Nid peth newydd yw ymosod ar awdurdod y Beibl. Anfonwyd cannoedd o saint yr Eglwys Fore i’r arena am ddewis y Beibl o flaen gorchmynion Cesar. Yn ystod yr Oesoedd Canol bu’r Waldensiaid a’r Lolardiaid dan gabl am herio awdurdod yr Eglwys ar sail y Beibl, a chynyddodd y ffrwd fechan hon yn afon lifeiriol gref adeg y Diwygiad Protestannaidd. Gwawdio elfennau ansoffistigedig y Beibl a wnaeth Rhesymolwyr y ddeunawfed ganrif.
Erbyn hyn, ymddengys taw moesoldeb yw asgwrn y gynnen, ac mae’r pwnc wedi hawlio cryn sylw oherwydd yr anghydfod sy’n parhau yn Eglwys Loegr ynghylch cyfunrywioldeb (gwrywgydiaeth).
Un llais yn y ddadl hon yw Adrian Thatcher. Daeth i ffydd mewn eglwys fedyddiedig efengylaidd ym 1959 ond newidiodd ei safbwynt diwinyddol dros y blynyddoedd a bellach mae’n aelod brwd o garfan ryddfrydol Eglwys Loegr. Cyfraniad Adrian Thatcher i’r drafodaeth fawr ymhlith Anglicaniaid yw ei lyfr The Savage Text (Chichester: Wiley-Blackwell, 2008).
Ar ôl nodi rhai o’r dadleuon o blaid ac yn erbyn cyfunrywioldeb, myn yr awdur fod angen camu’n ôl ac ystyried sail y drafodaeth. Honna taw cam gwag yw ceisio seilio moesoldeb ar ddysgeidiaeth y Beibl. Rhydd restr hir o enghreifftiau o bobl sydd wedi defnyddio adnodau’r Beibl i gyfiawnhau erchyllterau megis hiliaeth, caethwasiaeth, gwrthsemitiaeth a cham-drin menywod a phlant. Ond â Adrian Thatcher gam ymhellach. Beth sy’n gwneud i bobl weithredu mewn modd mor anghariadus? Eu syniad am y Beibl, wrth iddynt ei wneud yn gydradd â Duw ei hun.
Nid oes lle yma i drafod holl ddadleuon The Savage Text yma, ond hoffwn ystyried dau honiad canolog y llyfr.
Eilunaddoli’r Beibl
Cyhudda Adrian Thatcher Gristnogion efengylaidd o wneud eilun o’r Beibl a’i ddyrchafu yn lle Duw. Hen gyhuddiad yw hwn, wrth gwrs, ond faint o sail sydd iddo? A derbyn bod tuedd bechadurus i eilunaddoli pethau yn perthyn i bawb (gan gynnwys Cristnogion efengylaidd ac Adrian Thatcher), a yw’r pwyslais efengylaidd ar awdurdod y Beibl yn eilunaddolgar yn ei hanfod? Er mwyn ateb y cwestiwn hwn byddai’n fuddiol ystyried agwedd Crist at yr Ysgrythur.
Diddorol wrth ddechrau yw nodi nad yw Crist byth yn rhybuddio pobl rhag eilunaddoli’r Beibl. Yn wir, hawdd fyddai cyhuddo Crist o’r union fai. Wrth iddo gael ei demtio yn yr anialwch, dyfynnu’r Beibl a wnaeth (o lyfr Deuteronomium), ac arwyddocaol iawn yw un o’r dyfyniadau hynny:
Nid trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a ddaw allan o enau Duw (Math. 4:4)
Cofiwn y Bregeth ar y Mynydd. Mynnai Iesu nad oedd yn fwriad ganddo ddiddymu’r Ysgrythurau ond yn hytrach eu cyflawni (Math. 5:17).
Dwrdiai’r arweinwyr crefyddol a’i gwrthwynebai, nid am eu bod yn rhoi gormod o fri ar yr Ysgrythur, ond yn hytrach am eu bod wedi ei hesgeuluso: ‘oni ddarllenasoch?’ (Math. 21:16). Roedd eu traddodiadau’n gyfeiliornus am eu bod yn troseddu yn erbyn gorchmynion yr Ysgrythur (Math. 15:1-6). Ar sail yr Ysgrythur yr oedd ateb cwestiynau moesol ynghylch ysgaru (Math. 19:3-9). Problem fawr y Sadwceaid wedyn oedd eu bod yn anwybodus o’r Ysgrythur a gallu Duw (Math. 22:29-32).
Ai eilunaddoliaeth yw hyn? Mae’r cyfan yn dibynnu ar eich syniad am y Beibl. Os nad yw’n fwy na chasgliad o fyfyrdodau crefyddol, ni waeth pa mor ddyrchafol y bônt, byddai rhoi’r fath le iddynt yn amhriodol. OND beth pe bai’r Beibl yn fwy na hynny? Beth pe bai’r geiriau a ddarllenwn hefyd yn eiriau Duw. Wedyn byddai agwedd Crist yn gwneud synnwyr, ynghyd ag agwedd pob un arall sy’n ei ddilyn yn hyn o beth. Nid eilunaddoli yw hyn, ond addoli’r Duw sy’n siarad yn y Beibl.
