Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Darllen y Beibl

16 Mawrth 2008 | gan Heledd Job | 2 Timotheus 3

Darllen y Beibl

Wyt ti’n cael trafferth i ddarllen y Beibl?

Efallai dy fod yn ffeindio hi’n hawdd i ddarllen y Beibl am rai dyddiau ar ôl gwersyll neu gynhadledd.

Ond beth am weddill y flwyddyn?

Yn yr erthygl hon mae Heledd Job yn ceisio ein helpu i fedru darllen y Beibl yn well.

Mae dwy ffordd o fwyta. Gallwn ni bicio rownd y gornel i McDonalds bob dydd, neu gallwn ni gymryd amser i baratoi pryd call.

Mae picio i McDonalds yn llawer llai o drafferth, ond dychmyga be fydde’n digwydd i rhywun sy’n byw ar McDonalds trwy’r amser.

Mae dwy ffordd gallwn ni ddarllen y Beibl. Gallwn ni ‘dipio’ i fewn i gael ein fix dyddiol neu gallwn ni gymryd amser i’w ddarllen o’n iawn.

Yn 2 Pedr 3:16 mae Pedr yn rhybuddio os nad ydym yn darllen ein Beibl yn iawn mi fyddwn ni mewn perygl o’i gam ddeall a’i ddefnyddio’n anghywir ac mae hyn yn beryglus i ni.

Ond o’i ddarllen ein hunain yn iawn mae gymaint gennym i’w ennill.

Dyma eiriau Paul i Timotheus:

Ond dal di dy afael yn beth rwyt wedi ei ddysgu. Rwyt ti’n gwybod yn iawn mai dyna ydy’r gwir, ac yn gwybod sut bobl ddysgodd di. Roeddet ti’n gyfarwydd â’r ysgrifau sanctaidd ers yn blentyn. Trwyddyn nhw y dest ti i ddeall sut i gael dy achub, drwy gredu yn y Meseia Iesu. Duw sydd wedi ysbrydoli’r ysgrifau sanctaidd hynny i gyd, ac maen nhw’n dysgu beth sy’n wir i ni, yn cywiro syniadau anghywir, yn dangos beth dyn ni’n ei wneud o’i le, a’n dysgu ni i fyw yn iawn. 2 Tiomotheus 3: 14 – 16

Does dim byd wneith ein paratoi ni’n well ar gyfer byw a marw na gair Duw.

Felly mae’n werth cymryd y drafferth i ddysgu sut i wledda arno.

Sut dylen ni ddarllen y Beibl?

Darllen o fel llyfr hollol wahanol i unrhyw lyfr arall.

Mae’n hynod o bwysig i chi ddeall hyn – mai dim syniadau’r proffwyd ei hun ydy’r negeseuon sydd yn yr ysgrifau sanctaidd. Dim y proffwyd ei hun oedd yn penderfynu ei fod am ddweud rhywbeth. Er mai pobl oedd yn gwneud y siarad, yr Ysbryd Glân oedd yn eu cymell nhw i siarad. Roedden nhw’n dweud beth roedd Duw am iddyn nhw ei ddweud. 2 Pedr 1: 20 a 21

Gair Duw yw hwn. Mae ganddo awdurdod nad yw’n perthyn i unrhyw lyfr arall. Dyma air Creawdwr y byd, a’n crewr ni. Felly rhaid i ni ddod ato mewn ffordd arbennig:

  • yn ostyngedig ac yn barod i gael ein dysgu
  • yn dibynnu ar yr Ysbryd Glan,
  • yn gweddïo ar i Dduw ein helpu i’w ddeall
  • yn barod i ufuddhau, beth bynnag yw’r gost

Darllen o fel unrhyw lyfr arall

Theoffilus, syr – Fel dych chi’n gwybod, mae yna lawer o bobl wedi mynd ati i gasglu’r hanesion am yr hyn sydd wedi digwydd yn ein plith ni. Cafodd yr hanesion yma eu rhannu â ni gan y rhai fu’n llygad-  dystion i’r cwbl o’r dechrau cyntaf, ac sydd ers hynny wedi bod yn cyhoeddi neges Duw. Felly, gan fy mod innau wedi astudio’r pethau yma’n fanwl, penderfynais fynd ati i ysgrifennu’r cwbl yn drefnus i chi, syr. Byddwch yn gwybod yn sicr wedyn fod y pethau gafodd eu dysgu i chi yn wir. Luc 1:1-41

Mae hwn yn air wedi ei sgwennu gan ddynion. Rhai oedd wedi ymchwilio a nodi be oedden nhw wedi ei weld a’i glywed. Mae’n air sy’n gwneud synnwyr a’r brawddegau’n dilyn ei gilydd mewn trefn. Felly wrth ddarllen y Beibl, gallwn ni ddefnyddio’r un rheolau y bydden ni’n eu defnyddio i ddarllen unrhyw lyfr arall.

3 cam defnyddiol i’w cofio:

Cam 1 – Darllen – Beth mae’r darn yn ei ddweud

Edrych ar y darn ac ateb y cwestiynau yma:

  • pwy sy’n siarad â phwy?
  • pwy yw’r cymeriadau?
  • sut fath o lenyddiaeth? (hanes, llythyr, bywgraffiad, ayyb)
  • pryd mae hyn yn digwydd?
  • beth sy’n digwydd?
  • oes unrhyw beth sy’n dy synnu?

Cam 2 – Deall – Beth mae’r darn yn ei feddwl

Meddwl am y cwestiynau hyn:

  • pam fod y darn yma’n digwydd fan hyn?
  • pam fod hyn yn cael ei ddweud gan gymeriad?
  • beth yw canlyniad beth sy’n digwydd?
  • beth mae’r awdur yn ceisio’i ddweud?
  • sut fyddai’r darllenwyr cyntaf wedi ymateb i hyn?
  • beth yw prif bwynt y darn?

Cam 3 – Cymhwyso – Sut ddylwn i ymateb i’r darn yma?

Gofyn y cwestiynau yma i ti dy hun:

  • oes angen i mi newid y ffordd dwi’n meddwl / ymddwyn?
  • oes rhywbeth i mi ddiolch / canmol Duw amdano?
  • oes angen i mi ofyn am faddeuant am rywbeth / ffordd anghywir o feddwl / ymddygiad?

Yn olaf …..

Mae hi’n anodd byw fel Cristion yn y byd yma heddiw. Mae hi’n hawdd edrych o’n cwmpas ac anobeithio; does dim byd yn sicr, cawn ein siomi gan ein ffrindiau, gwelwn gymaint o bechod a gwelwn fod cymdeithas ei hun yn gwrthod unrhyw awdurdod.

Ond yn y Beibl fe gawn yr awdurdod terfynol. Trwy’r Beibl mae Duw am siarad gyda ti, a rhaid i ti ymateb i hyn.

Nid llyfr i ddarllen yn unig yw’r Beibl. Rhaid ymateb iddo gyda nerth yr Ysbryd Glan gan gofio geiriau Paul:

‘Y mae pob ysgrythyr wedi ei anadlu gan Dduw’

Rho gynnig arni:

Darllen Salm 19 a gweithia trwy’r 3 cam.

 

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF
Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf