Gofynnodd y disgyblion i’r Arglwydd Iesu unwaith, ‘Beth fydd yr arwydd o’th ddyfodiad ac o ddiwedd amser?’ (Math. 24:3). Sylwer mai ‘yr arwydd’ sydd yn y cwestiwn, nid arwyddion. Sylwer ymhellach fod y ‘dyfodiad’ (sef ailddyfodiad Crist) a ‘diwedd amser’ yn perthyn i’r un digwyddiad mawr, gan mai’r un yw’r arwydd i’r ddau fel ei gilydd.
Nid rhyfeloedd yw ‘yr arwydd’. Dyma eiriau’r Arglwydd Iesu:
‘Byddwch yn clywed am ryfeloedd a sôn am ryfeloedd; gofalwch beidio â chyffroi, oherwydd rhaid i hyn ddigwydd, ond nid yw’r diwedd eto’ (Math. 24:6).
Ar wahân i’r datganiad clir yna, y gwir amdani yw na all bodolaeth rhyfeloedd fod yn arwydd o’r diwedd, gan fod rhyfeloedd wedi bod yn rhan o hanes dyn erioed. I enwi ond dyrnaid, dyna luoedd Rhufain, ac yn ddiweddarach yr Eingl-Sacsoniaid yn ymosod ar Brydain; yna Alfred Fawr yn gorfod gadael ei gacenni llosg i ymlid ar ôl y Daniaid. Wedyn llongau’r Normaniaid yn glanio ger Hastings yn 1066, a’r brwydro hir â’r Cymry hyd amser Owain Glyndŵr, y Rhyfel Can Mlynedd â Ffrainc, y Rhyfel Cartref, rhyfeloedd Napoleon – Trafalgar a Waterloo ac ati – yr ymdaro yn y Crimea, a’r ddau Ryfel Byd. Hyn heb sôn am yr ymgecru a’r tywallt gwaed a fu mewn gwledydd eraill dros yr un cyfnod.
Nid newyn a daeargrynfâu yw ‘yr arwydd’ chwaith. ‘Bydd adegau o newyn a daeargrynfâu mewn mannau. Ond dechrau’r gwewyr fydd hyn oll’ (ad. 7,8), nid y diwedd. Dylai’r gosodiad plaen hwn eto brofi’r pwynt. Ond, ar ben hyn, mae pob un a ŵyr rhywbeth am hynt y byd yn gwybod y bu adegau o newyn a daeargrynfâu ar hyd y canrifoedd, ac ni all yr un ohonynt fod yn arwydd sicr o’r diwedd. Camgymeriad fyddai i unrhyw grediniwr, er enghraifft, yn naeargryn fawr Lisbon yn 1755 a laddodd 60,000, neu yn yr ysgytwad yn San Fransisco yn 1906, gasglu fod y byd yn mynd â’i ben iddo, neu fod yr Arglwydd Iesu ar ddychwelyd.
Yna, nid presenoldeb gau broffwydi yw ‘yr arwydd’ o’r diwedd. ‘Fe gyfyd llawer o broffwydi gau a thwyllant lawer’ (ad.11). Roedd y rhain yn bla yn y ganrif gyntaf hyd yn oed. Dyna Paul yn sôn am ‘ffug apostolion’ ac yn siarsio Timotheus – ‘gorchymyn i rai pobl beidio â dysgu athrawiaethau cyfeiliornus’ (1 Tim. 1:3). Wele Pedr yn rhybuddio’i ddarllenwyr y byddai athrawon gau yn eu plith hwythau (2 Pedr 2:11), ac Ioan yntau: ‘y mae gau broffwydi lawer wedi mynd allan i’r byd’ (1 Ioan 4:1). Ac mae gau ddysgeidiaeth o fewn yr Eglwys wedi bod erioed, ac yn bod heddiw.
Beth yw ‘yr arwydd’ felly?
Dyma’r ateb:
‘Ac fe gyhoeddir yr efengyl hon am y deyrnas drwy’r byd i gyd fel tystiolaeth i’r holl genhedloedd, ac yna daw’r diwedd’ (Math. 24:14).
Nid Cristioneiddio’r ddaear a olygir wrth hyn – ni fu’r amcan hwnnw erioed ar raglen waith Duw. Yr ystyr yw y bydd yr efengyl yn cael ei chyhoeddi hyd gyrrau pellaf y byd, y bydd rhai yn cael eu galw i edifeirwch a ffydd yng Nghrist fel eu Harglwydd a’u Gwaredwr, y bydd y comisiwn mawr, ‘Ewch…a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd’ (Math. 28:19), yn cael ei gyflawni’n llawn ac yn derfynol.
Bu hwb i’r gwaith hwn er dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gydag ymddangosiad y cymdeithasau cenhadol mawr, ac â’r gwaith yn ei flaen heddiw, a hynny ar garlam, drwy ddulliau modern fel y radio a rhyfeddodau’r cyfrifiadur. Fe â yn ei flaen nes i rai ‘o bob llwyth ac iaith a phobl a chenedl’ gael eu casglu i’r deyrnas. Ac wedi i’r dasg hon orffen – a Duw yn unig a ŵyr yn union pryd bydd hynny – yna y daw’r diwedd.