Rwy’n dwli ar ddau beth am y Nadolig: un, anrhegion. Rwy’n dwli ar bobl sy’n prynu llyfrau i mi, neu CDs, dillad… neu Pic ˊn Mix. Erbyn mis Hydref mae gen i restr hir o ‘bethau’ rwyf am eu cael, na allaf wynebu bywyd hebddynt. Rwy’n pregethu wrth eraill ei bod hi’n well rhoi na derbyn, ond ar noswyl Nadolig, rwy’n fwy cyffrous am yr hyn rwy’n mynd i’w dderbyn, na’r hyn rwy’n mynd i’w roi i eraill!
Yna rwy’n dwli ar Monopoly: gêm i frenhinoedd, arweinwyr ac enillwyr. Nid gêm ar gyfer y rhai gwan! Rwy’n cofio’r tro cynta i mi chwarae’n erbyn fy nhad-yng-nghyfraith, gan guddio’r arian dan y bwrdd, honni fy mod yn dlawd, derbyn o’i haelioni, ac yna cipio popeth oedd ganddo. Roeddwn yn ddidrugaredd – ac yn fuddugoliaethus! Ond am ryw reswm, roedd gweddill y noson honno’n lletchwith iawn, a dwi ddim wedi gweld y bwrdd Monopoly ers hynny.
Mae’r ddau beth yma’n datgelu fy nghalon. Fy ngwir galon. Calon sydd wastad am gael mwy.
Y fagl
Nawr, wrth gwrs, dwi ddim am fod yn gyfoethog. Dwi ddim eisiau cyfoeth David Beckham. Mae’n siŵr bod un frawddeg yn ddigon i grynhoi fy agwedd:
‘Rwy am fod yn gyffyrddus.’
Rwy am gael ychydig yn fwy. Dyna i gyd. Dwi ddim eisiau cyfoeth mawr, ond mi fyddai, efallai, 10% yn fwy, yn dda.
‘Just a little bit more’: dyma un o faglau mawr ein dydd.
Mae popeth yn angenrheidiol heddiw. Pan oeddwn i yn y coleg (yn y ganrif ddiwethaf!) doedd gan neb ffôn symudol, cyfrifiadur, lap-top, iPod, iPad, Kindle… shower gel. Erbyn hyn, maent i gyd yn anhepgor. Mae’r gymdeithas yn newid, a’r anghenion yn newid. Rydyn ni’n dilyn, ac yn sydyn, mae ariangarwch a materoliaeth yn cydio ynom.
Mae ariangarwch a materoliaeth yn demtasiynau cyfrwys. Nid ydym yn sylwi arnynt: temtasiynau carbon monocsid; lleiddiaid tawel.
Mewn gwirionedd, rydym am fod yn gyfoethog. O’i gymharu â bywydau’r selebs a’r chwaraewyr pêl-droed, efallai fod gennym fywydau digon syml. Ond beth am ein cymharu ein hunain â’n cyndeidiau neu bobl mewn rhannau eraill o’r byd? Mewn gwirionedd, rydym yn gyfoethog; rwyf i’n gyfoethog iawn.
Ond nid ydym yn sylweddoli hyn – a dyma ein problem. Down felly ar draws adnodau fel 1 Timotheus 6:9, gan gymryd yn ganiataol nad yw Paul yn cyfeirio atom ni:
Y mae’r rhai sydd am fod yn gyfoethog yn syrthio i demtasiynau a maglau, a llu o chwantau direswm a niweidiol, sy’n hyrddio pobl i lawr i ddistryw a cholledigaeth.
Ac felly, am nad ydym yn cymhwyso’r adnod hon i’n bywydau ein hunain, nid ydym yn derbyn her Paul i ffoi rhag temtasiwn materoliaeth. Rhown ein hunain mewn man peryglus, gan chwennych mwy a mwy er mwyn bod yn gyffyrddus.
Bodlonrwydd
Yn gynharach yn 1 Timotheus 6, mae Paul yn dangos ffordd llawer gwell nag ariangarwch a materoliaeth:
Y mae cyfoeth mawr mewn bywyd duwiol ynghyd â bodlonrwydd mewnol (1 Timotheus 6:6).
Beth yw bodlonrwydd? Y gallu i fyw yn ‘annibynnol ar amgylchiadau’; i beidio â chael ein rheoli gan ein hamgylchiadau. Bodlonrwydd yw’r gallu i fod yn gyson ym mhob sefyllfa, yn llawn heddwch a sicrwydd.
Dim ond efengyl Iesu Grist all gynnig hyn. Ni all arian na ‘phethau’, na phobl hyd yn oed, roi gwir fodlonrwydd. Wrth chwilio am heddwch a bodlonrwydd yn ein cyfoeth a’n heiddo, awn yn bellach ac yn bellach o’r hwn sy’n rhoi gwir fodlonrwydd a duwioldeb.
Peidiwch â’m camddeall: dwi ddim yn dweud bod pob peth materol yn ddrwg! Dyna’r gau athrawiaeth y mae Paul yn ei gwrthod yn 1 Timotheus 4:1-3. Dyw’r Beibl ddim yn gwrthwynebu arian, ond yn hytrach mae’n condemnio ariangarwch. Nid ydym i bregethu’n erbyn y materol: rhybuddio rhag materoliaeth a wnawn.
Fy amcan yma yw ein rhybuddio rhag ceisio dod o hyd i sicrwydd, llawenydd a bodlonrwydd yn ein heiddo: eilun-addoliaeth yw hynny.
Golwg glir
Sut ydym i ddelio â’r tueddiad hwn yn ein calonnau i chwenychu rhagor?
Ga’i nodi un o wirioneddau mawr y gêm Monopoly:
Pan fo’r gêm yn gorffen, mae’r cyfan yn dychwelyd i’r bocs.
Ar ôl sôn am dduwioldeb a bodlonrwydd, mae Paul yn yr adnod nesaf yn ein hatgoffa o wirionedd sylfaenol:
A’r ffaith yw, na ddaethom â dim i’r byd, ac felly hefyd na allwn fynd â dim allan ohono (1 Timotheus 6:7)
Dyma’r ffordd i ymateb i ariangarwch a materoliaeth: datblygu golwg dragwyddol. Dysgu byw i rywbeth mwy. Rhywun mwy.
Byddai’n dda o beth pe baem yn gweld ein gwir natur bechadurus y Nadolig hwn, er mwyn i ni ffoi at Dduw am drugaredd. Gadewch i ni edrych at Iesu Grist, ei ogoneddu a’i fwynhau, a dysgu byw yn fodlon ynddo ef.