Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bendith yn y Cwrdd Gweddi: Profiad Mari Elin

6 Mawrth 2012 | gan Mari Elin Morgan

Yr oedd y rhain oll yn dyfalbarhau yn unfryd mewn gweddi… – Actau 1:14

Doeddwn i ddim wir wedi ystyried mynd i gwrdd gweddi’r eglwys a minnau ond yn fyfyrwraig, ond wrth glywed am y fendith oedd i’w chael yn y cyrddau hyn, penderfynais ddechrau mynd. Roedd gen i ambell i ragfarn: gweddïau a oedd yn mynd ymlaen ac ymlaen, neu bwysau ar bawb i weddïo’n gyhoeddus. Ond dwi’n deall nawr pam mae cymaint yn sôn am y cwrdd gweddi fel calon yr eglwys. Gall gweddïo fod yn anodd, ond cefais hwb mawr o fynychu’r cwrdd gweddi.

Beth sy’n digwydd?

Yn syml, grŵp o Gristnogion yn cwrdd i addoli’r Arglwydd ac i weddïo. Rydyn ni’n clywed rhan o air Duw ac yn ei addoli trwy gân i ddechrau, dau beth sy’n paratoi’r meddwl a’r galon i ddod at Dduw. Bob wythnos ceir thema wahanol i’r cwrdd, naill ai gwrdd gweddi arferol, astudiaeth feiblaidd a chwrdd gweddi, neu gwrdd cenhadol. Mae cyfle bob wythnos i bawb rannu’r hyn sydd ar eu calonnau – materion personol, lleol, cenedlaethol a byd-eang – cyn cael amser o weddi agored.

Pam mae’n werthfawr?

Efallai mai’r peth mwyaf gwerthfawr am y cwrdd gweddi yw y gallwn ei fynychu gan wybod bod Duw wedi addo bendith arbennig drwyddo:

A thrachefn rwy’n dweud wrthych, os bydd dau ohonoch yn cytuno ar y ddaear i ofyn am unrhyw beth, fe’i rhoddir iddynt gan fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd. Oherwydd lle y mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw i, yr wyf yno yn eu canol (Mathew 18:19-20).

Mae’n gyfle i ni ddysgu oddi wrth ein gilydd, a theimlo gyda’n gilydd – dydy hi ddim yn beth rhyfedd crio gyda’n gilydd a llawenhau gyda’n gilydd. Mae’n gyfle i rannu materion personol, a thrwy wrando a chydweddïo, mae’r gymdeithas rhwng aelodau’r eglwys yn cael ei chryfhau.

Beth yw’r anawsterau? Sut mae eu goresgyn?

Gall nifer o bethau fod yn anhawster i gwrdd gweddi: rhagrith, gweddïau hirwyntog, diffyg ffydd yn ein gweddïau. Ac a siarad yn bersonol, mae modd mynd i’r cwrdd gweddi yn unigolion annuwiol a balch. Mae modd trin y cwrdd gweddi fel rhywbeth y dylem fynd iddo, yn hytrach na rhywbeth y dylem gael boddhad ynddo – mae angen mynd i’r cwrdd gweddi gan edrych ymlaen at gwrdd â’r Un rydyn ni’n gweddïo arno, gan mai dyma’r fraint uchaf y gallwn ni ei chael – siarad â’n Gwaredwr. Un anhawster personol a oedd yn fy nghadw i ffwrdd o’r cwrdd gweddi oedd yr ofn o orfod gweddïo’n gyhoeddus, ond unwaith eto, dod i weddïo ar Dduw yr ydym, nid ar ein gilydd.

O brofiad, gallaf eich sicrhau ei bod hi’n werth mynychu cwrdd gweddi’r eglwys. Dyma’r lle rydyn ni’n cydnabod ein dibyniaeth lwyr ar Dduw, ac yn gofyn am ei ras a’i gymorth ef i ddelio â phob un agwedd ar ein bywydau, fel unigolion ac fel eglwys Crist ar y ddaear, yn unol â’i ewyllys ef.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF