Ym mis Ionawr 2010, bu daeargryn yn Haiti a effeithiodd ar 3 miliwn o bobl. Daeargryn hefyd a darodd ddinas Christchurch ar Ynys y De, Seland Newydd ym mis Chwefror eleni. Prin fis yn ddiweddarach, achosodd y daeargryn a darodd Sendai yn Siapan i tswnami godi a tharo’r tir mawr. Golchwyd trefi cyfan i ffwrdd gan y tswnami a chollodd mwy na 15,000 eu bywydau.
Atebion annigonol
Mae rhai yn gofyn y cwesiwn, ‘Pam?’ Cyfnygir ateb annigonol yr anffyddiwr i’r ffaith mai symudiad platiau tectonig sy’n gyfrifol. Dywed eraill mai’r fam ddaear sy’n talu’n ôl am esgeulustod y ddynoliaeth. Ond beth am y Cristion?
Gall digwyddiadau fel hyn beri i Gristnogion ddechrau derbyn syniadau am Dduw nad ydynt yn Feiblaidd. Er enghraifft, gellid amau a yw Duw yn hollalluog; os yw’n Dduw cariad, pam y mae’n caniatáu dioddefaint? Mae llyfr D. A. Carson, How Long, O Lord? yn lle da i ddechrau ystyried atebion i’r cwestiynau dyrys hyn.
Barn?
Un ddamcaniaeth yn unig y manylwn arni yma, sef yr awgrym mai barn uniongyrchol Duw yw’r fath drychinebau, yn erbyn agweddau annuwiol neu bechodau penodol amlwg yn y gwledydd sydd wedi dioddef. Mae rhai wedi cyfeirio at arferion defodau voodoo yn Haiti ac eraill yn tynnu sylw at fateroliaeth Siapan.
Ceir enghreifftiau yn yr Hen Destament lle y cysylltir trychinebau â phechodau penodol: y tân a’r brwmstan yn disgyn ar Sodom a Gomorra (Genesis 19:24); deg pla yr Aifft (Exodus 7-11), er engraifft.
Meddyliwn hefyd am y pla o locustiaid yn llyfr Joel. Roedd yn drychineb ar raddfa ddramatig:
‘A ddigwyddodd peth fel hyn yn eich dyddiau chwi, neu yn nyddiau eich hynafiaid?’ (Joel 1:2).
Cawn syniad o’r dinistr o ddysgu bod 10 biliwn o’r pryfed yma yn medru cael eu cenhedlu’n sydyn, ac wedyn heidio a chreu cwmwl sy’n aceri o hyd a lled.
Geiriau Crist
Beth amdanom ninnau heddiw, ar ôl dyddiau’r Testament Newydd? Rhybuddiodd Iesu y byddai trychinebau naturiol yn digwydd hyd ddiwedd amser (Mathew 24:7). A oes gennym ninnau’r hawl i ddatgan eu bod yn arwydd o farn uniongyrchol?
Gadewch i ni ystyried geiriau Iesu yn Luc 13:1-5:
Yr un adeg, daeth rhywrai a mynegi iddo am y Galileaid y cymysgodd Pilat eu gwaed â’u hebyrth. Atebodd ef hwy, “A ydych chwi’n tybio fod y rhain yn waeth pechaduriaid na’r holl Galileaid eraill, am iddynt ddioddef hyn?”
Cawn ein hatgoffa o gamgymeriad cysurwyr Job, yn mynnu bod dioddefaint Job yn ganlyniad i’w bechod. Mae ateb Iesu yn drawiadol:
‘Nac oeddent, meddaf wrthych; eto, os nad edifarhewch, fe dderfydd amdanoch oll yr un modd. Neu’r deunaw hynny syrthiodd y tŵr arnynt yn Siloam a’u lladd? A ydych chwi’n tybio fod y rhain yn waeth troseddwyr na holl drigolion eraill Jerwsalem? Nac oeddent, meddaf wrthych; eto, os nad edifarhewch, fe dderfydd amdanoch oll yn yr un modd.’ (Luc 13:1-5).
Ymetyb Iesu’n gadarn i’r awgrym bod y Galileaid a’r deunaw yn Siloam yn fwy pechadurus na’r bobl o’u cwmpas. Mae am i’r rheini sy’n ei holi boeni’n fwy am y byd nesaf na’r byd hwn, a sylweddoli mor fregus yw eu sefyllfa hwythau. Yn hytrach na dechrau trafodaeth ar arwyddocâd dioddefaint, mae’n rhybuddio’r bobl o fygythiad mwy brawychus: y farn derfynol: ‘Os nad edifarhewch, fe dderfydd amdanoch oll yn yr un modd’.
Yr un, mewn gwirionedd, oedd neges Joel a welai drychineb y locustiaid yn gysgod a darlun o’r dioddefaint mwy a fydd ar Ddydd y Farn. ‘Edifarhewch’ oedd ei her a’i anogaeth yntau hefyd.
Dywedodd C.S. Lewis yn ei lyfr “The Problem of Pain”:
God whispers to us in our pleasures; speaks in our conscience; but shouts in our pains – it is his megaphone to rouse a deaf world.
Cyfle
Trown, i orffen, at eiriau Iesu yn Efengyl Ioan er mwyn gweld gwedd arall ar ymateb yr Eglwys i ddioddefaint. Gwelwn mai cwestiwn tebyg oedd gan ddisgyblion Iesu wrth ddod ar draws dyn dall:
‘Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn ynteu ei rieni, i beri iddo gael ei eni’n ddall?’ Atebodd Iesu ‘Ni phechodd hwn na’i rieni chwaith, ond fe amlygir gweithredoedd Duw ynddo ef.’ (Ioan 9:2-3)
Yn yr achos hwn, amlygwyd gweithredoedd Duw yn y wyrth rasol o iacháu. Mae’n bosibl, fodd bynnag, y gall pobl weld elusen Gristnogol ar waith yng nghanol poen a dinistr, a holi o le y daw’r fath gariad. Dyna ran o’r rheswm pam y dylai Cristnogion leddfu poen a chynnig help ariannol ac ymarferol. Gweddïwn y bydd y trychinebau diweddar yn gyfle i amlygu gweithredoedd Duw. Gweddïwn y gwêl pobl freuder bywyd a realiti tragwyddoldeb. Gweddïwn y bydd galw ar Dduw mewn edifeirwch.
Am fwy o wybodaeth am beth ddigwyddodd yn Seland Newydd, Haiti a Siapan, edrychwch ar dudalennau olaf y PDF isod.