Rydym wrthi'n datblygu'r wefan ar hyn o bryd.
Cysylltwch â ni os ydych angen gwybodaeth bellach.

Y Cwrs Diwinyddol Cymraeg

Arfogi Cristnogion i wasanaethu Duw yn ein cenhedlaeth

Beth yw’r CDC?
Cwrs ar gyfer Cristnogion o bob cefndir, gwaith a gweinidogaeth yw’r Cwrs diwinyddol. O’i fewn ceir modiwlau sy’n dysgu Astudiaethau Beiblaidd, Athrawiaeth, Hanes yr Eglwys a llawer mwy. Nid oes ymrwymiad amser mawr gan fod y modiwlau’n cael eu dysgu dros 4 dydd Sadwrn y flwyddyn yn unig, Caiff gweddill y modiwlau eu dysgu o gartref drwy ohebiaeth.

Pam astudio’r CDC?
Rydym bellach yn byw mewn cymdeithas fwy prysur a seciwlar nac a welwyd ers blynyddoedd, gyda mwy a mwy o Gristnogion o dan bwysau gwaith ac eto’n ymgymryd â cyfrifoldebau o fewn eu heglwys a’r cyfrifoldeb o rannu’r newyddion da am Iesu. Nod y cwrs yw arfogi Cristnogion i wasanaethu Crist yn well yn eu cymdeithas a’u eglwys. Y mae Duw wedi dangos ei hun i ni drwy ei air: yn Iesu Grist ac yn y Beibl. Bydd astudio’r Beibl yn arwain at wybodaeth ddyfnach o wirioneddau Cristnogol, ac yn arfogi Cristnogion i fyw’n well, gan wasanaethu Duw yn ymarferol yn ein cymdeithas.

Pwy all astudio’r CDC?
Mae’r cwrs yn agored i unrhyw un sydd eisiau dyfnhau ei wybodaeth o’r Beibl a gwirioneddau Duw. Mae croeso i ddynion a gwragedd, hen ac ifanc ddod ar y cwrs. Mae’r cwrs yn addas iawn i rai sy’n ymgymryd â gwaith o fewn eu eglwys, seiat neu Undeb Gristnogol, boed yn bregethu, gwaith plant neu’n cynnal astudiaeth Feiblaidd. Ond mae hefyd yn addas i Gristnogion o bob cefndir sydd eisiau dyfnhau eu profiad o Dduw.

Sut mae’r CDC yn gweithio?
Hyd y cwrs diwinyddol yw 2 flynedd, ond gellir cychwyn ar y cwrs ar ddechrau unrhyw flwyddyn. Bob blwyddyn trefnir 4 Sadwrn yn Aberystwyth , lle bydd darlithoedd yn y modiwlau Craidd (gweler isod) - disgwylir i bawb sy’n gwneud y cwrs fynychu’r darlithoedd hyn. Yn ogystal â’r modiwlau craidd bydd modiwlau atodol a fydd yn cael eu dysgu o gartref drwy ohebiaeth (rhyngrwyd, CDrom a’r post). Fel rhan o’r cwrs gellir astudio nifer fawr o fodiwlau atodol, ond rhaid astudio o leiaf un o grwp A ac un o grwp B . Ceir aseiniadau amrywiol o fewn y cwrs sydd wedi eu creu er mwyn cadarnhau gwybodaeth a rhoi gwedd ymarferol i’r cwrs.

Modiwlau a Darlithwyr - Gweler y ddolen isod am restr cyflawn o’r modiwlau a’r darlithwyr.

Mwy o wybodaeth? Os am fwy o wybodaeth cysylltwch â gweinyddwr y cwrs (Steffan Job - 01248 351417, steffanjob)

Tudalen Modiwlau

Tudalen Archebu