Cefais dröedigaeth yn y coleg ym Mangor. Y diwrnod ar ôl i ffrind a minnau gyffesu ein ffydd yn yr Arglwydd Iesu, fe ofynnodd cyd-fyfyriwr inni, Elwyn Davies, a oeddem wedi darllen y Beibl a thystiolaethu wrth rywun. Awgrymodd y byddai’n dda inni ddweud wrth ein rhieni.
Dywedodd fy ffrind na allai hi byth ddweud wrthynt ei bod hi wedi dod yn Gristion. Pan oedd y ddwy ohonom yn ôl yn y coleg, awgrymais i y byddai’n dda inni ddarllen y Beibl a throis i Salm 27 heb wybod ei chynnwys. Darllenais a dod at adnod 10, ‘Pan yw fy nhad a’m mam yn fy ngwrthod, yr ARGLWYDD a’m derbyn.’ Cefais fy ngwefreiddio o sylweddoli bod Duw yn Dduw personol ac yn ein harwain drwy ei Air. Y mae’n fraint inni ddod at Dduw fel Tad sy’n ein caru ac sy’n gwybod y cyfan amdanom.
Mae’n bwysig wrth weddïo ein bod yn dechrau gyda Duw ac yn ei fawrhau Ef yn gyntaf. Mae’n hawdd rhuthro i’w bresenoldeb gan restru yn hunanol ein holl ofidiau a’n problemau ger ei fron. Rhaid cofio ei fod yn Dduw sanctaidd ac yn casáu pechod, ac felly mae’n ofynnol i ni gyffesu ein pechodau iddo a gofyn iddo am faddeuant. Rwy’n hoffi dweud wrtho ef yn ddyddiol fy mod yn ei garu ac fy mod am ei blesio drwy ufuddhau iddo mewn meddwl, gair a gweithred.
Mae gweddïo adnodau yn help mawr imi. Rwy’n aml yn gweddïo Salm 19:14, ‘Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymeradwy ger dy fron, O ARGLWYDD, fy nghraig a’m prynwr.’
Ar daith bywyd, y mae’r Arglwydd am inni ofyn yn ddisgwylgar am
- Ei nerth (Salm 46:1-2)
- Ei arweiniad (Salm 32:8)
- Ei dangnefedd (Philipiaid 4:6-7)
Disgwylir inni hefyd eiriol dros eraill, yn ôl y gorchymyn i ddyfalbarhau mewn gweddi dros y saint a gweision yr Arglwydd (Effesiaid 6:18-20).
Rwy’n awyddus i ufuddhau i anogaeth yr Apostol Paul yn Colosiaid 4:2: ‘Parhewch i weddïo yn ddyfal, yn effro, ac yn ddiolchgar.’