Cyfeiria’r teitl ‘Efengylau’ at y pedwar llyfr cyntaf yn y Testament Newydd, sef Matthew, Marc, Luc ac Ioan. A oes modd eu derbyn yn gofnodion cywir a hanesyddol? Nid cwestiwn dibwys yw hwn, herwydd yn y llyfrau hyn cawn ddisgrifiad o fywyd, gwaith, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist.
Hoffwn i ateb y cwestiwn trwy ofyn sawl cwestiwn arall.
Pryd?
Pryd yr ysgrifennwyd yr Efengylau? Rhwng 65-90 OC. Efengyl Marc a ddaeth yn gyntaf a defnyddiodd Mathew a Luc Efengyl Marc ar gyfer peth o’u cynnwys. O’r herwydd, gelwir Mathew, Marc a Luc yn Efengylau Cyfolwg (Synoptic). Roedd Ioan yn fwy annibynnol wrth drefnu ei lyfr ac mae’n rhoi tipyn o dystiolaeth bersonol oherwydd iddo dreulio tair blynedd gyda’r Iesu fel disgybl.
Pam?
Pam pedair Efengyl? Ysgrifennodd pob awdur mewn sefyllfaoedd amrywiol ac er mai un oedd y neges, mae gan bob un pwyslais gwahanol. Ysgrifennodd Mathew at Iddewon, felly pwysleisiodd yr Hen Destament i ddangos mai’r Iesu oedd y Meseia. Ysgrifennodd Marc at gynulleidfa Roegaidd gan dynnu sylw at lawer o ddigwyddiadau ym mywyd Iesu a oedd yn dangos ei fod yn Fab Duw ac yn Frenin. Ysgrifennodd Luc at Theophilus a llawer o rai eraill i ddangos mor ddibynadwy yw hanes Iesu i gredinwyr ymhobman. Poenai am y tlawd, gwragedd a’r Cenhedloedd, sef y pobl y tueddai’r Iddewon i’w dirmygu. Ysgrifennai Ioan ar gyfer Iddewon a oedd yn byw y tu allan i Israel; mae’n rhoi mwy o bwyslais ar athrawiaeth Iesu yng nghyd-destun rhai gwyrthiau neu ‘arwyddion’ fel y’u gelwir.
Beth?
Beth oedd diben ysgrifennu’r Efengylau? Roedd llawer o Gristnogion a oedd yn dystion i waith Iesu wedi marw erbyn 60 OC, felly roedd angen cofnodi hanes ac athrawiaeth y Gwaredwr tra oedd y ffeithiau yn dal i fod yn hysbys. Ond roedd pwrpas arbennig hefyd gan yr awduron. Eglura Ioan ei reswm dros ysgrifennu yn y geiriau hyn:
Ond y mae’r rhain wedi eu cofnodi er mwyn I chwi gredu mai Iesu yw’r Meseia, Mab Duw, ac er mwyn i chwi trwy gredu gael bywyd yn ei enw ef’.
Er mwyn efengylu a dysgu Cristnogion y lluniwyd yr Efengylau ac maent o werth amhrisiadwy i ni am eu bod yn cyfleu neges a gwaith Iesu i ni.
Sut?
Sut yr ysgrifennwyd yr Efengylau? Nid disgyn o’r nef mewn ffordd ddirgel a gwyrthiol a wnaethant! Trefnodd Duw well ffordd i roi hanes dibynadwy i ni am Iesu
Er enghraifft:
1. Dysgodd Iesu ei ddisgyblion mewn ffordd systematig a chofiadwy. Roedd yn hawdd i bobl gofio ei eiriau. Hefyd, roedd dysgu’r Ysgrythur ar gof yn beth pwysig dros ben i’r Iddewon (Deut. 6:4-9). Felly roedd hi’n haws iddynt gofio damhegion, straeon ,dywediadau a theitlau Iesu. Roedd y traddodiad llafar yn allweddol yn y blynyddoedd cynnar er mwyn sicrhau cywirdeb yr hanesion am eiriau a gweithredoedd yr Arglwydd. Ond wedyn dechreuodd rhai roi’r traddodiad llafar ar bapur. Yn Luc 1:1-4 cawn gipolwg ar y broses. Sylwer:
- ‘llawer wedi ymgymryd ag ysgrifennu hanes y pethau a gyflawnwyd yn ein plith’ (adnod 1), hynny yw, pethau ynglŷn â’r Arglwydd Iesu. Roedd nifer o ddogfennau ar gael felly a oedd yn cofnodi’r traddodiad llafar.
