Ail adran yr Hen Destament yw’r llyfrau hanes: deuddeg llyfr sy’n ymestyn o Josua hyd at Esther. Wrth astudio’r llyfrau yma cawn ein hatgoffa mai Duw rhagluniaeth yw ein Duw ni. Un sy’n ymyrryd mewn hanes ac sy’n rheoli ei holl droeon er mwyn cyflawni ei bwrpasau. Er enghraifft, gwelwn sut mae Duw yn diogelu llinach y Meseia trwy’r holl gyfnod. Y llyfrau yma hefyd sy’n rhoi’r cefndir i’r proffwydi ac mae deall yr amgylchiadau’n goleuo’r negeseuon a gallwn weld pa mor berthnasol oedd eu pregethu. Yn hanes pobl Dduw gwelwn nifer o esiamplau gwych i’w dilyn ond, gwaetha’r modd, nifer hefyd i’w hosgoi.
Mae tair isadran:
- Josua i Ruth yn rhoi hanes pobl Dduw ar ôl marwolaeth Moses cyn i Israel gael brenin.
- 1 Samuel i 2 Cronicl yn rhoi hanes y brenhinoedd. Mae Samuel-Brenhinoedd yn adrodd yr hanes yn olynol ond wedyn mae 1 a 2 Cronicl yn ailadrodd yr hanes. Mae Samuel-Brenhinoedd yn pwysleisio pam yr anfonodd Duw y bobl i’r gaethglud ond mae Cronicl yn pwysleisio mwy pam yr addawodd Duw eu hadfer.
- Esra i Esther.Hanes pobl Dduw ar ôl y gaethglud. Esra a Nehemeia yn sôn am ailadeiladu’r deml a muriau Jerwsalem ond Esther yn nodi gofal Duw dros yr Iddewon a oedd yn dal yn gaeth.