Uffern, Cariad Duw a Rob Bell
Un o’r gwirioneddau mwyaf anodd i’w ddeall yw hwnnw a grynhoir yn yr adnod fechan honno: “Duw cariad yw.” Beth yw cariad Duw? Sut mae’n dod atom ni? Sut mae cysoni’r syniad o Dduw yn caru gyda’r sôn sydd yn y Beibl am Dduw yn barnu?
Yng Nghymru aed ati gan lawer i arddel y syniad fod Duw barn yn rhywbeth sy’n perthyn i gyfnod yr Hen Destament. Ond yna down wyneb yn wyneb â’r ffaith mai’r un sy’n sôn fwyaf yn y Testament Newydd am farn ac uffern yw’r Arglwydd Iesu Grist ei hun.
Cododd y cwestiynau hyn i’r amlwg yn ddiweddar gyda chyhoeddi llyfr dadleuol gan Rob Bell, Love Wins. Mae’r awdur yn weinidog ym Michigan a chafodd enw o fod yn gyfathrebwr heriol a chyfoes trwy gyfrwng ei lyfrau a chyfres ffilmiau Nooma. Wrth geisio siarad â’i oes ei hun mae fwy nag unwaith wedi gwthio’r ffiniau ynglŷn â beth yw’r efengyl. Yn y llyfr diweddaraf hwn mae’n awgrymu fod y ddealltwriaeth draddodiadol uniongred o uffern yn ddiffygiol, a bod yr eglwys ar fai yn y modd y mae wedi deall y Beibl, a phregethu cariad Duw.
Y cwestiwn mae’n ceisio ymgodymu ag o yw hyn: Sut mae cariad Duw yn llwyddo i gario’r dydd? Os oes yna uffern lle mae pobl yn dioddef yn dragwyddol, yna onid yw drwg wedi llwyddo? Os cariad sy’n ennill, yna oni ddylai pawb brofi’r cariad hwnnw? Onid yw’n anghyson sôn am Dduw cariad sy’n dial a chosbi?
Yr hyn a awgryma Bell yw y dylem ailfeddwl ein holl ddiwinyddiaeth am uffern, a’i diffinio mewn termau gwahanol. Uffern yw bod allan o gytgord â’n Creawdwr. Mae barn Duw i’w hystyried yn farn sy’n cael ei gweinyddu yn unig er mwyn adfer pobl (restorative judgement). Mae’n agored i’r posibilrwydd y gall fod cyfle wedi marwolaeth i rywun edifarhau, newid ei ymateb i gariad Duw a dod i brofi nefoedd. Er na ddywed yn bendant ei fod yn gwrthod pob syniad o uffern dragwyddol, mae’n awgrymu na ellir sôn am gariad Duw yn cario’r dydd tra bydd un enaid yn dal i ddioddef yno.
Cryfderau Rob Bell
Yn ddi-os mae gan Bell ei gryfderau. Un o’r rheini yw ei amharodrwydd i fodloni ar hen fformwlâu er mwyn cyflwyno ei neges. Mae’n wir fod yr hen wirioneddau yn ddigyfnewid, ond gall eu gwisg weithiau fynd yn ddim mwy na geiriau yr ydym yn eu defnyddio heb ymdrechu’n ychwanegol i’w hegluro’n iawn. Yn hyn o beth gall ei ddefnydd o’i ddychymyg fod yn heriol a gwerthfawr.
Mae hefyd yn gyfathrebwr penigamp. Cysodwyd y llyfr mewn modd darllenadwy – yn lle paragraffau di-dor, mae’r brawddegau yn aml wedi eu torri, fel bod y darllenydd yn gallu clywed y gwahanol bwyslais yn y geiriau. Mae’n dewis ei enghreifftiau a’i ddarluniau yn ofalus er mwyn ceisio cadarnhau ei bwyntiau.