- Nid straeon dychmygol a ysgrifenasant ond pethau hanesyddol: ‘y traddodwyd hwy inni gan y rhai a fu o’r dechreuad yn llygad-dystion ac yn weision y gair’ (adnod 2). Yma tynnir sylw at gywirdeb a ffeithiau hanesyddol gyda chymorth rhai a oedd yn ‘llygad-dystion’. Ysgrifenna Ioan, Marc a Mathew hwythau bethau cywir am Iesu trwy ddefnyddio llygad-dystion fel y gwna Ioan mewn adnodau megis 5:31-47, 19:35 a 21:24.
- Roedd Luc yn ofalus i sicrhau mai dim ond pethau gwir a hanesyddol a roddai yn ei waith. Meddai: ‘gan fy mod wedi ymchwilio yn fanwl i bopeth o’r dechreuad…’ Aeth Luc ati’n drylwyr, yn fanwl ac yn ofalus dros ben I archwilio’r traddodiad llafar ac ysgrifenedig er mwyn gwneud yn siŵr bod ei hanes yn gywir. Dylai hynny roi hyder i ni dderbyn tystiolaeth a gwaith Luc fel hanesydd o’r iawn ryw.
2. Goruwch, ac yn arolygu, y broses o gasglu gwybodaeth o’r traddodiad llafar ac ysgrifenedig oedd yr Ysbryd Glân. Ef oedd yn llywio, rheoli ac yn arolygu’r broses o ysgrifennu’r Efengylau fel Gair anffaeledig Duw – a medrwn ni ymddiried ynddynt. Addewid yr Arglwydd oedd: ‘pan ddaw ef, Ysbryd y Gwirionedd, fe’ch arwain chwi yn yr holl wirionedd…’ (Ioan 16:12). Gweithiodd yr Ysbryd Glân mewn ffordd arbennig er mwyn sicrhau bod awduron y Testament Newydd yn cynnwys y geiriau a’r ffeithiau cywir.
Mwy?
Oes, mae llawer mwy o dystiolaeth y gallem ei nodi. Daeth tystiolaeth archeoloegol i gadarnhau rhai ffeithiau megis Sgroliau’r Môr Marw a ddarganfuwyd ym 1947, neu gyfeiriad at Peilat mewn cerrig a ddarganfuwyd ym 1961 neu dý yng Nghapernum lle bu Pedr yn byw, o bosibl.
Iddew ac nid Cristion oedd yr hanesydd Josephus (tua 37-100 OC), ond cyfeiria yn ei lyfr enwog Antiquities at wyrthiau, dysgeidiaeth, croeshoeliad ac atgyfodiad Iesu.
Cofier hefyd am onestrwydd yr Efengylau, eu bod yn barod i gynnwys ffeithiau a oedd yn dangos methiant Pedr wrth wadu’r Iesu, neu fethiant Iago ac Ioan wrth ofyn am y lle gorau yn y nefoedd. Yn aml iawn, roedd y disgyblion yn anghyson ac nid oes ymgais i gelu hyn.
Beth am dystiolaeth Paul? Ysgrifennodd ei lythyrau yn y pum a chwe degau OC ac roedd yn amlwg ei fod yn gyfarwydd â’r aroddiadau am fywyd acathrawiaethau Iesu (1 Cor 11:23, 15:1). Mae Paul hefyd, felly, yn pontio’r cyfnod cynnar ac yn cadarnhau’r ffeithiau.
Un pwynt arall cyn gorffen. Ychydig iawn o newid sydd rhwng y fersiynau diweddaraf o’r Efengylau a’r llawysgrifau cynharaf sydd wedi dod i’r amlwg (yr un peth sydd i’w weld ar 99.9% ohonynt yn ôl John Wenham). Dyddiad y copi cyntaf o lyfr clasurol megis The Annals of Imperial Rome a ysgrifennwyd tua 116 OC yw 850 OC, ond mae gennym dros bum mil o gopïau o’r Efengylau, a rhai ohonynt yn deillio o’r ail ganrif!
Ymateb? Darllenwch yr Efengylau o ddifrif a chewch weld eu bodyn bŵerus a chywir!