Sut mae ymdopi fel Cristion yn yr Ysgol?
Gall Ysgol fod yn anodd – ti siwr o fod wedi sylwi.
Ond gall fod yn fwy anodd i fod yn Gristion yn yr Ysgol.
Ceisio gwneud dy waith, bod yn esiampl a thystiolaeth i ffrindiau a hynny heb edrych yn ‘weirdo’.
Mae’n hawdd meddwl dy fod ar dy ben dy hun pan yn y sefyllfa yma, ond mae’n bwysig cofio fod miloedd o Gristnogion wedi neu yn mynd trwy’r un sefyllfa â ti. A beth sy’n bwysicach i gofio ydi fod Duw wedi eu cadw, pob un! – ‘Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni o blaid y rhai sy’n ei garu.’ – Rhufeiniaid 8: 28.
Nid yn unig fod Duw yn gaddo i fod gyda ti ond mae hefyd wedi rhoi hanesion pobl yn y Beibl i’n helpu. Un o’r bobl yma oedd Daniel. Gad i ni edrych ar ei hanes i ddysgu sut y gallwn ymdopi.
Cafodd Daniel ei gymryd gan Frenin Babilon pan oedd yn hogyn ifanc, cafodd ei gludo ymhell o’i gartref (Israel) a’i orfodi i ddysgu am dduwiau Babilon.
Yn amlwg does dim amser i edrych yn fanwl ar holl hanes Daniel yn yr erthygl hon – ond mae yn hanes anhygoel. Mae Daniel yn esiampl gwych i ni ac fe wnaeth Duw ei ddefnyddio mewn ffordd arbennig. Felly beth am ddarllen ei hanes? Mae ei hanes i gael yn llyfr Daniel a’r saith pennod gyntaf. Darllena un bennod bob dydd a beth am ysgrifennu beth wyt wedi ei ddysgu mewn llyfr.
Dyma rai pethau yr ydw i wedi eu sylwi o’r hanes a wnaeth Daniel a oedd yn help iddo sefyll dros Dduw mewn sefyllfa anodd iawn.
1 > GweddÏa. (Daniel 2.19)
Drwy’r hanes gwelwn fod Daniel yn gweddïo. Gwna di yr un peth – gweddïa y bydd Duw yn dy gadw yn yr ysgol ac yn dy helpu. A chofia fod Duw yn ateb gweddi, nid ‘wishful thinking’ ydi gweddi ond ffordd o siarad gyda’n Tad sydd yn Dduw nerthol – Does dim y tu hwnt iddo Ef.
2 > Gwna dy orau yn dy waith. (Daniel 6.3)
Roedd Daniel yn dda iawn yn ei waith a thrwy hyn fe gafodd gyfle i fod yn dystiolaeth i Dduw. Mae’n hawdd meddwl fod Duw yn ein galw i siarad gyda phobl amdano yn unig, ond mae gennym gyfrifoldeb i wneud ein gorau yn ein gwaith. Cofia fod y ffordd mae rhywun yn byw yn dweud llawer mwy na’r geiriau a ddaw allan o’i geg. Felly gweithia’n galed!
3 > Ffrindiau. (Daniel 1.6)
Roedd Sadrach, Mesach ac Abednego yn ffrindiau – pan aeth pethau yn anodd roedden nhw yn gymorth i’w gilydd. Mae’n bwysig cael ffrindiau sy’n Gristnogion. Mae Duw wedi ein creu i fod angen ffrindiau – felly cofia rannu gyda dy ffrindiau (a bydd yn ffrind da).
Os nad oes ffrindiau sy’n Gristnogion yn yr ysgol – cofia fod rhai yn y capel.
4 > Bydd yn Onest. (Daniel 6. 10-11)
Doedd Daniel byth yn cuddio’r gwir amdano’i hun – roedd yn blentyn i Dduw (hyd yn oed os oedd hyn yn golygu y byddai’n cael ei daflu i’r llewod). Os wyt ti yn Gristion, yna paid â chuddio – bydd yn onest. Os oes rhywun yn gofyn cwestiwn i ti am fod yn Gristion – ateb e yn onest.
5 > Ymlacia a Thrystia.
Bu’n rhaid i Daniel a’i ffrindiau wynebu sefyllfaoedd anodd iawn. Er hyn i gyd roedd Duw yn rheoli ac yn eu cadw. Nid oedd modd i’r fflamau, llewod na’r brenhinoedd eu cyffwrdd.
Tydi Duw ddim yn gaddo y caiff ei blant amser hawdd ar y ddaear ond mae yn gaddo y bydd yn gymorth iddynt. Ac y bydd yn eu cadw ac un dydd fe gaiff pob Cristion dreulio gweddill ei amser gyda Duw yn y nefoedd.
Felly ymlacia a thrystia yn Nuw. Mae’n dy garu ac yn gwybod am dy sefyllfa a bydd yn gymorth i ti, fel yr oedd yn gymorth i Daniel!
Rhai adnodau i helpu:
- Rhufeiniaid 8: 28 – 32
- Rhufeiniaid 8: 38 – 39
- 2 Corinthiaid 10: 3 – 4
- Effesiaid 2: 4 – 5