Gwendidau’r Llyfr
Mae gwendidau amlwg yn ei lyfr – rhai y mae’n ceisio eu cuddio trwy ei ddawn gyfathrebu.
i. Er mwyn darlunio’r syniad traddodiadol o uffern, defnyddir enghreifftiau creulon ac annoeth o rai’n bygwth gwae mewn modd di-deimlad. Ar y llaw arall, cyflwynir ei safbwynt ei hun fel un trugarog, meddylgar, sydd â chonsýrn dros y rhai sydd wedi eu gwahanu oddi wrth Duw. Ceir yr argraff fod ganddo ddicter mawr yn erbyn rhywfaint o’i gefndir ei hun. Mae’r portreadau hyn yn perthyn yn agosach at ragrith Elmer Gantry, neu’r Phariseaid hunan-gyfiawn nag at unrhyw gyflwyniad ysgrythurol o uffern. Wrth edrych ar yr Ysgrythur gwelwn mai o enau’r un a ddywedodd
‘Dewch ataf fi, bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi’ (Mathew 11:28)
y daw’r geiriau
‘Ewch oddi wrthyf, chwi sydd dan felltith, i’r tân tragwyddol a baratowyd i’r diafol a’i angylion’ (Mathew 25:41).
ii. Mae ei esboniadaeth o’r Beibl yn wan ac arwynebol. Er enghraifft sonia am Gehenna fel dyffryn oedd wedi troi yn domen ysbwriel y ddinas, lle roedd tanau’n mygu drwy’r amser. Ond mae ochr arall i’r darlun – Gehenna oedd y dyffryn mewn blynyddoedd ynghynt lle byddai pobl yn aberthu eu plant trwy dân i dduw Moloch, a’r tân yn golygu rhywbeth llawer mwy dychrynllyd.
iii. Mae’n cyfyngu ar ei ddewis o adrannau wrth ddefnyddio’r Ysgrythur i egluro ei bwyntiau. Wrth gwrs, mae’r Beibl yn sôn am ddisgyblaeth a barn Duw er mwyn adfer – dyna a welwn ni sawl tro wrth i Dduw ymwneud â’i bobl. Ond sonir hefyd am farn Duw nad oes dianc rhagddi. Meddylier am Pharo, Nadab ac Abihu, Belsassar, Jwdas, Ananeias a Saffira. Mae nifer o ddamhegion y Gwaredwr yn sôn am y meirw’n cael eu barnu (meddylier, er enghraifft, am Mathew 25). Mae’r Beibl yn gyfanwaith, a dim ond trwy ystyried yr holl Ysgrythur y mae dod i ddeall y gwahanol adrannau.
iv. Mae’n amharod i ddweud yn bendant beth yw ei farn. Mae’n ddigon parod i fwrw amheuaeth ar y ddealltwriaeth draddodiadol o uffern a barn Duw. Ond pan ddaw i gynnig dealltwriaeth wahanol, mae’n gwrthod cael ei glymu i lawr yn rhy bendant. Yr amheuaeth sydd gan yr adolygydd hwn yw ei fod yn ofni tramgwyddo, ac felly am adael y cwestiynau yn yr awyr.
Nid wyf am fwrw amheuaeth ar ei gymhellion – Duw yn unig a ŵyr yr hyn sydd yn ein calonnau. Ond yn yr ymgais i wneud y neges yn fwy derbyniol i rai oddi allan i deulu’r ffydd, yn hytrach na gwneud pethau’n fwy clir, mae’n llwyddo i greu mwy o ddryswch.
Yn y rhifyn nesaf, fe fyddwn yn mynd ati i ymateb i gwestiynau Rob Bell, gan ystyried yr hyn y mae’r Beibl yn ei ddweud am farn a chyfiawnder Duw, a newyddion da efengyl Iesu Grist. Cyn hynny, dyma rhai cwestiynau i chi eu hystyried yn y cyfamser:
- Mae pobl yn barod iawn i roi rhai fel Adolf Hitler, Myra Hindley, Muammar Gaddafi, Osama Bin Laden ac eraill yn uffern. Ble fyddech chi yn tynnu’r llinell?
- Beth sy’n egluro’r teimlad sydd yn ein calonnau fod drygioni yn haeddu cosb o ryw fath?
- Os yw pawb yn diweddu yn y nefoedd, beth yw gwerth neu ddiben efengylu?
- Pam gwnaeth Crist, Oen addfwyn Duw, sôn gymaint am farn yn ystod ei weinidogaeth ar y ddaear?