Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Help! Sut i weddïo fel teulu?

6 Mawrth 2012 | gan Steve Bowen

Cyn cael plant, fy argraff oedd mai peth hawdd, didrafferth fyddai gweddïo gyda’r teulu, ond ar ôl cael tri o blant bywiog, rwy’n sylweddoli bod eu cael i eistedd yn dawel ac yn llonydd yn her ynddi ei hun, heb sôn am eu cael i werthfawrogi mawredd yr hyn a wnawn wrth weddïo a’r un rydyn ni’n agosáu ato. Mae patrymau gwaith yn ei gwneud yn anodd cael amser o addoliad teuluol.

 Mae’n dda defnyddio cyfleoedd naturiol i weddïo – wrth ddiolch am y bwyd, er enghraifft, ac ar ddiwedd dydd wrth i’r plant fynd i’r gwely. Rydym wedi dysgu hefyd ei bod yn help i gael amser o weddi ac addoliad estynedig wrth y bwrdd bwyd, am fod y plant yn barod yn eu cadeiriau a nifer o bethau all dynnu sylw yn naturiol allan o’r ffordd.

Mae’n hawdd syrthio i batrwm sych o weddïo, rhyw rigol ddiystyr. Gall fod yn anodd torri’n rhydd o hyn.

Oherwydd hynny mae’n bwysig sicrhau bod deunydd defosiwn yn rhoi cyweirnod i’r weddi.  

Yr hyn rydyn ni’n ceisio ei wneud yw cadw’r Arglwydd yn ganolbwynt i’n bywyd teuluol, gan ddiolch iddo am ei holl ddaioni tuag atom – yn dymhorol ac yn ysbrydol; a’i glodfori am ei fawredd a’i ddarpariaeth i ni yng Nghrist.

O ran deisyfiadau, mae gofyn i’r plant am bethau i ddiolch amdanyn nhw yn arwain i weddïau digon diddorol, fel rhoi diolch am ‘Lego’. Yr her yw annog y plant i feddwl am bethau sylweddol i’w hystyried hefyd. Er hynny, hyd yn oed yn y pethau arwynebol, gellir diolch i Dduw am ei roddion a’i ddaioni, gan gydnabod bod hyn i’w weld ym myd bach y plant.

Mae’n bwysig cyflwyno’r pynciau sy’n pwyso arnom fel teulu, fel bod y plant yn deall fod gan yr Arglwydd ddiddordeb ym mhob maes, ac i ddangos ein bod yn ddibynnol arno am arweiniad a doethineb.

Yn bennaf oll, y brif weddi yw i Dduw ddangos Iesu Grist i ni fel teulu, boed yn gliriach, neu am y tro cyntaf. Gweddïwn y bydd y plant yn cael gras i weld eu hangen am y Gwaredwr ac yn ymddiried ynddo.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF
Adnodd diwethaf