Trawodd gweinidogaeth Iesu o Nasareth Israel fel corwynt. Amlygodd ragrith crefyddol ei ddydd, a trawsnewidiodd ei ddysgeidiaeth a’i wyrthiau fywydau er gwell. Mae’n dal i gael yr un effaith drwy’r byd i gyd heddiw.
Y mae hyn yn codi’r cwestiwn, ‘Pa fath o ddyn yw hwn…?’
O dro i dro, daw beirniaid sy’n honni mai dim ond dyn oedd Iesu, dyn rhyfeddol iawn, ond dyn er hynny. Ond mae dysgeidiaeth y Beibl yn glir ac yn ddigamsyniol: Mae Iesu yn ddyn… ac yn Dduw.
Dyma rhai o’r ffyrdd y mae Iesu ei hun yn datgelu ei fod yn Dduw:
a. Trwy ei weithredoedd
Maddau pechodau
Mae Marc 2:1-12 yn adrodd yr hanes am Iesu’n pregethu mewn tŷ dan ei sang yng Nhapernaum. Agorwyd y tô uwch ei ben, a gostyngodd pedwar dyn ffrind wedi ei barlysu o’i flaen. Dywedodd Iesu wrth y dyn wedi ei barlysu, ‘Fab, maddeuwyd dy bechodau’. Roedd yr arweinwyr crefyddol oedd yn bresennol yn meddwl ei fod yn gabledd i ddweud y fath beth. Wedi’r cwbl, yn yr Hen Destament, dywedodd Duw ei hun,
‘Myfi, myfi yw Duw, sy’n dileu dy droseddau’ (Eseia 43:25).
Ond atebodd Iesu wrth y dyrfa, ‘er mwyn i chwi wybod fod gan Fab y Dyn awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear’ – meddai wrth y claf, ‘cod, a chymer dy fatras a dos adref’. Cafodd y dyn ei wella’n syth, ac roedd y dyrfa’n rhyfeddu. Roedd y wyrth yn profi ei honiad: mae ganddo’r awdurdod i faddau pechodau, ac felly mae e’n Dduw.(1)
Barnu holl bobl y byd
Ym Mathew 25, mae’r Iesu’n siarad am ddydd y farn. Bryd hynny, pan fydd pawb sydd wedi byw erioed yn cael eu galw gerbron gorsedd barn, ni fydd Iesu’n cael ei farnu fel dynion eraill: fe fydd y barnwr. Mae Iesu’n rhoi’r rheswm am hyn:
‘Nid yw’r Tad chwaith yn barnu neb, ond y mae wedi rhoi pob hawl i farnu i’r Mab, er mwyn i bawb roi i’r Mab yr un parch ag a rônt i’r Tad’ (Ioan 5:22-23).
b. Trwy ei eiriau
Mab Duw
Cyfeiria’r Iesu droeon ato’i hun fel ‘Mab Duw'(2) ac at Dduw fel ‘fy Nhad'(3). Mae’n dweud ei fod yn gwneud gwaith y Tad (Ioan 5:36) a’i fod wedi byw gyda’r Tad yn y gogoniant cyn bod y byd (Ioan 17:5). Deallai’r Iddewon yn iawn beth oedd hyn yn ei olygu:
“Parodd hyn i’r Iddewon geisio’n fwy byth ei ladd ef, oherwydd … yr oedd hefyd yn galw Duw yn dad iddo ef ei hun, ac yn ei wneud ei hun felly yn gydradd â Duw.” (Ioan 5:18)
Pam fod hyn yn bwysig?
Rhyfeddod hyn i gyd yw fod Duw wedi dod yn ddyn er mwyn ein hiachawdwriaeth ni! Roedd cymryd ein pechodau yn dasg rhy fawr i unrhyw ddyn neu angel. Dim ond Duw yn y cnawd a allai ymgymryd â’r dasg. Bellach am ei fod wedi gwneud hyn, does dim i rwystro neb rhag cael iachawdwriaeth yn Iesu Grist.
Mae’r nefoedd yn llawn o’r rheini sy’n addoli Iesu Grist.(4) Pwy arall ond Duw sydd yn haeddu addoliad o’r fath? A fyddwch chithau yn eu plith?(5)