Dyn duwiol a gweinidog yr efengyl yn Dundee oedd Robert Murray McCheyne (1813-43), a’i ddylanwad yn fwy o lawer nag y gellid ei ddisgwyl o gofio iddo farw’n 29 oed. Dim ond am 7 mlynedd y bu yn y weinidogaeth a hynny’n cynnwys sawl cyfnod o waeledd. Er hyn, gwelodd fendith ryfeddol ar ei waith.
Efallai mai dwy nodwedd amlycaf bywyd a chymeriad McCheyne, a’r rhai sydd wedi gadael eu hôl fwyaf ar y cenedlaethau a’i dilynodd, oedd ei awydd a’i ymdrechion i weld eneidiau’n cael eu hachub, a’i bwyslais ar feithrin sancteiddrwydd personol. Efallai mai’r dyfyniad enwocaf o’i eiddo yw ‘angen mwyaf fy mhobl, yw fy sancteiddrwydd personol i’.
Mae’r ddwy agwedd hon ar fywyd a chymeriad McCheyne yn deillio o’r amser a dreuliodd gyda’i Arglwydd mewn gweddi.
O ddarllen dyddiadur, llythyrau a phregethau McCheyne, cewch y teimlad bod bron pob brawddeg y mae’n ei hysgrifennu yn werth ei dyfynnu. Rwy’n teimlo weithiau, pe bai gennym gofnod o McCheyne yn archebu bwyd yn McDonalds, y byddai rhywbeth gwerth ei ddyfynnu yno, rhyw wers am y bywyd Cristnogol!
Felly o ystyried hyn, yn hytrach na mynd ati i geisio tynnu gwersi ac anogaethau am weddi o fywyd McCheyne, rwyf am adael iddo siarad drosto’i hun:
- Dyn yw’r hyn ydyw ar ei liniau o flaen Duw, a dim byd mwy.
- Mae’r crediniwr yn dyheu am Dduw: i ddod i mewn i’w bresenoldeb, i deimlo’i gariad, i deimlo’n agos ato yn y dirgel, i deimlo mewn tyrfa ei fod ef yn nes na phob creadur arall. O frodyr annwyl, ydych chi erioed wedi teimlo’r fath wynfyd? Mae mwy o gysur a gorffwys i’w gael o fod ym mhresenoldeb Duw am un awr, na thragwyddoldeb yng nghwmni dyn.
- Mae Crist yn aml yn rhoi dyheadau ein calon i ni, nid ar yr adeg benodol yr oeddem yn eu dymuno, ond yn hytrach ar adeg well.
- Fe wnaiff Duw naill ai rhoi i chi’r hyn y gwnaethoch ofyn amdano, neu rywbeth llawer gwell.
- O frodyr yn y ffydd! Am arf rhyfeddol y mae Duw wedi ei roi yn eich dwylo! Mae gweddi’n symud yr un sy’n symud y bydysawd.
- Gwnewch bopeth yn ei amser ei hun; gwnewch bopeth o ddifrif; os yw rhywbeth yn werth ei wneud, yna gwnewch ef â’ch holl allu. Yn fwy na dim, treuliwch lawer o amser ym mhresenoldeb Duw. Peidiwch â gweld wyneb dyn nes y byddwch wedi gweld ei wyneb ef, ein goleuni, ein popeth.
- Gweddïwch ar i Dduw eich dysgu i weddïo. Peidiwch â bodloni ar hen ffurfiau sy’n llifo o’r gwefusau’n unig. Mae angen i’r rhan fwyaf o Gristnogion daflu eu gweddïau ffurfiol ymaith, a chael eu dysgu i lefain, ‘Abba’.
- Deffrois yn gynnar i geisio Duw, a chanfod yr hwn y mae f’enaid yn ei garu. Pwy na fyddai’n codi’n gynnar i fod yn y fath gwmni?
- Dylwn weddïo cyn gweld unrhyw un. Yn aml pan gysgaf yn hir, neu gwrdd ag eraill yn gynnar, bydd hi’n un ar ddeg neu ddeuddeg o’r gloch cyn i mi ddechrau gweddïo yn y dirgel. Teimlaf ei bod yn llawer gwell dechrau gyda Duw, i weld ei wyneb ef yn gyntaf, i ddod a’m henaid yn agos ato ef cyn iddo fod yn agos at unrhyw un arall.
Mae gan McCheyne lawer rhagor i’n dysgu, nid yn unig am weddi ond am y bywyd Cristnogol yn gyffredinol, ac yn arbennig am y weinidogaeth. Hoffwn awgrymu’r llyfrau canlynol ar gyfer darllen pellach:
Andrew Bonar, Memoir and Remains of Robert Murray M’Cheyne (Banner of Truth, 1966)
David Robertson, Awakening: The life and ministry of Robert Murray McCheyne (Christian Focus, 2009)
L. J. Van Valen, Constrained by his love (Christian Focus, 2002)