Mae’r gallu i ddirnad arweiniad yr Arglwydd yn bwysig i bob Cristion. Mae hyn yn arbennig o wir am David James-Morse, a’i wraig Anne, am fod yr Arglwydd wedi eu galw i weinidogaeth deithiol ar bob cyfandir heblaw am Awstralia a’r gwledydd oddi amgylch. Dros gyfnod o flynyddoedd, maent wedi gorfod dysgu dirnad arweiniad Duw.
David James-Morse sy’n rhannu yma eu tystiolaeth bersonol am arweiniad Duw, gan nodi profiadau fydd o gymorth i bob un ohonom.
Roedd tair gwers arbennig yn sylfaen i bopeth a ddysgwyd, hyd yn oed cyn i’r teithio byd-eang ddechrau.
1. Arweiniad clir a manwl
Yn y wers gyntaf, ynglŷn â’r alwad i Beriw yn Ne America fel cenhadon, yr oedd yn rhaid dysgu bod galwad Duw weithiau yn benodol, gyda’r manylion yn glir hefyd.
I ddechrau, wrth inni ein cynnig ein hunain i’r Arglwydd ar gyfer y gwaith tramor ym mis Medi 1957, cawsom alwad yn hytrach i aros yng Nghaerdydd. Daeth hon trwy Actau 18:10: ‘Mae gennyf lawer o bobl yn y ddinas hon’. Ond ym mis Medi 1958, daeth yr alwad yn gryf i Anne a minnau i edrych tua gwledydd tramor. Ategwyd hyn trwy 2 Corinthiaid 8:10:
[…] hynny sydd orau i chwi, y rhai a fu’n gyntaf, nid yn unig i weithredu ond i ewyllysio gweithredu, er y llynedd. Yn awr gorffennwch y gweithredu yn ôl eich gallu, fel y bydd y gorffen yn cyfateb i eiddgarwch eich bwriad.
Ond, i ble? Daeth yr alwad i Dde America i’r ddau ohonom ar wahân, ond ar yr un eiliad. Yr oeddwn i mewn cwrdd gweddi ac Anne gartref gyda’n merch fach ddwy flwydd oed. Fel hyn y mae’r Arglwydd wedi ein harwain yn aml.
Y cam nesaf oedd gwybod i ba le yn Ne America yr oeddem i fynd. Nid oedd fy ngalwad i esbonio’r Gair o werth yn yr achos hwn, gan fod angen gweinidogaeth y Gair ymhob man. Ond defnyddiwyd proffesiwn Anne fel radiograffydd. Cawsom afael ar restr o ysbytai efengylaidd yn Ne America ac ysgrifennais lythyr i’r ysbyty cyntaf ar y rhestr: Ysbyty Lamas, yn y jyngl ym Mheriw. Ddwy awr cyn i’r llythyr gyrraedd yno, bu staff yr ysbyty yn gweddïo am radiograffydd. Wrth ochr yr ysbyty roedd Ysgol Feiblaidd lle’r oedd angen prifathro. I Lamas yr aethom ym mis Ebrill 1960 a threulio yno bum mlynedd ffrwythlon dros ben.
2. Camu mewn ffydd pan nad oes eglurder
Hollol wahanol oedd yr ail wers, ynglŷn â’n symudiad i Lima, prifddinas Periw. Y tro hwn, yr oedd yn rhaid dysgu dilyn galwad yr Arglwydd, hyd yn oed pan oedd diffyg eglurder yn y manylion.
Yn ystod chwe mis olaf ein hamser yn Lamas, dechreuodd yr Arglwydd ddangos inni mai Lima oedd y lle nesaf inni. Ond dyna’r unig arweiniad. Nid oedd sôn am ble i fyw yno na beth fyddai ein gwaith yno. A beth am ein dyletswyddau yn Lamas?
Dim ond dyddiau cyn inni rannu’r alwad newydd ag arweinydd y genhadaeth yn Llundain, bu i bwyllgor rheoli’r genhadaeth benderfynu bod angen cynrychiolaeth o’r genhadaeth yn Lima. Fel yna y daeth y cadarnhad cyntaf i’r symud.
