Roedden nhw’n sefyll yno ar fynydd yr Olewydd a dyrnaid o bobl gerllaw yn syllu tua’r nef, a Iesu yn esgyn.
‘Wŷr Galilea’, meddent, ‘pam yr ydych yn sefyll yn edrych tua’r nef? Bydd yr Iesu hwn, sydd wedi ei gymryd i fyny oddi wrthych i’r nef, yn dod yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn mynd i’r nef’ (Actau 1:11).
Rhag ofn nad ydych yn barod i gredu gair bodau nefol, dyma eiriau cyfarwydd yr apostol Paul:
Oherwydd bob tro y byddwch yn bwyta’r bara hwn, ac yn yfed y cwpan hwn, yr ydych yn cyhoeddi marwolaeth yr Arglwydd, hyd nes y daw (1 Cor. 11:26).
A rhag ofn nad ydych ychwaith yn barod i dderbyn gair apostol, wele eiriau’r Arglwydd Iesu ei hun i’w ddisgyblion nos Iau cyn y croeshoelio, ei fod yn mynd i baratoi lle iddynt yn nhŷ ei Dad:
‘Ac os af a pharatoi lle i chwi, fe ddof yn ôl, a’ch cymryd chwi ataf fy hun’ (Ioan 14:3).
A dyna neges olaf Iesu i’r apostol Ioan ac i’w bobl, ar ddiwedd y Beibl:
‘Yn wir, yr wyf yn dod yn fuan’ (Dat. 22:20).
Fe ddaw yn ôl ‘yn yr un modd’ ag yr aeth, yn gorfforol, yn ei berson. Nid dod yn ôl drwy ei Ysbryd. Fe ddaeth drwy ei Ysbryd ddydd y Pentecost, ac eto, rai dyddiau yn ddiweddarach (Actau 2:1-2; 4:31). Ar ben hyn, fe ddaeth yr Arglwydd Iesu sawl gwaith at ei Eglwys drwy ei Ysbryd ar hyd y canrifoedd – dyna yw’r adfywiadau grymus a brofwyd o bryd i’w gilydd. Fe ddaeth hefyd laweroedd o weithiau gyda dylanwad ysbrydol ar unigolion. Fe ddaw atom ynghanol gwahanol brofiadau bywyd: yn nerth mewn gwendid, yn gysur mewn profedigaeth, yn arweiniad mewn dryswch; yn y storm ac yn yr heulwen. Ond nid ei ailddyfodiad yw’r dyfodiadau hyn.
Pan ddaw yr ail waith, fe ddaw yn ei berson
‘Oherwydd pan floeddir y gorchymyn, pan fydd yr archangel yn galw, ac utgorn Duw yn seinio, bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o’r nef’ (1 Thes. 4:16).
Yr Arglwydd ei hun, sylwer.
Ac fe ddaw yn weledig
‘Bydd yn dod’, meddai’r ddau ŵr mewn dillad gwyn, ‘yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn mynd i’r nef.’
Fe’i gwelsant yn eu gadael; fe’i gwelir pan ddaw yn ôl. Dywedodd Iesu wrth yr archoffeiriad ar noson ei brawf: ‘fe welwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r Gallu, ac yn dyfod gyda chymylau’r nef’ (Marc 14:62), adlais o eiriau’r proffwyd Daniel: ‘Gwelais un fel mab dyn yn dyfod ar gymylau’r nef […] Rhoddwyd iddo arglwyddiaeth a gogoniant a brenhiniaeth’ (Daniel 7:13-14). Gwelsai Daniel yn ei weledigaethau bedwar bwystfil anferth yn codi o’r môr, ond yn y bumed weledigaeth, nid anifail a welodd, ond rhywun ar ffurf dynol, ‘mab dyn’. Fi yw’r mab dyn hwnnw, meddai Iesu.
Pan ddaw’r ail waith, fe’i gwelir yn eglur gan bawb
…megis y gwelir goleuni mellten yn fflachio o’r dwyrain hyd y gorllewin (Math. 24:27). Ac yn y bennod gyntaf o’r Datguddiad, adnod 7, ceir geiriau rhyfeddol:
‘Wele, y mae’n dyfod gyda’r cymylau, a bydd pob llygad yn ei weld, ie, a’r rhai a’i trywanodd, a bydd holl lwythau’r ddaear yn galaru o’i blegid ef.’
Y di-gred mewn gwae, ond pobl Dduw yn dechrau eu gwynfyd. Da y canodd David Saunders, Merthyr:
Gwelir Iesu’n ogoneddus
Yn ei ailddyfodiad glân;
Gwelir miloedd iddo’n plygu,
Na phlygasant iddo o’r blaen;
Gwelir hefyd
Fyrdd yn dechrau llawenhau.