Camddefnyddio’r Beibl
Dywed Adrian Thatcher hefyd fod y rheini sy’n ceisio penderfynu pynciau moesol ar sail y Beibl yn camddefnyddio’r Beibl. Gan gydnabod ei ddyled i Karl Barth, eglura taw dwyn tystiolaeth i Grist yw swyddogaeth y Beibl a bod pob ymgais i’w ddefnyddio at ddibenion eraill yn groes i’r swyddogaeth honno.
a. Y Beibl yn egluro mawredd Crist
Cyn rhuthro i gollfarnu Adrian Thatcher, fodd bynnag, rhaid dweud ei fod yn llygad ei le wrth nodi bod yr Ysgrythur yn ein cyfeirio at Grist. Nid plethwaith digyswllt o gynghorion moesol yw’r Beibl, ond gair sy’n tystio i Grist (Ioan 5:39). Os yw Crist yn parchu’r Beibl, mae’r Beibl yntau’n dyrchafu Crist. Gwelai Crist ei genhadaeth yng ngoleuni’r hyn a broffwydwyd yn yr Hen Destament (Luc 4:16-21). Wrth egluro’r hyn oedd wedi digwydd wrth y teithwyr digalon ar eu ffordd i Emaus, eu cyfeirio at yr Ysgrythur a wnaeth y Crist atgyfodedig gan egluro’i hystyr gyflawn (Luc 24:25-27 cf. 44-46).
Gallwn dybio taw dyma hefyd oedd rhan bwysig o’r ddysgeidiaeth am deyrnas Dduw a roddodd iddynt dros ddeugain niwrnod yn dilyn ei atgyfodiad (Actau 1:3) ac y gwelir ei hôl ar y bregeth a gyhoeddwyd dan nerth yr Ysbryd Glân ar ddydd y Pentecost (Actau 2:14-36). Ni ellir gorbwysleisio’r dystiolaeth hon. Nid oes Iesu arall ond Iesu yr Ysgrythurau. Yr un a addawyd pan ddaeth pechod i’r byd. Yr un a oedd i’w aberthu i gyflawni’r hyn a ddangoswyd yn offrymau’r bobl. Y Gwas y soniodd Eseia amdano a fyddai’n dod i waredu pobl Dduw. Yr un a fu’n dysgu’r torfeydd ar lan Môr Galilea ac a fu’n iacháu’r cleifion. Yr un a fu’n brwydro yn erbyn y diafol ac a’i gorchfygodd. Yr un a aeth yn benderfynol i ganol ei wrthwynebwyr iddynt gael ei roi i’w farwolaeth. Yr un a fu’n gwaedu ar y groes dan wawd y bobl ac o dan lid y nef. Yr un a gododd yn fyw o’r bedd. Yr un a aeth i ogoniant ei Dad. Yr un sy’n bedyddio â’r Ysbryd Glân.
Os yw ein cariad at Grist yn ddiffygiol, ai’r rheswm am hyn yw bod ein gwybodaeth amdano trwy’r Beibl mor denau? Ofer darllen toreth o lyfrau a mynd i lu o gynadleddau ac arfer pob math o ddisgyblaethau ysbrydol; heb y Beibl fe fydd Crist yn parhau’n ddieithryn i ni.
b. Perygl camddefnyddio’r Beibl
Anodd gwadu hefyd na ellir camddefnyddio’r Beibl. Dyfynna Satan yr Ysgrythur (Math. 4:6) ac mae’n ffaith fod pobl wedi defnyddio’r Beibl i gyfreithloni creulondeb ofnadwy. Go brin y byddai llawer yn cymeradwyo’r gweithredoedd erlitgar y cyfeiria Adrian Thatcher atynt ond a oes modd, serch hynny, i ninnau gamddefnyddio cynnwys moesol y Beibl?
Er enghraifft, gallwn droi’r Beibl yn llyfr o reolau. Da y dywedodd rhywun fod Pharisead yn llechu yng nghalon pawb. Fe’i gwelir mewn dwy ffordd: anfodlonrwydd personol oherwydd baich cyflawni dyletswyddau (cf. Luc 15:29), ac agwedd feirniadol at eraill (Luc 18:11). Beth sydd ar goll yn yr agwedd hon? Gwir ymwybyddiaeth o’n pechadurusrwydd ni ein hunain (cf. Luc 18:13).
Gall y Pharisead weld beiau eraill o flaen ei ddiffygion ei hun (Math. 7:3). Weithiau wrth gamddefnyddio’r Ysgrythur gellir hybu’r meddyliau hyn. Dyma lle mae angen gofal mawr wrth ymgyrchu dros faterion moesol. Hawdd iawn i hyn droi’n hunangyfiawnder trahaus. Mae angen dysgu o hyd y wers a roddodd Crist i’r Phariseaid a oedd am gondemnio’r wraig a ddaliwyd mewn godineb:
Yr hwn sydd ddibechod ohonoch, tafled yn gyntaf garreg ati hi (Ioan 8:7).
