Bob hyn a hyn bydd y cyfryngau’n llawn newyddion am sgandal o ryw fath: methiant, efallai, yng ngwasanaeth cwmni neu adran o’r llywodraeth, neu ddigwyddiad cywilyddus ym mywyd unigolyn. Gwahanol, serch hynny, yw arwyddocâd y gair skandalon, er bod y gair modern sgandal yn tarddu ohono.
Yn wreiddiol, roedd skandalon yn dynodi’r abwyd mewn trap o ryw fath, neu’r fagl ei hun. Defnyddir y gair mewn sawl gwahanol gyd-destun yn y Testament Newydd gan ddangos yn glir bod skandalon yn air perthnasol i gredinwyr a’r di-gred fel ei gilydd.
Mewn rhai mannau mae cysylltiad rhwng anghrediniaeth a’r skandalon. Yn 1 Corinthiaid 1:23 disgrifir y neges am y groes yn dramgwydd (skandalon) i’r Iddewon.
Yna, yn yr ail bennod o lythyr cyntaf Pedr dywedir bod Crist ei hun yn skandalon yng ngolwg rhai. Portreadir Crist yn nhermau maen, maen clodfawr yng ngolwg Duw, ond yn faen tramgwydd (skandalon) i anghredinwyr. Yn 1 Pedr 2:8 dyfynnu geiriau o lyfr Eseia (8:14) a wneir wrth sôn am Grist yn y termau hyn.
Ar brydiau eraill mae’r skandalon yn cyfeirio at rywbeth sy’n gallu arwain at bechod i’r rhai sy’n proffesu ffydd. Felly, yn llyfr y Datguddiad, yn y llythyr at eglwys Pergamus, mae gan Grist achos yn erbyn yr eglwys, sef bod ‘rhai yna sy’n glynu wrth athrawiaeth Balaam, a ddysgodd i Balac osod magl (skandalon) i blant Israel’ (Dat. 2:14). Canlyniad y fagl oedd arwain rhai i bechod: aberthu i eilunod a godinebu.
Yn Efengyl Mathew gwelir bod Crist yn llym ei gondemniad ar y sawl sy’n achos cwymp i’w eiddo: ‘Gwae’r byd oherwydd achosion cwymp (skandalon); y maent yn rhwym o ddod, ond gwae’r sawl sy’n gyfrifol am achos cwymp (skandalon).’ (Math. 18:7).
Yn olaf, gwelwn fod Iesu ei hun wedi wynebu skandalon wrth i Pedr ddadlau ag ef nad oedd llwybr dioddefaint, gwrthodiad, a chroes yn briodol iddo. Ymateb Iesu oedd: ‘Dos ymaith o’m golwg, Satan; maen tramgwydd (skandalon) ydwyt imi’ (Math. 16:23).
Tyred, Iesu, i’r anialwch,
at bechadur gwael ei lun,
ganwaith ddrysodd mewn rhyw rwydau –
rhwydau weithiodd ef ei hun.