Mae hi bob amser yn fraint cael arwain mewn gweddi yng nghynulleidfa’r saint yn yr addoliad cyhoeddus ar y Sul. Ond nid gorchwyl hawdd i rywun sy’n gorfod gwneud hyn yn gyson. Mae’n hawdd iawn mynd yn amherthnasol ac ailadroddus ac, o ganlyniad, nid oes neb mewn gwirionedd yn cydweddïo â’r gweddïwr: sef un o’r rhesymau, mae’n siŵr, pam y ceir llai o weddïo cyhoeddus mewn cyfarfodydd heddiw.
Dyma rai canllawiau sydd wedi bod o gymorth i mi yn fy ngweinidogaeth.
Dechreuwn yn gyntaf gyda rhai pwyntiau negyddol.
- Nid gweddi bersonol yw hi ond gweddi ar ran pawb sy’n bresennol ac felly rhaid cadw hynny mewn golwg bob amser yn y gwahanol rannau o’r weddi. Mae angen i’r gynulleidfa fedru cydweddïo â’r gweddïwr.
- Yn ail, nid pregeth mohoni chwaith. Mae’n hawdd iawn defnyddio’r weddi i bregethu neu i wneud pwyntiau diwinyddol neu hyd yn oed efengylu. Rhaid cofio mai siarad â’n Tad nefol a wnawn ac nad oes angen ei atgoffa ef o’n diwinyddiaeth.
- Yn drydydd, dylid meddwl ychydig ymlaen llaw ynglŷn â strwythur y weddi – mae’n anodd iawn i gynulleidfa ddilyn os yw’r gweddïwr yn neidio’n aml i bob cyfeiriad.
Beth, felly, ddylai fod mewn gweddi gyhoeddus?
- Yn gyntaf, addoliad. Cyfarch Duw y Tad ar ran y gynulleidfa – ei ganmol a’i ddyrchafu ef a’i Fab Iesu Grist.
- Yn ail, cyffes. Nid cyffesu personol ond cyffesu’n gyffredinol bechodau’r eglwys.
- Yn drydydd, diolchgarwch i Dduw am ei fendithion tymhorol ac ysbrydol. Eto rhaid gwneud hyn mewn modd cyffredinol fel y gall pob aelod gydweddïo â’r gweddïwr. Mae bendithion tymhorol yn golygu bendithion creadigaeth a rhagluniaeth Duw. Bendithion ysbrydol yw’r rhai sy’n dod trwy waith Crist a gweithgarwch yr Ysbryd Glân.
- Yn bedwerydd, deisyfiadau. Gweddio dros y rhai sy’n bresennol gyda’u hamrywiol anghenion ond eto yn gyffredinol. Sôn hefyd am faterion sy’n berthnasol i fywyd cyhoeddus yr eglwys – ei thystiolaeth a’i gweithgarwch. Yna’r gwaith cenhadol yng Nghymru a’r byd gan gofio wrth gwrs am yr eglwys erlidiedig. Yna gweddïo dros yr awdurdodau a llywodraethau – sy’n golygu bod angen i’r gweddïwr wybod beth sydd wedi digwydd yn y byd yn ystod yr wythnos. Ac yna ar ben pob peth gweddïo am adfywiad ysbrydol – ein hangen mwyaf yn y dyddiau sydd ohoni.
- Ac wedyn gorffen trwy ddeisyf presenoldeb Duw am weddill yr oedfa a’r diwrnod – gan orffen gydag Amen! cadarn.
Trwy ddilyn yr egwyddorion yma, bydd gweddi yn cael lle arwyddocaol yn oedfa’r Sul, gan fod yn fodd i ogoneddu Duw ac i annog ac adeiladu ei bobl.