Trwy brofiadau amrywiol byddem yn cael cadarnhad amlwg mai symud i Lima oedd ewyllys Duw ar ein cyfer – ond bu’n rhaid camu mewn ffydd a symud i Lima yn gyntaf.
Chwe wythnos ar ôl inni gyrraedd Lima ym mis Awst 1966, distrywiwyd yr ysbyty ac adeiladau’r Ysgol Feiblaidd yn Lamas gan ddaeargryn nerthol. Penderfynwyd cau’r ysbyty, oherwydd datblygiad ysbyty’r llywodraeth mewn tref gyfagos. Hefyd, penderfynwyd symud yr Ysgol Feiblaidd yn agosach i’r dref honno, ond nid agorwyd yr adeilad newydd am bedair blynedd arall. Pe baem wedi diystyru’r alwad i Lima, byddai ein gweinidogaeth yn Lamas wedi dod i ben.
Ychydig ddyddiau ar ôl inni gyrraedd Lima, penderfynodd mwyafrif eglwysi efengylaidd Periw drefnu ymgyrch efengylu genedlaethol trwy gydol 1967. Roedd angen trefnydd i Lima a’r cylch. Ymhlith gweinidogion y wlad, yr oedd pawb naill ai’n rhy brysur â’u cyfrifoldebau eraill, neu heb yr hyder angenrheidiol i allu cyfathrebu â chymaint o eglwysi. Ymhlith y cenhadon, heblaw am rai oedd newydd gyrraedd Periw heb ddigon o wybodaeth o’r iaith na’r diwylliant, doedd neb â’r amser i’w roi i’r rhaglen. Ond daeth cenhadwr o Gymro i’w plith, gyda phum mlynedd o brofiad yn y wlad a heb unrhyw gyfrifoldeb arall!
Am y pedwar mis cyntaf, cawsom lety drwy edrych ar ôl plant cenhadon oedd yn Lima er mwyn cael addysg. Am dri mis arall, roeddem yn gofalu am dŷ cenhadon o’r Unol Daleithiau yn ystod eu gwyliau y tu allan i Beriw. Wedyn, cefais wahoddiad i fod yn athro’r Hen Destament yng ngholeg diwinyddol Lima, ac am weddill ein hamser yn Lima yr oedd fflat ar ein cyfer yn y Coleg. Nid oedd y cyfle hwn, chwaith, ar gael cyn diwedd 1966.
Yr oedd y rheswm pam na chawsom esboniad o’r dechrau am weinidogaethau arbennig yn Lima yn awr yn glir!
3. Pwysau amgylchiadau
Yr oedd y drydedd wers yn wahanol eto. Daeth yr arweiniad trwy bwysau amgylchiadau.
Fel rhan o’m dyletswydd fel trefnydd yr ymgyrch yn Lima, dechreuais raglen radio ddyddiol a pharhaodd hon hyd nes inni adael Lima. Cyn bo hir, cyrhaeddai’r rhaglen bob cwr o Beriw yn ogystal â gwledydd cyfagos. O ganlyniad, daeth gwahoddiadau i ymweld â’r gwledydd hyn i bregethu mewn cynadleddau Beiblaidd. Cymaint oedd y galw nes bod rhaid dewis rhwng bywyd teithiol a pharhau â’r cyfrifoldebau yn Lima. Yn y diwedd, cadarnhawyd yr alwad i deithio, a hynny nid yn unig yn Ne America ond â phosibiliadau byd-eang.
Y wers sylfaenol
Yn hyn i gyd, y wers sylfaenol yw’r angen i fod yn sensitif i lais yr Arglwydd, ac mae hyn yn dod wrth roi blaenoriaeth i’n perthynas bersonol â Duw yn ein bywyd defosiynol. Ond wedyn, mae’n rhaid peidio â chyfyngu ein disgwyliadau i un math o arweiniad, a bod yn barod i ufuddhau beth bynnag yw’r canlyniadau. O ras Duw y mae’r gallu i gyd yn tarddu, ‘er clod i’w ras gogoneddus’ (Effes. 1:6).