Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Y Parch. A. Wayne Hughes (1960-2011)

6 Rhagfyr 2011 | gan Meirion Thomas

Ym mis Medi 1982 dechreuodd Wayne Hughes ar ei weinidogaeth yn Jerwsalem a Bethania Blaenau Ffestiniog. Bu yno am 29 mlynedd yn weinidog ffyddlon dros y cyfnod cyfan. Pregethu cyson, ymweld diflino i fugeilio’n ofalus, cynghori doeth a llawer o gymwynasau tawel diffwdan oedd nodweddion hardd y weinidogaeth ar ei hyd.

Yn y dyddiau cynnar roeddwn yn ymweld â Wayne ar fy nheithiau o’r De i’r Gogledd a chefais fy hun mewn ambell gwrdd gweddi a seiat, gan weld tynerwch a doethineb Wayne wrth arwain. Wedyn mynd adre i’r Mans ac mewn sgwrs a gweddi yn darganfod cymaint oedd cariad a baich Wayne dros yr ofalaeth. Mewn llythyr a dderbyniodd Hazel ei wraig oddi wrth un o’r aelodau, tystia i’r fendith a gafodd o weinidogaeth feiblaidd a duwiol ei weinidog. Dywedodd hefyd ‘roedd yn un ohonom ni – pobl y Blaenau!’  Tipyn o anrhydedd gan fod Wayne yn hwntw o’r iawn ryw!

Roedd ei adnabyddiaeth drwyadl o emynyddiaeth ein gwlad yn anhygoel. Derwyn Morris-Jones – cyn-ysgrifennydd Undeb yr Annibynwyr – sy’n nodi hyn yn ei gyflwyniad i gyfrol Wayne, Emynau Ffydd 2: ‘Darganfu sawl un sy’n ei adnabod fod ei wybodaeth am emynyddiaeth Cymru yn ddigon o ryfeddod. Droeon, a minnau’n cofio llinell rhyw emyn ond yn fy myw yn methu cofio mwy na hynny, cawn yr emyn yn gyfan ganddo ef!’

Lle bynnag roedd yr efengyl yn uno’r saint mewn gwir gymdeithas roedd Wayne yn llawen yn eu cwmni. Doedd terfynau  enwadol yn ddim iddo pan fyddai gwir Gristnogion yn cwrdd. Efengylwr heb gywilydd oedd Wayne. Bu ar lawer ymgyrch efengylaidd yn yr Eisteddfod, ac mewn encil a chynhadledd Mudiad Efengylaidd Cymru roedd ei bresenoldeb a‘i gyfraniad yn fendith ac yn foddion gras. Roedd ei hiwmor naturiol a’i ffraethineb craff mewn sgwrs yn donic ac yn fodd i ysgafnhau unrhyw drymder sych. Bu’n ysgrifennydd i’r Gynhadledd Flynyddol a Chynhadledd y Gweinidogion ac wrth ei fodd yn arwain Gwyliau  Tegid yn y Bala. Roedd Wayne yn gerddor dawnus ac yng Ngwyliau Tegid y doniau yma a gysegrwyd i’r Arglwydd fu’n gyfrwng bendith i laweroedd. Roedd yn Brotestant ac yn Annibynnwr brwd a ffyddlon a bu ei gyfraniad i’r enwad ac i egwyddorion beiblaidd anghydfurffiaeth yn selog a chywir.

Bu cefnogaeth Hazel i Wayne ac i waith y capeli yn dystiolaeth glodwiw yn y Blaenau ar hyd y blynyddoedd. Dangosodd y ddau urddas, dewrder a realiti gras cynhaliol Duw trwy brofedigaeth ddwys. Gwyddom fod cwrteisi, sirioldeb di-gŵyn a gwerthfawrogiad Wayne ynghyd â chyfleoedd pwrpasol i dystio i’w Arglwydd  wedi creu argraff fawr ar staff Hosbis Bryngwyn, Llanelli. Gweddïwn am nerth a nodded y nef i Hazel ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. Cofiwn hefyd am ddyfodol gwaith y deyrnas yn ardaloedd y Blaenau. Boed i Arglwydd y cynhaeaf godi eto weithiwyr i’r efengyl gyda’r un ffyddlondeb a dyfalbarhad â Wayne Hughes.

 

 

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF
Tagiau
teyrnged