Dyma grynodeb o gynnwys llyfrau’r gyfraith. Yn y siart (gweler y rhestr neu’r PDF isod) mae’r amser yn nodi pryd yr ysgrifenwyd y llyfrau. Mae’r rhaniadau yn fras iawn i roi syniad o’r cynnwys, a phwrpas yr adnod allweddol yw nid nodi adnodau enwocaf y llyfr ond un o’r adnodau sy’n crynhoi rhai o’r prif negeseuon.
Mae llyfrau’r gyfraith yn gosod sylfaen i’r Beibl. Yma cawn hanes Duw yn creu’r byd, y cwymp i bechod ac addewid Duw am iachawdwriaeth. Mae’n cyflwyno i ni’r ddealltwriaeth Gristnogol sylfaenol o gyflwr y byd. Nodaf yn sydyn 3 o’r prif themâu.
1. Dechreuad pobl Dduw
Mae hanes y patriarchiaid yn darlunio y prif wirioneddau am achubiaeth pobl Dduw. Abraham yn dangos pwysigrwydd ffydd, Isaac yn dangos yr angen am enedigaeth wyrthiol a Duw yn darparu oen yn aberth yn ein lle. Mae Jacob yn ein hatgoffa mai pechaduriaid sy’n cael eu troi yw pobl Dduw a Joseff yn dangos mai Gwaredwr gwrthodedig sy’n ein hachub. Ond daw’r darlun amlycaf o iachawdwriaeth yn yr Exodus o’r Aifft a’r Pasg.
2. Y Gyfraith
Gellir rhannu’r cyfreithiau yn rhai seremonïol, sifil a moesol. Pwrpas y gyfraith, yn ogystal â llesteirio drygioni yn y gymdeithas, yw dangos ein pechod ni a sancteiddrwydd Duw, a’n harwain ni at Grist.
3. Cyfamod
Mae Duw yn ei ymrwymo’i hun wrth ei bobl trwy’i gyfamod. Mae cyfamod â Noa ac Abraham ond yn arbennig â chenedl Israel o Fynydd Sinai. Cofiwn mai ystyr ‘Hen Destament’ yw ‘hen gyfamod’. Mor rhyfeddol fod Duw mor fawr wedi’i ymrwymo’i hun wrth ei bobl trwy gyfamod.
GENESIS
- Awdur: Moses
- Amser: c.1450 CC -1400 CC
- Lleoliad: Aifft, Canaan ac ehangach
- Pwrpas: Gosod sylfaen hanesyddol a diwinyddol
- Athrawiaeth: Creu, cwymp
- Cynnwys: (Pennod)
- 1-11 Hanes cynnar y byd
- 12-50 Hanes teulu Abraham – pobl Dduw
- Adnod Allweddol: 17:7
EXODUS
- Awdur: Moses
- Amser: c.1445 CC -1440 CC
- Lleoliad: Aifft i Sinai
- Pwrpas: Duw yn prynu ei bobl o gaethiwed
- Athrawiaeth: Prynedigaeth, cyfraith Duw
- Cynnwys: (Pennod)
- 1-13 Yr exodus o’r Aifft
- 14-18 O’r Môr Coch at Sinai
- 19-40 Cyfreithiau Sinai
- Adnod Allweddol 34:6-7
LEFITICUS
- Awdur: Moses
- Amser: c.1445 CC -1400 CC
- Lleoliad: Sinai
- Pwrpas: Sut i addoli a byw yn sanctaidd
- Athrawiaeth: Iawn, sancteiddrwydd
- Cynnwys: (Pennod)
- 1-7 Aberthau
- 8-10 Offeiriaid
- 11-17 Aflendid a glendid seremonïol
- 18-27 Y bywyd sanctaidd
- Adnod Allweddol: 19:2
NUMERI
- Awdur: Moses
- Amser: c.1445 CC -1400 CC
- Lleoliad: O Sinai i Moab
- Pwrpas: Olrhain trafferthion y daith
- Athrawiaeth: Y bywyd Cristnogol
- Cynnwys: (Pennod)
- 1-9 Wrth fynydd Sinai
- 10-21 Y daith i Moab
- 22-36 Yn Moab
- Adnod Allweddol: 14:9
DEUTERONOMIUM
- Awdur: Moses
- Amser: c.1401 CC – 1400 CC
- Lleoliad: Gwastadedd Moab
- Pwrpas: Atgoffa’r bobl o Gyfraith Duw cyn mynd i Wlad yr Addewid
- Athrawiaeth: Cyfraith Duw
- Cynnwys: (Pennod)
- 1-4 Cofio’r gorffennol
- 5-26 Ailadrodd y Gyfraith
- 27-30 Adnewyddu’r cyfamod
- 31-34 Josua a ffarwel Moses
- Adnod Allweddol: 6:4,5