Gwyliau Cristnogol yn Aberystwyth, fis Awst, ar gyfer pobl o bob oedran yw’r Gynhadledd flynyddol. Wedi eu huno o gwmpas gwirioneddau canolog yr efengyl fe ddaw pobl o bob rhan o Gymru at ei gilydd am wythnos o ddysgeidiaeth Feiblaidd, cymdeithas gynnes ac i addoli’r Arglwydd Iesu Grist.
Canolbwynt y gynhadledd yw’r oedfaon ac anerchiadau a fydd yn digwydd yng Nghapel y Morfa bob bore a nos. Prif siaradwr y gynhadledd eleni fydd Derrick Adams sydd yn weinidog ar Eglwys Efengylaidd Aberystwyth. Bydd yn ein hannerch ar y testun ‘Teyrnas Dduw’. Yn ogystal â Derrick, bydd nifer o siaradwyr a phregethwyr eraill yn rhan o’r gynhadledd gan gynnwys Aled Myrddin (cadeirydd eleni), Meirion Thomas, John Robinson a Geraint Morse. Thema oedfaon y nos fydd yr Arglwydd Iesu Grist.
Mae gweddi yn rhan bwysig iawn o’r cyfan a fydd yn digwydd yn y gynhadledd. Trystan Hallam o Gaerdydd fydd yn arwain y cyfarfodydd gweddi boreol eleni. Ynghyd â’r cyfarfodydd pregethu a’r cyfarfodydd gweddi, mae yna lawer o weithgareddau a chyfarfodydd eraill wedi eu trefnu. Bydd darpariaeth lawn ar gyfer teuluoedd a’r plant, seminarau amrywiol, nifer o gyfarfodydd ar gyfer ieuenctid, myfyrwyr a theuluoedd.
Hoffem dynnu eich sylw at rai o’r datblygiadau newydd yn y gynhadledd eleni. Bydd barbiciw arbennig ar gyfer teuluoedd, noson i rai yn eu 20au a 30au a noson i rannu peth o’r newyddion diweddaraf am Gymry sy’n cenhadu mewn gwledydd eraill dros y byd. Cofiwch hefyd am y newid yn y drefn eleni – bydd yn rhedeg o nos Fawrth hyd at amser cinio dydd Sadwrn. Wrth wneud y newid hwn gobeithiwn y bydd teuluoedd a phobl sy’n gweithio yn ei chael yn haws i ymuno â’r gynhadledd.
Lleoliad y gynhadledd yw Abersytwyth, Sir Ceredigion ac er bod y rhaglen yn gynhwysfawr, bydd digon o gyfle i ymlacio a meddwl dros yr hyn sydd wedi ei glywed, yn enwedig gan fod traeth y Borth yn agos a digon o gaffis a siopau yn Aber. Mae’r wedd gymdeithasol yn bwysig iawn yn y gynhadledd a bydd paned ar gael a chyfle i gymdeithasu cyn cyfarfod y bore ac ar ôl cyfarfod yr hwyr bob dydd yn festri y Morfa. Efallai mai un o’r prif bethau sy’n dennu pobl i’r gynhadledd yw’r gymdeithas gynnes a’r cyfle i gwrdd â hen ffrindiau a gwneud rhai newydd.
Anerchiadau’r bore – Capel y Morfa 11.00 yb (Dydd Mercher – Dydd Sadwrn) Derrick Adams – Thema ‘Teyrnas Duw’
Oedfaon y nosweithiau – Capel y Morfa 7.30 yh
Nos Fawrth – Geraint Morse (Iesu – yr ymgnawdoliad)
Nos Fercher – Steffan Jones (Iesu – ar y groes)
Nos Iau – John Robinson (Iesu – yr atgyfodiad)
Nos Wener – Meirion Thomas (Iesu – yr ailddyfodiad)
Cyfarfod Gweddi – Capel y Morfa 9.30 yb (Bore Mercher – Bore Sadwrn) Trystan Hallam
Seminarau – Eglwys Sant Paul (mwy i ddod)
Magu Plant a’r teulu – Dydd Iau 4.00 yh
Y Beibl mewn awr! – Dydd Gwener 4.00 yh
Gweithgareddau ychwanegol (lleoliadau i’w cadarnhau)
Prynhawn chwaraeon ar gyfer yr ieuenctid – Dydd Mercher 2.00 yp
Cyfarfod i gofio Mair Davies a’r gwaith yn y Wladfa – Dydd Mercher 4.00 yp
Cyfarfod Cenhadol – Nos Fercher 9.00 yh
Barbeciw teuluol – Dydd Iau 1.00 yp
Noson 20au a 30au – Nos Wener 9.00 yh
I’r Plant – Clwb yr Hapus Awr:
Trefnir cyfarfodydd ar gyfer y plant yng Nghanolfan Sant Paul, yn ystod anerchiadau bore’r Gynhadledd. Caiff y plant gyfle i ddysgu storiau’r Beibl, canu caneuon, gwneud crefft a chael llond trol o hwyl!
I’r Ieuenctid – Llety’r Ifanc:
Llety’r ifanc yw’r ‘trac’ arbennig ar gyfer ieuenctid. Yn ogystal â llety arbennig i’r ifanc a’r prif gyfarfodydd, bydd gweithgareddau a chyfarfodydd arbennig wedi eu trefnu drwy gydol yr wythnos.
I’r Di-Gymraeg – Cyfieithu ar y Pryd:
Bydd cyfieithu ar y pryd i’r Saesneg ar gael ym mhob un o’r prif oedfaon. Bydd clustffonau i’w cael yn y cyntedd ar y ffordd i mewn i’r capel.
I’r rhai sy’n dod am y tro cyntaf:
Bydd aelodau o dîm croesawu y Gynhadledd ar gael ym mhob cyfarfod i roi cymorth ac i ateb unrhyw gwestiynau.
Costau:
Yn wahanol i gynadleddau eraill, nid oes tâl cofrestru gorfodol ar gyfer mynychu’r Gynhadledd. Wedi dweud hyn mae yna gostau sylweddol ynghlwm wrth drefnu a rhedeg y gynhadledd. Rydym yn amcangyfrif ei bod yn costio oddeutu £30 y pen i gynnal y gynhadledd ac rydym yn annog pobl i gyfrannu drwy’r casgliadau yn y cyfarfodydd a’r blychau penodedig.
Ysgrifennydd y Gynhadledd: Rhun Emlyn
Ysgrifenyddes Llety: Gaynor Jones
Cysylltu: swyddfa@mudiad-efengylaidd.org
Dolenni defnyddiol:
- Ble i aros ac archebu lle
- Seminarau (i ddod yn fuan)
- Siaradwyr
