Darlithiwr – Gwynn Williams
Mewn oes lle yr ystyrir ‘athrawiaeth’ yn rhywbeth sych a deddfol, a lle y credir gan lawer nad oes gwirionedd absoliwt, y bwriad yw dangos nad oes Gristnogaeth heb wirionedd ac athrawiaeth. Pwrpas y cwrs yw rhoi arolwg cyffredinol o’r gwirioneddau hynny sydd yn hanfodol i’r ffydd Gristnogol. Mae pynciau’r darlithiau yn dangos mae yn fras ac yn fuan y byddwn yn symud. Y gobaith yw y bydd y cwrs yn rhoi archwaeth i astudio a dysgu mwy am y gwirioneddau gogoneddus hyn.
Darlithoedd Athrawiaeth II
- Yr Ysbryd Glan
- Ail enedigaeth
- Cymhwyso’r iachawdwriaeth
- Cyfiawnhad
- Yr Eglwys a’i hordeiniadau
- Y pethau diwethaf