Darlithiwr – Gwyn Davies
Cipolwg bras ar y prif symudiadau yn hanes yr Eglwys, ynghyd â sylw i rai materion penodol sydd o’r pwys mwyaf i Gristnogion heddiw. Y bwriad yw cynnig cyflwyniad i’r bobl, y digwyddiadau, a’r syniadau sydd wedi dylanwadu ar yr Eglwys ar hyd y canrifoedd, gan ddangos eu harwyddocâd ar gyfer yr oes hon.
Y Darlithoedd:
Yr Eglwys Fore (2 ddarlith)
Cip ar y cyfnod, OC 100–500
Cyfraniad y credoau
Yr Oesoedd Canol (1 ddarlith)
Cip ar y cyfnod, OC 500–1500
Protestaniaeth a Phiwritaniaeth (3 darlith)
Cip ar y cyfnod, OC 1500–1700
Ai camgymeriad oedd y Diwygiad Protestannaidd?
Y Piwritaniaid ac egwyddorion addoli
Adfywiad a’i ganlyniadau (2 ddarlith)
Cip ar y cyfnod, OC 1700–1850
Methodistiaeth Galfinaidd a natur adfywiad crefyddol
Y byd modern (2 ddarlith)
Cip ar y cyfnod, OC 1850–2000
Crefydd heddiw ac yfory