Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Cyflwyniad i Gyfres Newydd: “Arolwg o’r Beibl”

3 Hydref 2011 | gan Derrick Adams

Mae dwy ffordd o drafod mochyn cwta. Naill ai ei anwesu, neu ei agor i fyny mewn labordy er mwyn dadansoddi a labelu gwahanol ddarnau o’i gorff! Y ffordd gyntaf yn ddi-os yw’r ffordd fwyaf pleserus, ond o ddeall moch cwta yn fanylach gallwch ofalu amdanynt yn well. Mae’r un peth yn wir am ddarllen y Beibl. Rhaid ei ddarllen yn gyson er mwyn cael budd ysbrydol, her neu gysur, ond mae lle i’w ddadansoddi a deall y gwahanol adrannau. Bydd cael golwg eang ar gynnwys a rhaniadau’r Beibl yn help i ni ei gymhwyso’n gywir ac elwa arno wrth ei ddarllen. 

Dyma ddechrau, felly, ar gyfres fydd yn ceisio dadansoddi gwahanol adrannau’r Beibl. Beth am fynd ati i gasglu’r tudalennau a gyhoeddir yn Y Cylchgrawn dros y ddwy flynedd nesaf?

Mae yn y Beibl sawl adran. Yn y gyfres hon rhoddir cipolwg ar bob adran yn ei thro. Defnyddiwch y siart yn y PDF isod i ymgyfarwyddo â’r adrannau hyn.

Dwy ran sydd i’r Beibl – yr Hen Destament, sef y 39 llyfr a ysgrifennwyd cyn dyfodiad Crist, a’r Testament Newydd, 27 llyfr a ysgrifennwyd ar ôl iddo ddod. Mae 4 adran amlwg yn yr Hen Destament: cyfraith, hanes, doethineb a phroffwydi. Tueddir i rannu’r Testament Newydd yn 3 rhan: hanes, llythyrau Paul a’r llythyrau cyffredinol. 

Er bod i’r Beibl wahanol adrannau sy’n amrywio o ran eu pwyslais a’u harddull, rhaid nodi o’r dechrau eu bod yn gyson eu neges. Nid oes gwrthddweud rhyngddynt. Yr un Ysbryd Glân sydd wedi ysbrydoli pob un, ac ynddynt ceir sawl golwg ar yr un brif neges ganolog, sef y ffordd at Dduw trwy Iesu Grist. Bydd amrywiaeth yr arddull a’r cynnwys o gymorth ar wahanol adegau. Diben cyfreithiau yw dysgu beth sy’n dda a beth sy’n drwg, yn yr hanesion rhoddir esiamplau inni, trwy farddoniaeth mynegir ein serchiadau a’n profiadau, a thrwy’r pregethau cawn gysur neu her. Yn y Gair mae pethau hawdd ac anodd. Ys dywed rhywun, mae digon o le i ŵyn wlychu eu traed yn ddiogel ac i eliffantod nofio! Ymlaen â ni, felly, i ddarganfod mwy o ddyfnderoedd Gair Duw.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF
Adnodd diwethaf