I archebu lle ar y gwersyll cliciwch yma
Mae Gwersylloedd y Mudiad yn cynnig pob math o bethau – cyfeillion gwych, gweithgareddau gwahanol, astudiaethau a sgyrsiau bywiog am y Beibl. Os ydych wedi bod sawl gwaith, neu’n meddwl dod am y tro cyntaf, cewch groeso cynnes ar Wersyll MEC. Mae neges y Beibl yn ganolog i holl wersylloedd MEC. Mae gan bob gwersyll Gaplan a fydd yn trafod thema o’r Beibl gyda’r gwersyllwyr bob dydd, sy ’n addas i oedran y gwersyll, boed y gwersyllwyr yn mynychu eglwys neu beidio. Caiff pob gwersyllwr ei roi mewn ystafell wely gyda thri neu bedwar o wersyllwyr eraill, gyda swyddogion ymroddgar yn gofalu amdanynt trwy ar wain astudiaethau beiblaidd, bod ar gael trwy gydol yr wythnos a sicrhau bod pawb yn y grwp yn elwa o holl weithgareddau’r gwersyll. Mae staff y gwersylloedd i gyd yn wirfoddolwyr Cristnogol wedi eu cyrchu o eglwysi efengylaidd. Ar gyfartaledd, bydd 1 swyddog i bob 3 gwersyllwr. Mae’n ofynnol i’r arweinwyr a’r swyddogion gyflwyno geirda gan eu heglwys a chwblhau gwiriad Swyddfa Cofnodion Troseddol. Mae cydweithio’n rhan hanfodol o wersyll, yn y gemau a’r tasgau ysgafn a roddir i’r timau. Mae’n gyfle da i wneud ffrindiau ac adnewyddu cyfeillgarwch.
Cyfyngir niferoedd y gwersylloedd yn fwriadol (tua 35-50 mewn gwersyll) i sicrhau bod pawb yn dod i nabod ei gilydd, hyd yn oed y gwersyllwyr swil. Yn aml caiff y gwersyllwyr yr un faint o anogaeth gan ffrindiau newydd ag a gânt gan y caplan a’r swyddogion. Mae gan bob gwersyll ddewis eang o weithgareddau; mae ’na rywbeth i blesio pawb, hyd yn oed y gwersyllwr mwyaf di-ddiddordeb! Chwaraeon, celf a chrefft, cystadlaethau, canwio, teithiau i’r traeth, tennis-bwrdd, nofio: dyma rai o’r gweithgareddau posibl. (Mae darparwyr gweithgareddau trwyddedig yn cael eu defnyddio ar gyfer pob gweithgaredd awyr agored.) Mae’r nosweithiau yn gyfle i fwynhau adloniant. Mae hyn oll yn gwneud gwersylloedd MEC
yn rhywbeth arbennig iawn i bawb. Dyna pam mae cymaint o wersyllwyr yn dod nôl bob blwyddyn, a’r gwersylloedd yn llenwi mor gyflym. Archebwch le mor gynnar ag sy’n bosib!
I archebu lle ar y gwersyll cliciwch yma