O bryd i’w gilydd yn yr ysgol, bydd athro neu athrawes yn ysgrifennu ‘dalier ati’ ar adroddiad gwaith. Dyna yn gryno yw ystyr y gair Groeg hwpomone, dyfalbarhad, neu’r gallu i ymddál.
Cysylltir hwpomone yn aml iawn yn y Testament Newydd â threialon neu anawsterau. Dyma’r apostol Ioan yn llyfr y Datguddiad yn ein hatgoffa bod y ddeubeth yn gallu mynd law yn llaw â’i gilydd: ‘Yr oeddwn i, Ioan, eich brawd, sy’n cyfranogi gyda chwi o’r gorthrymder a’r frenhiniaeth a’r dyfalbarhad sydd i ni yn Iesu…’ (Dat. 1:9).
Gwelwn hefyd y gall gorthrymderau arwain at ddyfalbarhad: ‘gan wybod bod y prawf ar eich ffydd yn magu dyfalbarhad’ (Iago 1:3).
Cysylltir dyfalbarhad hefyd â gobaith, a hynny mewn gwahanol ffyrdd. Ar y naill law, mae gofyn am ddyfalbarhad i ddal gafael ar y gobaith sy’n eiddo i’r Cristion (gweler Rhuf. 15:4). Ar y llaw arall, mae dyfalbarhad ei hun yn tarddu o obaith yr efengyl. Dyna fel yr oedd yr apostol Paul yn ei gweld hi yn achos y Thesaloniaid wrth iddo ddwyn i gof y ‘dyfalbarhad sy’n tarddu o’ch gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist.’ (1 Thes. 1:3).
Wrth i’r apostol Paul ysgrifennu at y Thesaloniaid yn ei ail lythyr, gweddïa: ‘Bydded i’r Arglwydd gyfeirio eich calonnau at gariad Duw ac at amynedd (hwpomone) Crist!’ (2 Thes. 3:5). Byrdwn ei weddi yw y bydd y dyfalbarhad a ddangosodd Crist yn ystod ei fywyd yn ysbrydoliaeth i’r Thesaloniaid.
Bob hyn a hyn caiff rhai eu canmol am eu dyfalbarhad, megis yr eglwys yn Effesus: ‘Gwn am dy weithredoedd a’th lafur a’th ddyfalbarhad’(Dat. 2:2).
Wedi dyfalbarhau daw gwobr. Trawir y nodyn hwn sawl gwaith gan awduron y Testament Newydd. Yn y llythyr at yr Hebreaid mae’r awdur yn annog ei ddarllenwyr: ‘Y mae angen dyfalbarhad arnoch i gyflawni ewyllys Duw a chymryd meddiant o’r hyn a addawyd’(Heb. 10:36).
Bydd yn wrol, paid â llithro,
er mor ddyrys yw y daith
y mae seren i’th oleuo:
cred yn Nuw a gwna dy waith.
Er i’r llwybr dy ddiffygio,
er i’r anial fod yn faith,
bydd yn wrol, blin neu beidio:
cred yn Nuw a gwna dy waith.