Os nad ydym yn dod, trwy’r Beibl, i sylweddoli’n fwy cymaint o bechaduriaid yr ydym, mae rhywbeth o’i le. Heb i hyn ddigwydd, bydd newyddion da’r Beibl yn ddirgelwch i ni.
Llyfr i bechaduriaid yw’r Beibl, llyfr sy’n dangos ein hadfyd oherwydd pechod, ond hefyd yr Unig Waredwr rhag pechod (Ioan 1:29).
c. Perygl camddeall tystiolaeth y Beibl i Grist
Ymateb Adrian Thatcher i’r modd y mae’r Beibl wedi ei gamddefnyddio yw dadlau na ddylid ceisio arweiniad moesol o’r Beibl, neu os oes rhaid gwneud hynny dylid dewis a dethol (y Testament Newydd yn hytrach na’r Hen, yr Efengylau yn hytrach na’r Epistolau, rhai adnodau o’r Efengylau yn hytrach nag eraill). Beth sy’n bod ar hynny?
Un peth – mae’n dueddol o esgeuluso holl dystiolaeth y Beibl i Grist. Yn y Beibl y darllenwn taw Iesu fyddai ei enw am y byddai’n gwaredu ei bobl oddi wrth eu pechodau (Math. 1:21), a rhaid deall cynghorion moesol y Beibl yn y cyswllt hwn. Ni allwn ddilyn y cyfarwyddyd moesol a gawn yn y Beibl ar ein pennau ein hunain, ond trwy Grist daw’r amhosibl yn bosibl (Ioan 15:5). Mae Crist yn gwaredu’r Cristion oddi wrth gosb pechod, bydd yn ei waredu oddi wrth bresenoldeb pechod ryw ddydd, ond yn y cyfamser, fe’i gwareda oddi wrth rym a chaethiwed pechod. Mae Crist yn cynnig rhyddid, ond nid rhyddid i bechu, yn hytrach rhyddid rhag pechod (Ioan 8:31-36). Profiad ysgytwol yw cyfarfod â’r Iesu hwn yn y Beibl. Ef sy’n dangos i ni fod ein gwir broblem yn ddwfn iawn yn ein calonnau (Math. 15:10-20), a bod angen cyfnewidiad mawr (Ioan 3:1-6), ond ef hefyd sydd wedi dod i gyflawni’r newid hwn. Ac yng Nghrist, yn ogystal â nerth newydd, cawn hefyd gymhelliad cryf i ufuddhau i orchmynion Duw: cariad Crist (Ioan 14:15).
Heb y Gwaredwr hwn, gall y Beibl fynd yn llyfr caethiwus a gormesol, ond wrth ddarllen y Beibl yng ngoleuni person a gwaith Crist mae popeth yn newid. Try gorchmynion Duw ar ryw ystyr hefyd yn addewidion wrth iddynt gyfeirio at yr hyn y bydd Duw yn ei wneud trwy Grist. Clywir adlais o’r sylweddoliad hwn yng ngweddi enwog Awstin yn ei Gyffesion:
Rho’r hyn a orchmynni, a gorchymyn yr hyn a fynni (10.29.10).
Yr her foesol
Nid yw derbyn awdurdod y Beibl mewn materion moesol yn ddewis hawdd. Nid yw pob darn o’r Ysgrythur yn gwbl eglur. Rhaid deall datblygiad y datguddiad Beiblaidd, a cheisio egwyddorion ar gyfer sefyllfaoedd cymhleth dros ben. Mae angen bod yn barod i arddel safbwyntiau anffasiynol, a cheisio gwneud hynny hefyd ag ysbryd addfwyn a chydymdeimladol.
Ond pa ddewis arall sydd?
Yn ôl Adrian Thatcher, yn hytrach na cheisio cymhwyso dysgeidiaeth y Beibl, dylid addasu ein moesoldeb i’r oes; ond nid oes angen Crist ar gyfer hynny, na’r groes na’r atgyfodiad – na’r Beibl.
Dyma agwedd llawer o anffyddwyr mawr y dydd. Yn The God Delusion, condemnia Richard Dawkins foesoldeb y Beibl (ag iaith nid annhebyg i Adrian Thatcher) gan gynnig yn ei le safonau cyfnewidiol dynoliaeth oleuedig sy’n araf ddatblygu er gwell (‘the changing moral Zeitgeist’). Onid dyma neges Adrian Thatcher hefyd?
Nid Cristnogaeth yw hyn.
Nid ymlwybro gan bwyll i gyfeiriad paradwys a wna dynolryw ond mynd ar ei phen i ddistryw (Math. 7:13). At fyd o’r fath y mae breichiau Crist yn lled agored wrth iddo alw o hyd, trwy’r Beibl:
Deuwch ataf fi bawb a’r y sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a esmwythâf arnoch (Math 11:28).