Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.
Golwg ar groes Crist, canolbwynt y neges Gristnogol, a phrif destun llawenydd a moliant y Cristion. Ers degawdau bu troi cefn gan lawer ar eglurhad y Beibl am groes Crist, gan ei disbyddu o ganlyniad o’i hystyr iawnol ac achubol. Nid oes dim pwysicach, felly, na chael golwg eto ar y dystiolaeth Feiblaidd ac apostolaidd am y groes.
Tabl Cynnwys:
Rhagair
1 Y darlun tywyll
2 Gobaith am achubiaeth
3 ‘Yr iawn a dalwyd ar y groes’
4 Cyfiawnhad trwy ffydd
Gwybodaeth Bellach:
Ers degawdau bellach bu troi cefn gan lawer, i raddau mwy neu lai, ar eglurhad y Beibl am groes Crist, gan ei disbyddu o ganlyniad o’i hystyr iawnol ac achubol. Nid oes dim pwysicach, felly, na chael golwg eto ar y dystiolaeth Feiblaidd ac apostolaidd am y groes, canolbwynt yr efengyl, unig ffordd gwaredigaeth a phrif darddell moliant a llawenydd y Cristion. O ddarllen yr anerchiadau a geir yn y gyfrol hon, cawn achos o’r newydd i ymuno â’r emynydd, pan ddywed: ‘Yng nghroes Crist y gorfoleddaf’