Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Gweddi’r Arglwydd

6 Mawrth 2012 | gan Derrick Adams | Mathew 6

Effeithiwyd ar fy mywyd gweddi yn fawr gan hen weinidog a ddywedodd ei fod yn gweddïo Gweddi’r Arglwydd yn ddyddiol. Nododd fod gweddi wedi dod yn fwy ystyrlon, ac yn fwy heriol, wrth iddo ddeall y geiriau yn well a gorfod eu cymhwyso yn bersonol. Yn dilyn hyn, daeth Gweddi’r Arglwydd yn default setting i’m gweddïau innau hefyd.
Sylweddolais bod angen deall y geiriau’n well araf innau. Felly, er mwyn gwneud hyn, ac er mwyn medru cymhwyso’r geiriau yn fwy ffyddlon, ysgrifennais rai o gymalau’r weddi (o Mathew 6:9-13) ar hyd ymyl tudalen A4. Wrth ochr y geiriau, nodais beth yr oeddynt yn eu golygu, a sut y dylwn i eu gweddïo:

Ein: Nid gweddïo amdanaf fi fy hun yn unig ond am yr holl eglwys

Tad: Yn dangos parodrwydd Duw i wrando ac ateb.

Yn y nefoedd: Cawn ein hatgoffa o’n dyletswydd i ystyried y nefoedd yn gyson (gweler Colosiaid 3:1-4), a’r angen i weddïo am bethau nefolaidd ac ysbrydol, rhag inni roi’n holl amser i bethau ar y ddaear.

Sancteiddier dy enw: Pwysigrwydd cael meddwl uchel o Dduw, a gwir ddeisyfiad i eraill ddod i weld ei fawredd a’i ogoniant. Mae’n ein hysgogi i restru priodoleddau cymeriad Duw a’u hystyried yn weddigar.

Deled dy deyrnas: Ysgogiad i weddïo dros unigolion penodol, y byddant yn dod yn Gristnogion. Mae’n ein hatgoffa hefyd o’r angen i ymostwng i Dduw: ei deyrnas ef ydyw, nid fy nheyrnas i.

Gwneler dy ewyllys: Plygu mewn gwrogaeth i Dduw ac addo ufudd-dod iddo, gan ofyn am nerth i gadw’r Deg Gorchymyn.

Dyro i ni: Cymal bach sy’n pwysleisio ein dibyniaeth ar Dduw.

Ein bara beunyddiol: Gweddi Agur yn llyfr y Diarhebion, ‘Paid â rhoi imi dlodi na chyfoeth; portha fi â’m dogn o fwyd’ (30:7-9). Cael persbectif cywir ar ein hangen.

Maddau i ni: Cyffesu’n ddyddiol ein pechodau penodol.

Fel y maddeuwn ninnau: Glanhau’r llechen yn lân o unrhyw ddrwgdeimlad neu ddiffyg maddeuant tuag at eraill.

Nac arwain ni i brofedigaeth: Ni all Cristion sydd heb sylweddoli ei wendid weddïo’r weddi hon.

Gwared ni: Gweddi amddiffynnol rhag y diafol – a’r cnawd a’r byd – a’r pechodau a’r anawsterau sy’n ein hwynebu.

Cefais fendith o ddilyn y patrwm hwn, a hoffem eich annog chi i’w ddilyn hefyd. Rwy’n siŵr y daw gweddi’n fwy ystyrlon i chi o ganlyniad.

Rydym i gyd yn cael cyfnodau pan fo gweddïo’n anodd. Mae cael Gweddi’r Arglwydd fel default setting yn gymorth ar adegau felly. Gallwn droi at eiriau Iesu yn y weddi, ac wrth weddïo’r geiriau’n ofalus, gael ein hannog a’n nerthu. Yna, trwy ras Duw, efallai daw’r rhyddid i weddïo’n bersonol ac ystyried y cymalau yn ddyfnach. Wedyn cawn fwynhau cymdeithas â Duw, a sylweddoli o’r newydd mor fawr yw ein braint o gael perthynas â’n Tad sydd yn y nef.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF