Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Help! Rwy’n rhy brysur i weddïo!

6 Mawrth 2012 | gan Alun Johnson

O bryd i’w gilydd rydym yn teimlo nad oes digon o oriau yn y dydd i gyflawni pob peth. Yn ogystal, mae adegau pan fo pwysau gwaith yn anodd i’w ddioddef a’r straen yn ein profi i’r eithaf. Ar ben hyn i gyd, mae cymaint i dynnu ein sylw a llenwi bob munud o’r dydd, gyda’r holl ddatblygiadau technolegol sydd i fod i wneud bywyd yn haws. Dywed rhai nad ydym ni fel pobl y Gorllewin erioed wedi bod yn fwy prysur nag ydym ni nawr.

Yng nghanol prysurdeb y byd gwaith, rydym yn gwybod y dylem neilltuo amser i weddïo ar Dduw. Rydym yn gyfarwydd â’r dywediadau doeth megis ‘Seven days without prayer makes one weak’. Ond pryd gallwn ni weddïo?

Mae rhai diwrnodau mor brysur: rydym wedi blino’n lân erbyn diwedd y dydd, a’r peth olaf rydym yn teimlo fel gwneud cyn cwympo mewn i’r gwely yw gweddïo. Yn y bore, prin bod digon o amser i gael brecwast!

Beth yw’r ateb?

Wel, mae digon o gyngor ar gael sy’n ymdrechu i gynnig ateb a dydw i ddim yn bwriadu ychwanegu at hynny. Rwy wedi clywed am bobl yn gweddïo wrth eillio yn y bore; eraill yn mynd am dro i weddïo yn ystod yr awr ginio. Mae rhai gweithwyr yn dianc i’w ceir i weddïo yn ystod y dydd.

Dydw i ddim am ganolbwyntio ar sut i neilltuo amser na phryd y dylem weddïo. Yr hyn yr hoffwn bwysleisio yw’r un wers fawr yn y bywyd Cristnogol: ein prif gymhelliad ar gyfer pob agwedd ar y bywyd Cristnogol yw Iesu Grist ei hun, ac yn sicr os ydym am fod yn ffyddlon mewn gweddi mae angen canolbwyntio ar Iesu, ar ei berson ac ar ei waith.

Wrth gwrs, mae disgyblaeth yn allweddol os ydym am weddïo’n rheolaidd: i ddiffodd y teledu neu’r cyfrifiadur, i fynd i’r gwely’n gynnar, i godi’n gynnar, i beidio â gadael i bethau eraill dorri ar draws cyfnod penodedig o weddi, i sicrhau ein bod yn galw ar Dduw ar unrhyw adeg o’r dydd (nid yn unig yn y bore ac yn y nos). Ond eto, nid ydw i’n mynd i gael y ddisgyblaeth yma, na’r dymuniad i weddïo yn y lle cyntaf, os nad ydw i’n caru Iesu Grist. Ac mae gweddi a chariad tuag at Iesu Grist yn mynd law yn llaw: er mwyn i mi garu Iesu Grist yn fwy, mae angen i mi weddïo.

Trwy ddarllen y Beibl, megis Colosiaid 1:15-20, gwelaf fod gen i Waredwr heb ei ail – y gwir Dduw, yr Un a greodd bob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll, ac er ei fwyn ef y mae popeth yn bodoli. Fe yw pen corff yr eglwys, y dechreuad, y cyntaf-anedig oddi wrth y meirw ac ef sy’n blaenori ym mhob peth. Yn fwy na dim, sicrhaodd heddwch rhwng Duw a mi trwy waed ei groes!

Sut galla i beidio â gweddïo ar y Duw anhygoel hwn?

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF
Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf