dangos yn glir pam y dylem weddïo. Wrth weddïo, meddai, rydym yn cydnabod mawredd Duw; yn pledio arno i lwyddo’i deyrnas a chyflawni’i ewyllys; yn cydnabod ein dibyniaeth arno am gynhaliaeth faterol; yn ceisio’i faddeuant a’i ras i faddau i eraill; yn cyfaddef ein hangen am nerth a gras yn wyneb profedigaeth a themtasiwn.

Mae gweddi’n bwysig wedyn am fod Iesu’n gorchymyn i ni weddïo.

‘Gweddïwch chi fel hyn’, meddai. Nid awgrym mo hwn. Nid gwahoddiad mohono chwaith. Gorchymyn ydyw, a rhywbeth i ufuddhau iddo yw gorchymyn. Fel y gwelsom, mae a wnelo gweddi â meithrin perthynas fywiol â Duw. Ond i’r Cristion, mae gweddi hefyd yn orchymyn gan Iesu Grist. Nid rhywbeth y gallwn ddewis ei wneud neu beidio yw gweddi. Rydym i fod i wneud hyn. Mae Iesu Grist ei hun yn dweud wrthym i wneud hyn. ‘Gweddïwch’, meddai, ‘dros y rhai sy’n eich erlid’ (Mathew 5:44). ‘Gweddïwch na fyddwch yn gorfod ffoi yn y gaeaf nac ar y Saboth’ (Mathew 24:20). ‘Gweddïwch bob amser ..’ (Luc 21:36).
 Ac mae’n cadarnhau hynny hefyd wrth adrodd y ddameg am y weddw daer, ‘i ddangos fod yn rhaid iddynt weddïo bob amser yn ddiflino’ (Luc 18:1). Gall y berthynas â Duw oeri, ac o reidrwydd ar adegau felly bydd gweddi’n diffygio. Ond hyd yn oed pan fo’r galon yn oer a’r ewyllys yn wan, mae’r Cristion dan orchymyn i weddïo er mwyn cydnabod ei angen a mynegi ei ddiolch a’i glod i Dduw.

Ac mae gweddi’n bwysig am fod Iesu ei hun yn gweddïo.

Nid sôn am weddi, na gorchymyn i eraill weddïo a wnâi Iesu yn gyntaf, ond gweddïo! Roedd gweddi’n ganolog i’w holl fywyd. Byddai’n mynd o’r neilltu i weddïo ei hunan (Luc 11:1) ac yn gweddïo gyda’i ddisgyblion (Luc 9:18). O ddydd ei fedydd (Luc 3:21) i awr ei farw (Luc 23:46) roedd Iesu’n gweddïo. Cyn dewis y deuddeg disgybl (Luc 6:12); cyn cerdded ar y dŵr (Marc 6:46); ar Fynydd y Gweddnewidiad (Luc 9: 28-29); cyn atgyfodi Lasarus (Ioan 11:41); yng ngardd Gethsemane (Marc 14:36); ac ar y groes (Mathew 27:46; Luc 23:34), roedd Iesu’n amlwg yn cyflwyno popeth i’w Dad.
Ac os oedd Iesu’n ymwybodol o’r angen am gymorth a nerth, ac yn ymdeimlo â’r rheidrwydd i gyflwyno popeth i ofal ei Dad nefol, cymaint mwy ein hangen ninnau i wneud hynny bob dydd.

 

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF
Adnodd diwethaf