Nid gair ond ymadrodd sydd gennym y tro hwn, sef ‘bywyd tragwyddol’.
Mae’r ymadrodd hwn yn codi sawl gwaith yn y Testament Newydd; mae’n rhan bwysig o neges Iesu Grist ac awduron y Testament Newydd.
Dechreuwn trwy gofio mai rhodd yw bywyd tragwyddol; does neb yn gallu ei hawlio. Duw sy’n ei roi:
‘rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd’ (Rhuf. 6:23)
Pa fath fywyd yw hwn?
Cyn troi at adnodau perthnasol, rhaid i ni gofio mai bywyd yw Duw a’i fod hefyd yn dragwyddol.
Mae Duw, a’r bywyd sy’n eiddo iddo, yn para am gyfnod diddiwedd, yn wir, y tu hwnt i amser, heb na dechrau na diwedd.
Felly mae bywyd tragwyddol yn fywyd sy’n parhau y tu hwnt i amser ac mae’n dynodi math o fywyd sy’n wahanol ei ansawdd i’r hyn sy’n deillio o’r byd hwn; bywyd y nef os mynnwch.
Gadewch i ni ystyried rhai agweddau eraill:
Mae’r bywyd hwn wedi’i gysylltu mewn modd arbennig iawn ag Iesu Grist. Dyma dystiolaeth yr apostol Ioan am Iesu Grist:
‘Hwn yw’r gwir Dduw a’r bywyd tragwyddol’ (1 Ioan 5:20).
Felly, nid yn unig y gallwn sôn amdano ef yn rhoi dŵr y bywyd, yn llefaru geiriau’r bywyd, ond ef ei hun hefyd yw’r bywyd tragwyddol.
Er mai rhodd yw bywyd tragwyddol, mae’n amlwg o sawl man yn y Testament Newydd nad yw hynny’n golygu nad oes cyfrifoldeb arnom i geisio’r bywyd hwn. Dyma a ddywedodd Iesu Grist wrth y dorf a oedd yn ei ddilyn wedi iddo eu bwydo:
‘Gweithiwch, nid am y bwyd sy’n darfod, ond am y bwyd sy’n para i fywyd tragwyddol.’ (Ioan 6:27)
Efallai mai’r amod bwysicaf sy’n gysylltiedig â meddu ar y bywyd hwn yw credu:
‘Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.’ (Ioan 3:16)